Bydd y grŵp o Ddyffryn Conwy, Mêl, yn rhyddhau eu sengl newydd ar 30 Hydref.
‘Cusco’ ydy enw trac ddiweddaraf Mêl, a dyma eu trydydd sengl gan ddilyn ‘Mêl i Gyd’ ym mis Tachwedd 2019 ac yna ‘Plisgyn’ a ryddhawyd ym mis Ebrill eleni.
Bydd y sengl newydd allan yn ddigidol ar label Recordiau Libertino.
Prosiect newydd Eryl Prys Jones, gynt o’r grŵp poblogaidd o ardal Llanrwst, Jen Jeniro, ydy Mêl ond mae bellach wedi adeiladu band o’i gwmpas, a dyma’r sengl gyntaf iddynt recordio fel grŵp llawn.
Gwnaed hynny yn stiwdio un arall o aelodau Jen Jeniro, Llŷr Pari, sef stiwdio Glan Llyn ym Melin y Coed ar ddiwedd mis Awst eleni.
Mae aelodaeth llawn y grŵp bellach yn cynnwys Rhodri Owen, Morgan Jones a George Amor, yn ogystal ag Eryl wrth gwrs.
Ar y sengl newydd mae cyfraniad y cynhyrchydd, Llŷr Pari, a hefyd Geraldine Mac Burney i’w glywed yn amlwg hefyd.
Yn ôl y band mae’r dylanwadau ar y gân yn cynnwys profiad diddorol ger dinas Cusco, neu Cuzco, yn Peru; englyn y ci defaid; MGM, sef albwm Congratulations; cactus San Pedro; Fabien Bistoubrette; Velvet Underground; Soft Machine (y llyfr a’r band); a dyddiadur y daith o 2016.
Ie lobscows llwyr yng ngwir draddodiad gwaith cyfansoddi Eryl Jones!
Dyma ‘Cusco’: