Mae Mared wedi rhyddhau ei sengl a fideo newydd ers dydd Gwener diwethaf, 31 Gorffennaf.
Mae hefyd wedi cyhoeddi dyddiad rhyddhau ei halbwm cyntaf
‘Pontydd’ ydy enw’r sengl ddiweddaraf gan y gantores o Lanefydd, a dyma’r pedwerydd trac i ymddangos oddi-ar ei halbwm cyntaf, ‘Y Drefn’, fydd allan ar 21 Awst ar label Recordiau I KA CHING.
Mae ‘Pontydd’ yn dilyn ei thair sengl unigol blaenorol sydd wedi ymddangos dros y flwyddyn ddiwethaf sef ‘Dal ar y Teimlad’ (Mehefin 2019), ‘Y Reddf’ (Gorffennaf 2019) ac y ddiweddaraf, ‘Over Again’ ym mis Mehefin eleni.
Codi pontydd
Mae ‘Pontydd’ yn trafod sut yr ydym, ac y gallwn ni fel pobl godi pontydd rhwng cymunedau a diwylliannau gwahanol, boed hynny drwy’r celfyddydau neu’r modd rydym yn cyfathrebu.
Mae’r gân wedi ei chyfansoddi mewn arddull jazz; arddull sydd wedi ei benthyg gan ddiwylliant arall, ac mae’n sôn am y pwysigrwydd o gofio’r cymryd a rhoi yma rhwng gwledydd.
Yn ogystal â chyhoeddi dyddiad rhyddhau’r albwm, ddechrau’r wythnos fe gyhoeddodd I KA CHING bydd pecyn arbennig i’r 50 cyntaf o archebion cyntaf y casgliad, sy’n cynnwys printiau wedi eu creu gan Mared ei hun.
Dyma fideo ‘Pontydd’: