Prif ganwr Adwaith ar drac hip-hop

Mae gitarydd a phrif leisydd y grŵp Adwaith, Hollie Singer, wedi cyd-weithio â symudiad hip-hop Culture Vultures ar sengl newydd fydd allan fis nesaf.

‘Reflection’ ydy enw’r sengl newydd fydd allan ar label Winger Records ar 12 Mehefin, ac yn ogystal â Hollie mae’n cynnwys y rapiwr Dai Pump$.

Mae fideo ar gyfer y trac, sydd wedi’i gyfarwyddo gan Hollie Singer, eisoes i’w weld ar sianel YouTube Winger Records.

Wedi’i ffilmio yng Nghaerdydd, gellir disgrifio’r fideo fel Celtic Noir, gan adlewyrchu’r teimladau ynysig a dryslyd pobl ifanc yn y Gymru gyfoes.

Mae’r trac yn dod o’r albwm ‘WOTW: One’ (Way of the Winger) a ryddhawyd yn ddigidol yn gynharach eleni.

Mae Hollie wedi recordio ail drac gyda’r Culture Vultures hefyd, sef ‘I Got a Problem’ ac mae modd clywed honno ar sianel YouTube Winger Records.