Ogof – EP Newydd Plyci allan yn fuan

Bydd EP newydd yr artist electroneg, Plyci, allan ddydd Llun nesaf, 11 Mai.

Plyci ydy prosiect y cerddor Gerallt Ruggiero, a ddaw’n wreiddiol o‘r Rhyl, ond sydd bellach wedi ymgartrefu yn Nottingham.

‘Ogof’ ydy enw’r casgliad byr newydd sy’n cynnwys 4 o draciau – ‘Amaris’; ‘Cau’; ‘Twonc’; a ‘Sobor’.

Mae’r record fer ddiweddaraf yn dilyn yn dynn ar sodlau’r EP ‘Summit’ a ryddhawyd ar 24 Rhagfyr, ac yn wir EP arall o’r enw ‘Tannau’ a ryddhawyd ym mis Mai 2019.

“Cymysgedd o gerddoriaeth ambient a bach o techno ac IDM boncyrs” ydy disgrifiad Gerallt o’r cynnyrch diweddaraf.

Mae’n amlwg mewn hwyliau cynhyrchiol ar hyn o bryd gyda thri EP mewn blwyddyn, a bydd hynny’n parhau yn 2020 gan ei fod yn cynllunio i ryddhau albwm newydd  rhyw ben yn ogystal, ers nad oes ganddo amserlen ar gyfer hyn eto. Rhyddhaodd ei albwm diwethaf, ‘Sŵn’ yn 2018.

Bydd yr EP allan yn ddigidol ar safle Bandcamp Plyci wythnos nesaf ond mae modd rhag archebu cyn hynny.