Ddydd Gwener diwethaf, 12 Mehefin, fe ryddhawyd tair o recordiau Lowri Evans ar lwyfannau digidol am y tro cyntaf.
Mae’r ganotres o Sir Benfro wedi hen sefydlu ei hun ar y sin ddwyieithog yng Nghymru, ac fe ryddhawyd y tair record yma yn ail hanner y 2000au. Y tair record dan sylw ydy ‘Clyw Sibrydion’, ‘Kick The Sand’ a ‘Dim ond Maria’ – y tri wedi eu rhyddhau ar label Recordiau Fflach.
‘Clyw Sibrydion’ oedd albwm Cymraeg cyntaf Lowri a ryddhawyd yn 2006. Cyn hynny roedd y gantores wedi bod yn astudio ‘Cerddoriaeth Jazz, Poblogaidd a Masnachol’ yn Newcastle-upon-Tyne ble bu’n gigio tipyn, yn ogystal â recordio dau albwm.
Dychwelodd i’w thref genedigol, sef Trefdraeth yn Sir Benfro, ar ôl graddio gan ddechrau gigio ac ennill ‘Sesiwn y Flwyddyn’ Radio Sir Benfro yn 2004. Cyfarfu â Lee Mason yn fuan wedyn yn 2005 gan ffurfio partneriaeth effeithiol sydd wedi para hyd heddiw wrth iddo hefyd gynhyrchu ei EP ‘Little People’.
Flwyddyn ar ôl rhyddhau ‘Clyw Sibrydion’, roedd Lowri’n barod i ryddhau albwm arall, ‘Kick the Sand’ yn 2007 – record a gymysgwyd gan Lee a Wyn L. Jones. Erbyn hyn roedd Lowri’n dechrau denu sylw rhyngwladol, ac yn arbennig felly gan Dan Jackie Hayden o Hot Press yn Iwerddon.
Mae’r albwm yn cynnwys cyfraniadau sawl cerddor ardderchog – Nerys Richards, Andy Coughlan, Arran Ahmun, Henry Sears a Melt Kingston.
Rhyddhawyd y cryno albwm ‘Dim Da Maria’ yn 2008 ac fe’i cynhyrchwyd gan Andy Coughlan. Chwech trac sydd ar y record yma ac mae Lee Mason, Nigel Hopkins a Sam Christie yn chwarae ar bob un gyda Lowri.
Mae Lowri wedi bod yn cynnal gigs rhithiol rheolaidd ar ei safle Facebook yn ystod cyfnod y cloi mawr, gan gynnwys berfformio yn y ‘Gig Cartref Gwaelod’ cyntaf ar 24 Mai.
Lansiad Gigs CARTREF Gwaelod gyda Lowri Evans & Lee MasonI ddangos eich gwerthfawrogiad i Lowri a Lee beth am wneud cyfraniad yn uniongyrchol iddyn nhw trwy glicio https://www.paypal.me/leemasonshimimusicAc os hoffech brynu CD neu nwyddau Lowri a Lee cliciwch yma: http://www.lowrievans.co.uk/
Posted by Gigs Cantre'r Gwaelod on Sunday, 24 May 2020