Perfformiad ‘Glaw’ gan Endaf x Sera ar Lŵp

Mae cyfres gerddoriaeth S4C, Lŵp, wedi cyhoeddi fideo o’r dewin o gynhyrchydd o Gaernarfon, Endaf, yn perfformio ei sengl ddiweddaraf ‘Glaw’ ar eu llwyfannau digidol.

Rhyddhawyd sengl ddiweddaraf y cynhyrchydd dawnus ar 7 Awst, ac mae’n ffrwyth llafur partneriaeth gyda’r gantores amryddawn a phrofiadol, Sera.

Recordiwyd y trac yn gyfan gwbl yn ystod cyfnod y cloi mawr. A hwythau fel pawb arall wedi bod yn ymbellhau’n gymdeithasol dros y misoedd diwethaf, mae’r ddau artist wedi mynd ati i weithio ar y trac dros y gwifrau digidol.

Er bod cerddoriaeth arferol y ddau yn wahanol iawn ar wyneb, mae ganddynt gryn dipyn yn gyffredin. Yn arbennig felly’r faith bod y ddau’n dod o ardal Caernarfon, a hyd yn oed wedi bod i’r un ysgol gynradd.

Bu’r ddau hefyd yn rhan o gynllun BBC Gorwelion yn 2019, ac yn gynharach eleni rhannodd y ddau’r un llwyfan wrth berfformio yn stiwdio enwog y BBC yn Maida Vale.

Cyd-weithio

Mae Endaf wedi bod yn rhyddhau cerddoriaeth ers 2016 ac yn cyfuno lleisiau neo-soul gyda cherddoriaeth garage a deep house.

Rhyddhawyd ‘Glaw’ ar label Endaf, High Grade Grooves.

Yn ystod 2020 rydym wedi gweld Endaf yn cyd-weithio cryn dipyn gydag artistiaid Cymraeg eraill – rhyddhaodd senglau ar y cyd ag Eädyth, Ifan Dafydd ac Ifan Pritchard yn gynharach yn y flwyddyn.

Mae modd gweld y fideo ohono’n perfformio ‘Glaw’ ar sianel YouTube Lŵp ac ar eu tudalen Facebook.