Mae’r gantores o Gricieth, aeth ymlaen i fod yn seren Bhangara byd eang, Nesdi Jones, yn ôl wedi egwyl gyda sengl Gymraeg newydd.
‘Deud y Gwir’ ydy enw’r trac newydd gan Nesdi, ac mae allan yn swyddogol ar 23 Ionawr.
Mae Nesdi’n unigryw yn yr ystyr ei bod yn canu’n y Gymraeg, yn y Saesneg a hefyd mewn Hindi a Punjabi.
Rhyddhaodd ei sengl gyntaf, sef ‘London’, yn 2014 ac mae’r fideo bellach wedi’i wylio dros 19 miliwn o weithiau ar YouTube. Ers hynny mae Nesdi wedi bod yn gweithio gyda labeli ac artistiaid sefydledig Bhangara, gan arwain hefyd at raglen ddogfen o’r enw ‘Seren Bhangra’ ar S4C.
Ysgrifennu i’w hun
Cynhyrchwyd ‘Deud y Gwir’ gan Juss Musik, ac fe’i gyfieithwyd gan Arwel Lloyd.
Yn ôl Nesdi, mae ei chynnyrch diweddaraf yn dynodi newid yn ei agwedd at gerddoriaeth.
“Ar ôl gweithio gydag artistiaid dylanwadol a mwynhau, teimlais ei fod o’n amser i mi ysgrifennu rhywbeth i fi fy hun ac ddim i caneuon pobl eraill gan gadw dylanwadau o’r gerddoriaeth De Asia rydw i wrth fy modd efo.”
“Cân am dorri i fyny gyda rhywun sydd yn gwneud i ti deimlo’n dda” ydy disgrifiad Nesdi o’r sengl newydd.
Gan ddilyn arddull arferol Nesdi, mae ‘Deud y Gwir’ yn gymysgedd o Punjabi a Chymraeg, ac mae’r gantores yn gobeithio bydd pobl yn cysylltu â’r geiriau.