Mae pedwar o recordiau ôl-gatalog y grŵp roc Kentucky AFC wedi eu rhyddhau ar lwyfannau digidol am y tro cyntaf ddydd Gwener, 12 Mehefin.
Kentucky AFC oedd un o grwpiau amlycaf Cymru rhwng tua 2004 a 2008.
Roedden nhw’n fwyaf cyfarwydd am eu gigs byw egnïol, ond rhyddhawyd nifer o recordiau ardderchog ganddynt hefyd.
Yr aelodau oedd Gethin Evans ar y dryms, Huw Owen ar y gitâr fas ac Endaf Roberts ar y gitâr ac yn canu. Mae Gethin wedi chwarae i nifer o grwpiau ers hynny gan gynnwys Genod Droog a Band Pres Llareggub, Huw wedi mynd ymlaen i berfformio fel Mr Huw, ac Endaf wedi cyhoeddi cerddoriaeth gyda Pry Cry (gan gynnwys un o’r caneuon hyfryta erioed, ‘Diwrnod Braf‘).
Roedden nhw eisoes wedi creu dipyn o argraff cyn rhyddhau eu halbwm cyntaf, gan gipio 5 o Wobrau RAP Radio Cymru ar ddechrau 2004. Yn hwyrach y flwyddyn honno, fe ryddhawyd eu halbwm cyntaf, hunan-deitlog, ar label Boobytrap, label a ffurfiwyd gan Huw Stephens, ac oedd yn gyfrifol am gynnyrch llawer o grwpiau gorau’r cyfnod yna gan gynnwys Texas Radio Band a Pep le Pew.
Atgofion
Mae’r ôl-gatalog Kentucky AFC sydd wedi’i ryddhau’n ddigidol yn cynnwys y sengl ddwbl ‘Outlaw / 11’, yr EP IASOBE?, ac yr albyms FNORD a Kentucky AFC.
“Mae’n braf cael gallu rhyddhau ôl-catalog Kentucky AFC, o’r diwedd” meddai Gethin Evans.
“Ar ôl blynyddoedd o feddwl am y peth, mae’r cyfnod yma wedi rhoi yr amser i ni yrru ebost grŵp ‘n gilydd i gytuno i rhyddhau dwy albwm, sengl ac EP cynhyrchwyd dros 5 mlynedd o fodolaeth y band.”
“Mae gwrando ar y deunydd yn dod a lot o atgofion o fod yn aelod o Kentucky AFC – yn benodol y gigs anhygoel oedden ni fel tri yn cael y fraint o berfformio ynddyn nhw. Mae’n amhosib dewis un gig, un ŵyl, un perfformiad fel yr uchafbwynt, mae ’na gymaint, ac mae o gyd yn ’chydig o blur.”
“Mae bod mewn band yn brofiad unigryw – mae ’na recordio a gigio, ond mae 90% o’r amser yn cael ei dreulio yn disgwyl i chwarae neu yn teithio i rhywla. Ac yn yr adegau yma dwi’n edrych yn ôl yn fy nghyfnod i hefo’r band gyda gwerthfawrogiad a gwên. Y cyfeillgarwch ar hwyl. Faswn i methu gofyn am ddau cyd aelod gwell i rhannu’r profiadau a gafwyd fel Kentucky AFC.”
“Roedd o’n wir yn gyfnod cyffrous, a digwydd bod oedd Huw a Endaf yn gallu ysgrifennu caneuon anhygoel roeddwn i yn gallu ‘waldio’ drums iddyn nhw. Roedd o’n fraint cael rhannu profiadau o fod yn aelod o Kentucky AFC hefo Endaf a Huw.”
Er bod y triawd wedi chwalu ers tua deuddeg mlynedd, mae’n amlwg fod y cyfeillgarwch a ffurfiodd rhwng aelodau Kentucky AFC yn parhau’n gryf, ac mae Huw yn cadarnhau teimladau Gethin.
“Mi roedd yr ymarfer, gigio, sgwennu, teithio, bwyta, cysgu, bod yn ffrindiau agos a popeth arall yn bleser llwyr ei wneud gyda Endaf a Geth. Pocedi braf i fyw ynddynt” ychwanegodd Huw
“Allai mond gobeithio y ceith pawb gymaint o bleser gwrando ar y gerddoriaeth a cafo ni yn ei wneud!”