‘Parti Grwndi’ – sengl newydd Kim Hon am ddim

Mae Kim Hon wedi rhyddhau eu sengl newydd, ac mae cyfle i bawb ei lawr lwytho’n ddigidol ar hyn o bryd.

‘Parti Grwndi’ ydy enw’r trac newydd gan y grŵp sy’n cael ei arwain gan yr enigma o ganwr lliwgar, Iwan Fôn, a Recordiau Libertino sy’n rhyddhau.

Mae’r sengl ar gael i’w lawr lwytho am ddim ar safle Soundcloud Libertino ar hyn o bryd fel ffordd o ddweud diolch i bawb am eu cefnogaeth i’r band.

Taith rhyngalaethog

Yn ôl Libertino mae ‘Parti Grwndi’ yn rhan arall o jig-sô kaleidoscopig KIM HON o orwel cerddorol sydd heb gael ei archwilio eto.

Mae’n swnio fel taith rhyngalaethog drwy corneli tywyllaf dy feddwl, parti gwyllt gyda phris uchel – Super Furry Animals a LCD Soundsystem yn jamio ar ben llosgfynydd sydd bron a ffrwydro.

Mae’n anodd credu mai cwta flwyddyn sydd ers i Kim Hon ymddangos gyntaf.

Ffrwydrodd y grŵp ar y sin gyda’r sengl wych ‘Twti Ffrwti’ ym mis Mai llynedd, ac aethant o nerth i nerth yn ystod 2019 gan gipio teitl ‘Band neu Artist Newydd Gorau’ Gwobrau’r Selar ym mis Chwefror eleni.

Reidio’r olwyn

Mae canwr Kim Hon, Iwan Fôn, yn gyfarwydd hefyd am ei waith fel ffryntman Y Reu, ac wrth drafod cân newydd ei brosiect fdiweddara meddai’r canwr enigmatig:

“’Parti Grwndi. Ganwyd y term tra’n ymdrochi mewn uwd o wallgofrwydd ym Mhortmeirion. Yna, cafodd ei fagu ym Mangor ac erbyn heddiw mae wedi tyfu i fod yn gawr.”

“Olwyn sy’ wastad yn troi ydi ‘Parti Grwndi’ sydd yn ffynnu ar benderfyniadau annoeth” ychwanega Iwan.

“Er ein hymdrechion i’w slofi neu hydynoed i’w stopio yn stond, cyflymu yn ddi-reolaeth mae’r olwyn.”

“Pam grwndi? Fel cath yn canu grwndi yn braf tra’n cael mwytha, mae Parti Grwndi yn  fwytha neu’n goflaid sy’n tywys ni i’r niwl lliwgar, yn bell o pob rheol, dyletswydd a phoen. Ond mae pris i’w dalu am reidio’r olwyn hon.”

Yn ôl y grŵp, does dim dylanwad cerddorol penodol sydd wedi eu hysgogi  i ysgrifennu ‘Canu Grwndi’ – mae pob cân KIM HON, mae’n cael ei ysbrydoli gan y foment meddent.