Mae blog cerddoriaeth Sôn am Sîn wedi cyhoeddi’r bennod ddiweddaraf o bodlediad ‘Y Sôn’.
Am resymau amrywiol, mae peth amser ers iddynt gyhoeddi’r diwethaf o’r podlediadau rheolaidd yn trafod cerddoriaeth felly mae’r bennod newydd yn bwrw golwg nôl ar sawl pwnc cerddorol o’r misoedd diwethaf.
Mae’r cyflwynwyr, Gethin Griffiths a Chris Roberts, yn talu sylw arbennig i albyms Yr Eira a Cofi 19, a hefyd yn trafod manteision ac anfanteision recordio gartref, sydd wrth gwrs wedi bod yn gyffredin iawn ymysg cerddorion eleni.
Dyma’r podlediad diweddaraf: