‘O Nefoedd!’ – Sengl newydd Bandicoot

Mae’r grŵp ifanc o Abertawe, Bandicoot, wedi rhyddhau eu hail sengl Gymraeg ddydd Gwener diwethaf, 7 Chwefror.

‘O Nefoedd!’ ydy enw’r sengl newydd sydd allan ar label Bica, ac mae’n dilyn eu sengl gyntaf yn y Gymraeg, ‘Glaw Ail Law’ a ryddhawyd fis Gorffennaf diwethaf. 

Grŵp pedwar aelod ydy Bandicoot sef Rhys Underdown (llais, gitâr, sax, keys), Bill Stillman (drymiau), Conor Mclaughlan (gitâr) a Tom Emlyn (llais a bas).

Mae’r grŵp wedi bod yn prysur greu argraff gyda’u set Saesneg ers rhai blynyddoedd gan chwarae ledled Prydain gan gynnwys yn ninasoedd Manceinion, Llundain, Caeredin, Caerdydd a Bryste yn cefnogi bandiau fel VANT, Blaenavon, The Sherlocks, Spring Kin, Estrons, Wooze a llawer mwy.

Yn ystod 2019 fe benderfynodd y grŵp droi at ganu rhywfaint yn y Gymraeg gan dderbyn cyllid o gronfa lansio Gorwelion i recordio ‘Glaw Ail Law’ cyn cyhoeddi fideo ar gyfer y trac ym mis Ionawr eleni.

Deialog rhwng dau feddwl

Gyda sŵn cyffrous ac egnïol, mae Bandicoot yn cael eu disgrifio fel grŵp hynod unigryw.

Mae eu caneoun wedi’u crefftio’n ofalus, yn cyfuno melodïau aflonyddus ond swynol, llinellau gitâr dyrys, haenau arbrofol gyda sacsoffon yn goron ar y cwbwl.

Mae ‘O Nefoedd! (Oh Heavens!)’ yn ddeialog rhwng dau feddwl dryslyd, gydag eironi a chenedlaetholdeb drwyddi-draw.

Ysgrifennwyd y geiriau dwyieithog ar y cyd rhwng Rhys Underdown a Tom Emlyn, ac ysgrifennwyd y gerddoriaeth gan Billy Stillman a Kieran Doe ar ôl gwylio KEYS yn chwarae yn Abertawe.

Ysbrydolwyd y gân gan amryw o fandiau gwahanol gan gynnwys Allen Ginsberg a Super Furry Animals.

Dydd Miwsig Cymru 2020 – Bandicoot

?: Bandicoot – 'O Nefoedd! (O Heavens!)'#WelshLanguageMusicDay#DyddMiwsigCymruMore Welsh music ? Horizons / Gorwelion

Posted by BBC Cymru Wales on Friday, 7 February 2020