Mae’r gantores electroneg o Ferthyr, Eädyth, wedi rhyddhau sengl newydd heddiw, 5 Mehefin.
‘Penderfyniad’ ydy enw’r trac newydd ac mae’n cael ei ryddhau ar label Recordiau UDISHIDO, sydd wedi bod yn gyfrifol am gynnyrch diweddar Eädyth.
Mae’r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn rai prysur iawn i’r gantores unigryw wrth iddi fynd o nerth i nerth.
Yn hytrach na’i weld fel bygythiad, mae Eädyth wedi parhau i weithio yn ei stiwdio gartref yn ystod cyfnod y cloi mawr gan ddatblygu ei sgiliau cynhyrchu ac ysgrifennu ac adeiladu sylfaen gref o gefnogwyr. Mae wedi mynd ati i gerfio ei sain unigryw, drawiadol ei hun gyda phersona trydanol a ‘trippy’.
Enaid
Mae’r sengl newydd, yn ein cyflwyno unwaith eto i’w llais pwerus, enaid a harmonïau ethereal sy’n cloi ynghyd â’i thechnegau cynhyrchu arloesol sy’n cyd-fynd yn hyfryd â’i geiriau grymus Cymraeg am symudiad.
“Cân ysgrifennais am sut y gall gwneud un penderfyniad mewn bywyd greu effaith fel glöyn byw” meddai Eädyth am y sengl newydd.
“Pa lwybr ydw i’n ei ddilyn a pa ffordd ydyn ni’n mynd ar daith bywyd? Mae cymaint o gwestiynau heb eu hateb a gall hyn fod yn anodd ar ein hiechyd meddwl ac rydych chi’n teimlo fel dianc, yn fy achos i mewn i’r mynyddoedd rwy’n eu galw’n gartref.
“Mae gan fy nghynhyrchiad ddylanwadau gan nifer o artistiaid gan gynnwys Massive Attack a Solange.”
Roedd Eädyth yn un o artistiaid cynllun Gorwelion, BBC Cymru llynedd, a thrwy hynny cafodd amrywiaeth o gyfleoedd cyffrous.
Bu’n recordio sesiwn yn Stiwdios Rockfield, yn ogystal â pherfformio mewn sawl digwyddiad a gŵyl gan gynnwys yn y Senedd a Chanolfan Mileniwm Cymru ym Mae Caerdydd, Gŵyl Rhif 6, Gŵyl Jazz Brecon, Gŵyl Swn, The Great Escape ac yn yr Eisteddfod.
Eleni mae Eädyth wedi’i dewis fel un o’r 10 artist cynllun ‘Forté’ a ffurfiwyd gan Spike Mae Griffith (rhwydwaith hyrwyddwyr ifanc) i helpu artistiaid ifanc sy’n dod i’r amlwg yn y Cymoedd.
Mae Eädyth hefyd yn gweithio gydag amryw o artistiaid gwahanol gan gynnwys, Shamoniks a DJ Endaf, a ryddhaodd sengl gydweithredol gydag Eädyth ac Ifan Dafydd, ‘Disgwyl’, yn gynharach eleni.