Mae Jacob Elwy wedi rhyddhau ei sengl newydd heddiw, 26 Mehefin.
‘Hiraeth Ddaw’ ydy enw’r trac newydd mae’n rhyddhau gyda’r grŵp o Ddyffryn Clwyd, Trŵbz, ac mae cefndir arbennig i’r geiriau’n enwedig.
Hon fydd y drydedd mewn cyfres o senglau gan Jacob Elwy a’r Trŵbz yn ystod 2020 gan ddilyn ‘Drudwy’ a ryddhawyd ddiwedd mis Ionawr ac ‘Annibyniaeth’ a ryddhawyd ym mis Ebrill.
Mae dylanwad personol iawn ar y sengl newydd fel yr eglura’r canwr.
“Ar ôl colli dad ychydig flynyddoedd yn ôl, ffindiais lyfr bach llawn penillion yr oedd o wedi sgwennu.
“Dyma o lle ddoth y geiriau ar gyfer ‘Hiraeth ddaw’. Cân fywiog, ond eithaf trist yn ei ystyr, yn cyffwrdd â thrafferthion alcoholiaeth.”
Mae’r trac wedi’i recordio yn stiwdio Bing yng Nghemaes ger Machynlleth, ac mae’r sengl yn cael ei rhyddhau ar label Bryn Rock.
Mae’n debyg bod fideo ar gyfer y sengl newydd ar y gweill hefyd – newyddion am hwn yn fuan. Am y tro, dyma sut mae’n swnio: