Omaloma i ryddhau Swish ddydd Gwener yma

Bydd albwm cyntaf y grŵp o Ddyffryn Conwy, Omaloma, yn cael ei ryddhau ddydd Gwener yma, 3 Ebrill.

Swish ydy enw record hir gyntaf y grŵp seicadelig sy’n cael ei arwain gan George Amor, a label recordiau Cae Gwyn sy’n rhyddhau.

Rhyddhaodd Omaloma sengl ‘Walk The Dog’ fel tamaid i aros pryd ddiwedd mis Tachwedd ac ar ôl gweld cyfres o senglau’n cael eu rhyddhau ganddynt ers ffurfio yn 2015, bydd cryn edrych mlaen at eu record hir gyntaf.

Mae’r band wedi creu cryn argraff yng Nghymru a thu hwnt dros yr hanner degawd diwethaf gan berfformio yng ngŵyl Latitude ddwywaith, yn ogystal â Gŵyl y Dyn Gwyrdd a Gŵyl Rhif 6.

Yn 2018, cefnogodd y band Gwenno ar ei thaith o gwmpas y Deyrnas Unedig. Hyd at heddiw, Omaloma yw’r unig fand i gael eu dewis fel artist y mis BBC Introducing, ddwywaith.

Maent wedi derbyn cefnogaeth gan Huw Stephens ar BBC Radio 1, yn ogystal â chael eu chwarae ar raglenni Lauren Laverne, Tom Ravenscroft, Gideon Coe a Tom Robinson ar BBC 6 Music.

Aelod amlwg arall o’r grŵp, Llŷr Pari sydd wedi recordio a chynhyrchu’r albwm yn Stiwdio Glan Llyn, Melin y Coed. Aelodau eraill y grŵp ydy Daf Owain (Bas), Alex Morrisomn (synths) a Gruff ab Arwel (gitâr).