Parisa Fouladi yn achub ar gyfle’r cyfnod clo

Gellir dadlau fod y cyfnod clo wedi bod yn un o ddau begwn i artistiaid cerddorol Cymraeg.

Ar y naill law, mae’r diwydiant cerddoriaeth fyw wedi dod i stop, ac o ganlyniad wrth gwrs mae’r bandiau hynny sydd fel arfer yn ennill eu bara menyn ar lwyfannau gwyliau’r haf a gigs eraill wedi bod yn ddigon tawel.

Ond ar y llaw arall, mae digon o esiamplau hefyd o artistiaid sydd wedi manteisio ar y sefyllfa i sefydlu prosiectau newydd, neu efallai atgyfodi rhai segur.

Mae’r enghreifftiau Cymraeg amlwg o hyn yn cynnwys enwau fel Teleri, Hap a Damwain, Derw, Cwtsh, Static Inc ac Eilir Pierce sydd oll wedi bod yn weithgar dros y misoedd diwethaf.

Un aelod o’r grŵp pop siambr newydd o Gaerdydd, Derw, ydy Elin Fouladi sydd hefyd bellach yn barod i ryddhau ei sengl unigol newydd dan yr enw Parisa Fouladi.

Themâu amserol

Nid yw Elin yn wyneb newydd i’r sin gerddoriaeth Gymraeg – yn y gorffennol mae wedi perfformio dan yr enw El Parisa, gyda gynnwys cydweithio gyda’r grŵp dawns Clinigol, ac efallai bydd ambell un yn cofio ei hymgais Cân i Gymru 2013 gyda’r cerddor Ben Dabson, ‘Aur ac Arian’.

Derw

Er hynny, cymharol dawel fu Elin dros y cwpl o flynyddoedd diwethaf, ond mae’n amlwg ei bod wedi cael rhyw egni o’r newydd wrth ei gweld yn weithgar gyda cherddoriaeth Parisa Fouladi, Derw a hefyd ei phrosiect electronig, Toombs.

‘Achub Fi’ ydy enw ei sengl unigol newydd sydd allan heddiw, 16 Hydref – trac a ysgrifennwyd ar y cyd gyda Stef Dale, ac a gynhyrchwyd gan yr ardderchog Krissie Jenkins.

“Nes i sgwennu ‘Achub Fi’ cyn y cyfnod clo cyntaf” eglura Elin.

“…ond nes i ddim ei recordio tan oeddem ni yn y cyfnod clo ac mewn ffordd mae’r gân rŵan yn golygu dau beth i mi – tor calon, anobaith a’r teimlad o fod yn styc, yn desperate i fod yn rhydd o’r boen ar ôl gorffen perthynas; a hefyd y teimlad o anobaith dwi, a llawer o bobl eraill, dwi’n siŵr, wedi ei deimlo yn y sefyllfa rydym ni ynddi ar hyn o bryd.”

Yn sicr bydd sawl un yn gallu uniaethu â themâu’r sengl, a bydd hyd yn oed mwy yn cael eu swyno gan alaw R&B a llais soul cyfareddol Elin ar y trac. Y newyddion da ydy bod mwy i ddod gan Parisa Fouladi yn fuan.

“Ar hyn o bryd dwi’n gweithio tuag at rhyddhau EP yn fuan gyda’r sengl nesa ‘Cysgod yn y Golau’ allan yn fuan, gobeithio! Dwi jest angen recordio hon, wedyn bydd hi’n barod.”

Mae’r sengl nesaf yn ddatblygiad o recordiad blaenorol a wnaed fel sesiwn i Radio Cymru.

“Nes i ei recordio i Radio Cymru nôl ym mis Ebrill fel sesiwn tŷ ac ers hynny mae wedi ei chwarae yn reit aml ar Radio Cymru gan bobl fel Tudur Owen a Georgia Ruth” meddai’r gantores Iranaidd-Gymreig.

Y llais yn ganolbwynt

O wrando ar ‘Achub Fi’, bydd hi ddim yn syndod clywed enwau’r artistiaid sydd wedi dylanwadu ar Elin, yn eu mysg yr artistiaid soul clasurol Nina Simone, Aretha Franklin, Etta James a Roberta Flack.

Mae hefyd yn rhestru enwau artistiaid fel Erykha Badu, Jill Scott, Lauren Hill, Sampha, Sudan Archives, Santigold, The Roots, Kamasi Washington, Quadron, Quantic, Kamaal Williams ac eraill wrth drafod y gerddoriaeth sy’n ei hysgogi.

Does dim amheuaeth mai llais pwerus Parisa Fouladi ydy ei harf mwyaf, ac mae amlwg ei bod yn barod iawn i wneud y mwyaf o hynny.

“Mae’n neis cael prosiect lle fedrai ganolbwyntio ar y llais fwy na’r arfer achos dwi ’di gwario blynyddoedd yn creu cerddoriaeth electronig” meddai.

“Dwi wastad wedi canu Soul, Funk a Jazz mewn bandiau. Mae creu cerddoriaeth sy’n sbarduno emosiwn yn y gwrandawyr wastad di bod yn bwysig i mi ac roeddwn i isio creu rhywbeth mwy raw gyda chymysgedd o offerynnau byw ac electronig.”

“Dwi’n cael fy nylanwadu’n fawr gan hip-hop beats a cherddoriaeth trip-hop ac yn dal i ffeindio sŵn Parisa Fouladi rili.”

“Mae’n anodd ffocysu pan yn cyfansoddi achos weithie dwi’n cyfansoddi pethau sy’n ffitio mewn yn fwy i fy mhrosiect electronig, Toombs, felly dwi jest angen gweld beth sy’n dod allan a pa mŵd dwi ynddo pan yn cyfansoddi! Dyna sy’n ei wneud mor exciting rili!”

Mae ‘Achub Fi’ allan yn ddigidol, ac yn cael ei rhyddhau’n annibynnol. Dyma gyfle arbennig i chi glywed y trac isod:

Geiriau: Owain Schiavone