Noson Adfer Clwb Y Bont

Bydd cyngerdd mawreddog yn cael ei gynnal ar nos Wener 13 Mawrth er mwyn codi arian at adfer Clwb y Bont, Pontypridd yn dilyn difrod sylweddol i’r ganolfan enwog.

Cafodd y lleoliad, sy’n gyfarwydd iawn am lwyfannu gigs Cymraeg yn rheolaidd, ei ddifrodi’n dilyn llifogydd diweddar ym Mhontypridd pan darodd Storm Dennis yn Ne Cymru.

Agorwyd ymgyrch i godi arian tuag atgyweirio’r difrod yn fuan wedyn, ac mae nifer o artistiaid amlycaf Cymru wedi cytuno i ddod ynghyd ar gyfer y cyngerdd yn Y Ffatri Bop, Porth ar 13 Mawrth.

Mae’r artistiaid sy’n perfformio yn cynnwys Eden, Al Lewis, Elin Fflur, Mei Gwynedd, Bryn Fôn a’r Band, Catsgam, Lloyd Macey a’r Band a Huw Chiswell. Bydd y noson yn cael ei chyflwyno gan Rhydian Bowen Phillips a Shelley Rees.

Aeth y tocynnau ar werth ar fore Dydd Gŵyl Dewi am bris o £30. Menter Iaith Rhondda Cynon Taf sy’n bennaf gyfrifol am drefnu’r digwyddiad ar y cyd gyda chwmni teledu Avanti a  gyda chymorth gan AB Acoustics a Plant y Cymoedd.