Mr Phormula – llwyth o amser, llwyth o diwns

Does dim dwywaith bod 2020 wedi bod yn flwyddyn heriol iawn i’r diwydiant cerddoriaeth ar sawl lefel, ac yn sicr rydan ni’n gweld eisiau gigs yn fawr iawn. Ond wyddoch chi beth, rydan ni’n hoffi meddwl yn bositif yma yn Y Selar…ac yn ffeindio’n hunain yn cyhoeddi mwy a mwy o erthyglau ynglŷn â sut mae cerddorion Cymru wedi manteisio ar y flwyddyn anarferol yma.

Yr esiampl diweddaraf o hyn ydy Mr Phormula, sydd newydd ryddhau ei albwm diweddaraf ar ddydd Gwener 20 Tachwedd – albwm na fyddai mwy na thebyg wedi gweld golau dydd oni bai am Covid-19 a’r cloi mawr.

Wrth i’r pandemig agosáu at Gymru fach roedd Mr Phormula, aka Ed Holden, yn edrych ymlaen at flwyddyn brysur o weithdai cerddoriaeth mewn ysgolion a gigio’n eang gyda’i brosiect diweddaraf, Bardd.  Ond wrth i’r cyfyngiadau gyrraedd, chwalwyd y cynlluniau hynny dros nos a bu’n rhaid i’r rapiwr a chynhyrchydd ail-feddwl y flwyddyn.

“Mae’r albwm yma’n ganlyniad pur o fod mewn locdown” meddai Ed wrth Y Selar.

“Ma’n hollol boncyrs rili…cychwyn y flwyddyn, yn meddwl fi, o’n i ond am ganolbwyntio ar Bardd, sef y prif fand dwi’n chwarae efo nhw. Wedyn digwyddodd Covid!

“Yn sydyn iawn nes i ffeindio fy hun efo fy ngwaith i gyd wedi’i ganslo. Yn ffodus iawn oedd y stiwdio [Stiwdio Panad – sydd yng nghartref Ed] wedi cael refurb rhyw bythefnos cyn locdown. Felly oedd genna’i lwyth o amser ar fy nwylo, a dim gwaith addysg…a nes i feddwl i fy hun, a’i ati i wneud albwm dwi’n meddwl!

“A dyna lle gychwynnodd y daith gerddorol ma – nyts! Ma’r holl beth ‘di cymryd rhyw chwech mis solid.”

Record uchelgeisiol

Rhyddhawyd albwm diwethaf Mr Phormula, Llais, yn 2017 a gellir dadlau’n gryf ei fod yn record arloesol, yn sicr yn y Gymraeg gan mai llais Ed ydy’r unig offeryn sy’n cael ei ddefnyddio ar y caneuon.

Mae Tiwns yn mynd i begwn hollol wahanol, ac mae’r cerddor a chynhyrchydd talentog yn dweud mai hwn ydy ei albwm mwyaf uchelgeisiol hyd yma.

“Y tro yma nes i benderfynu mynd all out efo’r cynhyrchu, manylion sain, samples, ac mae’r vibe yn hollol wahanol i Llais, a Stranger [ei EP a ryddhawyd llynedd] rili” meddai Ed.

“Bach mwy o concept EP oedd Stranger, ond ma Tiwns yn teimlo mwy fel corff o waith dwi di cynhyrchu a chwysu drosto. Ma ‘na lot i siarad amdano does, felly oedd genna’i lwyth o ddewis o ran geiriau.”

A beth am uchelgais y record?

“Dwm’bo rili, jyst teimlad yr holl beth….i fi anyways…ma’r byd mewn sefyllfa drist iawn tydi, ond yn siarad o safbwynt unigolyn, dwi ‘di ffeindio hi’n refreshing bod allan yn ganol nunlle, mewn bybyl bach, gyda stiwdio hollol ffresh a llwyth o amser i fod yn greadigol.

“Ma hyn yn bendant wedi bod o fantais i fi, a dwi di trio cael y teimladau yna allan ar y traciau i gyd rili.

“Os fyswn i ddim efo’r albwm i weithio arno, fyswn i wedi colli’r plot yn saff i ti! Dwi’n ffodus iawn.”

Casglu tiwns

Er bod Ed wedi cadw’r albwm yn weddol dawel wrth weithio arno, roedd awgrym o rywbeth diddorol ar y gweill rhyw fis yn ôl wrth iddo droi at y cyfryngau cymdeithasol gyda chais i’r cyhoedd gyfrannu at y record newydd.

Yn syml iawn, gofynnodd y cerddor i bobl yrru recordiad o’u hunain yn dweud y gair ‘tiwns’ iddo er mwyn eu cynnwys ar y gân o’r un enw. Ac roedd yr ymateb yn dda…

“T’mod be…anhygoel!! Dwi’n dal i gael recordings sain efo pobl randym yn deud ‘tiwns’ sti, haha.

“Yn y diwedd ges i rhyw 120, a dwi di gallu cael nhw gyd mewn [ar y trac]…heblaw y rhai ges i ar ôl gorffen yr albwm yn amlwg!”

Un fantais fawr i Ed allu cynhyrchu’r record mor gyflym, yn enwedig gyda’r cyfyngiadau eleni, ydy’r ffaith fod ganddo stiwdio bersonol yn ei gartref, a’i fod yn cynhyrchu ei gerddoriaeth ei hun. Yn wahanol iawn i lawer o artistiaid eraill sydd wedi recordio eleni felly, roedd y broses gynhyrchu’n ddigon tebyg i’r arfer.

“Yup, pob dim union yr un peth ag arfer yn Stiwdio Panad. Yr unig wahaniaeth oedd bod genna’i lwyth o amser i rili canolbwyntio ar y pethau manwl ac arbrofi gyda phrosesau newydd.

“Dwi’m yn cofio’r tro diwetha’ i mi gael arbrofi fel’na, a dysgu llwyth am dechnegau newydd.”

Ond nawr bod yr albwm allan, mae Ed yn wynebu’r un heriau a phawb arall o ran hyrwyddo ei gynnyrch diweddaraf, heb unrhyw sôn am gigs byw yn dychwelyd yn fuan.

Er hynny, mae’n awyddus i wneud popeth posib i hyrwyddo, ac roedd Mr Phormula yn gwneud ei rownds ar y cyfryngau ar y diwrnod rhyddhau. Bydd rhai wedi dal ei gyfweliad ar Heno, S4C gobeithio, ac mae cyfres Lŵp hefyd wedi rhyddhau sesiwn ganddo [isod] ar eu llwyfannau digidol.

Er gwaetha’r flwyddyn heriol a’r cyfyngiadau felly, dyma chi foi sydd wedi parhau’r mor bositif, a chreadigol ag arfer, a boi sy’n sicr efo digon o diwns i’w rhannu.

Dyma ‘Mynd yn Ol’ o’r sesiwn Lŵp: