Ocsiwn Ebay Melyn

Mae label Recordiau Libertino wedi mynd ati i gefnogi elusen Tarian Cymru trwy gyfrannu 6 copi o record feinyl ‘Melyn’ gan Adwaith i’w gwerthu fel ocsiwn ar Ebay.

Roedd y copi cyntaf o’r record ar werth wythnos diwethaf a llwyddodd i godi dros £150.

Mae’r record wrth gwrs yn un amlwg dros ben ar ôl derbyn clod o sawl cyfeiriad a chipio’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig llynedd.

Mae’r 6 copi sy’n mynd ar ocsiwn yn dod o rediad cyntaf y fersiwn feinyl – gwerthwyd pob copi o’r rhediad yma gwta bythefnos ar ôl rhyddhau’r albwm.

Yn ogystal â’r record yma, mae pawb sy’n prynu copi o’r ocsiwn i ddebyn copi wedi’i lofnodi o ail albwm Adwaith fydd allan yn 2021.

Daeth yr ocsiwn ar gyfer yr ail gopi o’r 6 i ben dsydd Sul diwethaf (17 Mai)  gan gyrraedd pris o £115.50.