Mae’r grŵp Cymreig lliwgar sydd wedi’i lleoli yn Llundain, Melin Melyn, wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf ers dydd Mawrth 24 Tachwedd.
‘Rebecca’ ydy enw’r sengl Saesneg sy’n dilyn y trac Cymraeg ‘Mwydryn’ a ryddhawyd ganddynt ym mis Hydref diwethaf.
Mae’r trac newydd wedi’i dylanwadu arno’n fras gan derfysgoedd Rebecca yn erbyn tollbyrth yn Ne Orllewin Cymru yn y 1830au a 1840au.
Os ydych yn gyfarwydd â gwaith blaenorol Melin Melyn, bydd sŵn cerddoriaeth gwlad seicadelig a chwyrci ‘Rebecca’ yn canu cloch gyda chi.
Os ydy’r grŵp yn newydd i chi gallwch ddysgu mwy yn ein cyfweliad gyda’r ffryntman, Gruff Glyn, ar wefan Y Selar llynedd.