Pedair yn rhyddhau ‘Carol Nadolig Hedd Wyn’

Mae prosiect sy’n cyfuno doniau pedair o gerddorion benywaidd amlycaf Cymru wedi rhyddhau eu sengl Nadolig newydd ers dydd Gwener 4 Rhagfyr.

‘Carol Nadolig Hedd Wyn’ ydy enw sengl newydd Pedair, sef y prosiect sy’n dod â Sian James, Gwyneth Glyn, Meinir Gwilym a Gwenan Gibbard ynghyd.

Mae’r trac yn cyfuno geiriau gan y bardd enwog o Drawsfynydd, Hedd Wyn, gyda threfniant newydd o’r alaw draddodiadol ‘Deio Bach’.

Mae’r geiriau o garol obaith am heddwch a byd gwell a ysgrifennwyd gan Hedd Wyn yng nghanol erchyllterau’r Rhyfel Byd Cyntaf ym 1916.

Daeth Pedair ynghyd i berfformio yn Eisteddfod Genedlaethol Môn nôl yn 2017, ac yna eto yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst llynedd.

Dros y misoedd diwethaf maen nhw wedi bod wrthi’n recordio o’u cartrefi gan weithio ar ganeuon newydd. Rhyddhawyd pedair cân eisoes ganddynt sef ‘Cân Crwtyn y Gwartheg’, Cân y Clo’, ‘Llon yr Wyf’ a ‘Cân Rhodri Dafydd’.

Dangoswyd fideo o’r sengl newydd ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol yr Eisteddfod nos Iau diwethaf, 3 Rhagfyr, fel rhan o galendr adfent yr Eisteddfod ac roedd cyfle cyntaf i glywed y trac am y tro cyntaf ar raglen Lisa Gwilym ar Radio Cymru nos Fercher dwethaf, 2 Rhagfyr.

Dyma’r fideo ar gyfer y sengl: