Ani Glass ydy enillydd teitl Albwm Cymraeg y Flwyddyn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni gyda’r record hir gyntaf, ‘Mirores’.
Cyhoeddwyd y newyddion ddydd Sadwrn diwethaf, 1 Awst, ar BBC Radio Cymru fel rhan o weithgareddau Eisteddfod AmGen.
Rhyddhawyd Mirores ym mis Mawrth eleni ar label Recordiau NEB a hynny wedi cryn edrych ymlaen yn deillio o’r ffaith bod y record ar y gweill gan Ani ers tipyn o amser.
Mae’r albwm wedi’i gynhyrchu gan Ani Glass ei hun, ac wedi’i ysbrydoli gan y ddinas sydd wedi bod yn gartref iddi am y mwyafrif o’i bywyd, Caerdydd.
Efallai bod teitl yr albwm yn un anghyfarwydd, ac fe eglurodd Ani i’r Selar beth amser yn ôl fod yr enw’n dod o gyfuniad o enw’r arlunydd Miró, sef un o hoff artistiaid Ani, a’r gair “MIRAS”, sef y Gernyweg am “i edrych”, gyda’r bwriad o awgrymu person yn arsylwi.
Ffrwydro i amlygrwydd
Mae Ani yn gerddor profiadol ac amlwg iawn ers sawl blwyddyn – daeth i amlygrwydd am y tro cyntaf ar ddiwedd y 2000egau yn aelod o’r grŵp indie pop Pipettes gyda’i chwaer fawr Gwenno Saunders.
O dipyn i beth, enillodd Gwenno y wobr yma yn 2015 gyda’i albwm Y Dydd Olaf.
Yn dilyn cyfnod gyda’r band o Gaerdydd ‘The Lovely Wars’ ymdangosodd fel Ani Glass am y tro cyntaf yn 2015 gan ryddhau’r EP ‘Ffrwydrad Tawel’ yn 2017.
“Campwaith”
Mae gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn cael ei ddyfarnu’n flynyddol yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol, gyda phanel o feirniaid sy’n weithgar yn y diwydiant cerddoriaeth yn dewis rhestr fer, ac enillydd.
Y panel beirniaid eleni oedd Elan Evans, Siân Eleri Evans, Huw Foulkes, Gwenan Gibbard, Dyl Mei, Siân Meinir, Gwyn Owen a Neal Thompson.
“Mae Mirores yn gampwaith o’r cychwyn i’r diwedd” meddai un o’r beirniaid, Elan Evans.
“Mae’n cyfuno synau arbrofol, lyrics clyfar o dan haen drwchus o bop perffaith. Rydw i mor falch mai albwm Ani Glass sydd wedi dod i’r brig eleni, mae’n albwm sy’n mynd â chi ar daith, ac mae’n bleser llwyr i fod ar y daith honno.”
“Roedd safon y gystadleuaeth eleni yn aruthrol o uchel, a phob un albwm ar y rhestr fer yn haeddu bod yna, pob clod i bob un ohonynt, a diolch mawr am y wledd o gerddoriaeth.”
Roedd 11 o albyms ar y rhestr fer ar gyfer y wobr eleni, sef:
- 3 Hwr Doeth – Hip Hip Hwre
- Ani Glass – Mirores
- Carwyn Ellis & Rio 18 – Joia!
- Cynefin – Dilyn Afon
- Georgia Ruth – Mai
- Gruff Rhys – PANG!
- Gwilym Bowen Rhys – Arenig
- Los Blancos – Sbwriel Gwyn
- Llio Rhydderch – Sir Fôn Bach
- Mr – Amen
- Yr Ods – Iaith y Nefoedd
“Roedd gennym restr fer hynod eclectig eleni, gyda phob math o genres cerddorol yn cael eu cynrychioli” meddai Guto Brychan, un o drefnwyr Albwm Cymraeg y Flwyddyn.
“Braf oedd cael cyfle i drafod yr albymau gyda phanel ardderchog, oedd â barn gref am bob un o’r albymau a gyrhaeddodd y rhestr fer.”
Braint
Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi bod yn dyfarnu’r wobr ers 2014, a’r enillwyr blaenorol ydy The Gentle Good (2014), Gwenno (2015), Sŵnami (2016), Bendith (2017) a Mellt (2018). Ni ddyfarnwyd y wobr yn 2019.
“Roedd yn fraint cael bod ar y rhestr fer ymhlith grŵp o artistiaid mor ffantastig ac felly mae hi bron yn amhosib i mi ddisgrifio’r syndod o glywed y newyddion anhygoel yma” medda Ani Glass wrth ymateb i’r wobr.
“Fi mor ddiolchgar i’r Eisteddfod a Radio Cymru am gydlynu’r wobr hon ynghyd â’r holl ddigwyddiadau sy’n rhan o’r Eisteddfod a’r ŵyl AmGen, a hynny yn ystod cyfnod mor rhyfedd ac ansicr. Ond diolch yn enwedig i bawb sy’n parhau i greu a gweithio’n galed er mwyn cynnal a thyfu diwylliant bywiog ein gwlad fach.”
Roedd Ani’n derbyn tlws wedi’i gomisiynu’n arbennig ar gyfer yr achlysur gan yr artist Ann Catrin Evans.