Mae’r grŵp dirgel o Gaerdydd, Ghostlawns, wedi cyhoeddi mwy o fanylion am eu halbwm llawn cyntaf sy’n cael ei ryddhau ar 30 Hydref.
Enw’r albwm fydd ‘Motorik’, ac mae’n cael ei ryddhau’n ddigidol ac ar CD ar label Sub Records. Bydd nifer cyfyngedig o gopïau o’r CD ar gael i’w harchebu trwy safle Bandcamp y grŵp.
Mae’r albwm wedi’i recordio gan y cynhyrchydd uchel ei barch, Charlie Francis, sydd wedi gweithio gydag REM a Robyn Hitchcock yn y gorffennol.
Rydym eisoes wedi cael cyfle i glywed tair o ganeuon yr albwm sef y trac i roi blas, ‘Y Gorwel’, a’r ddwy sengl, ‘Breaking Out’ a ‘FFOI’ sydd wedi’u rhyddhau ganddynt yn swyddogol.
Mae’r traciau hyn wedi eu chwarae’n rhyngwladol ar y radio gan gynnwys gorsafoedd yn y DU, UDA, Canada, De America, Awstralia, Ffrainc ac Yr Almaen.
Er mai eleni rydym yn gweld y cynnyrch cyntaf gan Ghostlawns, mae’r grŵp wedi ymddangos mewn gwyliau showcase sy’n cynnwys FOCUS Wales a gŵyl Sŵn cyn hyn, ynghyd â chyfrannu caneuon ar gyfer albyms aml-gyfrannog ‘Hope Not Hate’ a ‘Iechyd Da’ sef yr albwm deyrnged Gorky’s Zygotic Mynci.
Mae union aelodau’r grŵp yn cael ei gadw’n ddirgel, ond maent i gyd yn gerddorion amlwg yng Nghymru ac wedi chwarae mewn grwpiau sy’n cynnwys Right Hand Left Hand, Gulp, The Gentle Good, Cotton Wolf, Manchuko a Damo Suzuki.