Y Selar Postiwyd ar 21 Chwefror 2020 Oriel Luniau: Gwobrau’r Selar Roedd yn benwythnos cofiadwy arall yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth wythnos diwethaf, ac yn ffodus iawn roedd Daf o ffotoNant yna i gofnodi’r cyfan gyda’i gamera. Dyma oriel luniau Gwobrau’r Selar gyda rhai o’r uchafbwyntiau… Cyflwynydd gwych y Gwobrau eto eleni oedd Elan Evans Dienw oedd y band cyntaf ar y llwyfan nos Wener (Llun: FfotoNant / Y Selar) Elis Derby yn derbyn ei wobr ‘Artist Unigol Gorau’ gan Mei o Rownd a Rownd Elis yn perfformio yng Ngwobrau’r Selar – Chwefror 2020 lle enillodd y wobr ‘Artist Unigol Gorau 2019’ Un o uchafbwyntiau nos Wener oedd Elin Fflur yn rhoi sypreis i Tudur Owen ar Facetime – fo oedd enillydd ‘Cyflwynydd Gorau’ Fleur de Lys yn derbyn eu gwobr ‘Record Hir Orau’ gan Emlyn o gwmni Diogel Dyletswyddau dwbl i Elin Fflur – ffilmio eitem i Heno, a chyflwyno dwy wobr ar ran Tinopolis Dim gwobr i Lewys eleni, ond un o berfformiadau gorau’r penwythnos Lewys Elan Evans yn derbyn y wobr ‘Hyrwyddwr Annibynnol Gorau’ ar ran criw Clwb Ifor Bach Y dorf wrth eu bodd Gwilym gydag un o’u tair gwobr – Rhys Gwynfor gyflwynodd y wobr ‘Fideo Gorau’ ar ran Hansh Minglo gefn llwyfan Roedd Fleur de Lys mewn hwyliau da ar ôl eu gwobr ‘Record Hir Orau’ Rhys o Fleur de Lys – un o ffyntmen mwyaf egniol Cymru ar hyn o bryd Gwilym oedd yn cloi gig nos Wener Ifan yn ymgysylltu â’r gynulleifa! Cafodd Gwilym bach o help gan fandiau eraill nos Wener ar gyfer Catalonia Roedd Eädyth ar lwyfan digwyddiad Gwobrau’r Selar llynedd ac mae wedi cael blwyddyn brysur iawn yn 2020 Mae partneriaeth Eädyth gyda Shamoniks wedi codi ei sŵn i lefel arall, unigryw iawn Kim Hon gipiodd y wobr am y ‘Band neu Artist Newydd Gorau’ y tro yma Iwan Fôn ar fform fel arfer Elan Elidyr oedd y cyflwyno’r wobr ‘Record Fer Orau’ i Papur Wal ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg Guto Huws – drymar Papur Wal Papur Wal Llew ddim yn cael cystal hwyl ag Elin Fflur wrth drio Faceteimio Yws Gwynedd 3 Hwr Doeth yn meddiannu’r llwyfan Dawnsiwr gorau 3 Hwr Doeth – dim dowt Los Blancos oedd yn cloi’r llwyfan nos Sadwrn Set arall gwych gan Los Blancos Y dorf yn dangos ei gwerthfawrogiad i’r artistiaid