Mae Al Lewis wedi ymuno â’r rhestr sylweddol artistiaid Cymraeg cyfoes sydd wedi rhyddhau traciau Nadolig eleni wrth ryddhau ei sengl newydd ddydd Gwener diwethaf, 11 Rhagfyr.
Wir, mae o fel petai pawb yn rhyddhau trac Nadoligaidd eleni, ond er tegwch, mae gan Al hawl i honni mai fo ydy brenin caneuon Nadolig Cymru!
Teg dweud bod Al yn un o’r artistiaid Cymraeg mwyaf toreithiog pan ddaw at ryddhau caneuon Nadoligaidd – mae wedi cyhoeddi senglau Nadolig yn rheolaidd yn ystod ei yrfa, yn ogystal â chynnal cyngherddau Nadoligaidd poblogaidd iawn dros y blynyddoedd diwethaf.
‘Mi Gredaf i’ ydy enw ei ymgais diweddaraf ar gyfer yr ŵyl. Mae geiriau’r gân yn canolbwyntio ar bwysigrwydd cyfnod y Nadolig ac yn benodol sut mae neges y Nadolig yn parhau i gynnig gobaith i ni, er gwaethaf y rhwystrau a wynebwyd eleni.
Ag yntau’n methu cynnal ei sioe fyw Nadoligaidd arferol eleni, bydd y cerddor yn troi at y sgrin fach gyda rhaglen ‘Nadolig Al Lewis’ fydd yn ymddangos ar S4C ar ddydd Nadolig.
Mae’r trac newydd yn gipolwg ecsgliwsif o’r hyn sydd i’w ddisgwyl ar y rhaglen deledu pan fydd Al yn perfformio nifer o’i hoff ganeuon Nadoligaidd, gydag ambell wyneb cyfarwydd mewn lleoliadau amrywiol ar draws Cymru.
Mae ‘Mi Gredaf i’ yn ddilyniant i’w sengl ddiweddaraf ‘Wanting More’ a gafodd ei chynnwys ar restr chwarae ‘Welsh A-list’ BBC Radio Wales am bedair wythnos, yn ogystal â chael ei chwarae ar BBC Radio 2.
Ddechrau’r flwyddyn hefyd fe ryddhaodd ei albwm cysyniadol, ‘Te yn y Grug’ oedd yn seiliedig ar y gyfrol enwog gan Dr Kate Roberts. Cynhaliodd Al daith i gyd-fynd â’r albwm ar ddechrau’r flwyddyn hefyd gan ddenu adolygiadau ffafriol iawn.