Pump i’r Penwythnos – 03 Gorffennaf 2020

 Gig: Gwyl Car Gwyllt (Digidol) – Facebook – 04/07/20

 

Cwpl o bethau i edrych ymlaen iddyn nhw penwythnos yma!

 

Bydd sawl un wedi gwylio gŵyl Tafwyl yn ddigidol bythefnos yn ôl mae’n siŵr. Wel, bydd cyfle i ail-fyw rhai o uchafbwyntiau’r perfformiadau unwaith eto mewn rhaglen awr ar wefan AM nos Sadwrn yma am 8pm.

 

Ac mae gŵyl ddigidol arall yn digwydd fory, sef fersiwn rhithiol o Gŵyl Car Gwyllt. Does dim gwybodaeth fanwl am bwy sy’n perfformio, ond yn ôl yr hyn rydan ni’n deall bydd cyfle i weld setiau gan rai o’r artistiaid oedd i fod i berfformio ym Mlaenau Ffestiniog penwythnos yma.

 

I edrych ymlaen rhywfaint, nos Iau nesaf mae gig ‘Ras 123’ yn cael ei gynnal ar Facebook gan Fentrau Iaith Cymru a Ras yr Iaith. Mae ‘na ddigwyddiad Facebook ar gyfer hwn! Rhywbeth mae pobl wedi bod yn hepgor yn rhy aml wrth drefnu gigs rhithiol yn anffodus. Lein-yp da sy’n cynnwys Gwilym Bowen Rhys, Welsh Whisperer a Kizzy Crawford.

 

Cwpl o bethau i edrych nôl arnyn nhw hefyd, gan gynnwys i Gig Cartref Gwaelod diweddaraf gyda Huw Chiswell pnawn Sul diwethaf.

 

Wythnos diwethaf hefyd roedd ail ŵyl Corona Radio Ysbyty Gwynedd ar Facebook. Byddwch yn cofio fod y gyntaf yn llwyddiant ysgubol ac mae’n debyg fod dros 40,000 wedi gwylio rhwng y ddwy ŵyl bellach, sy’n ffigwr anhygoel!

 

 

Cân: ‘Cerddi Danedd’ – Plyci

 

Artist sydd wedi bod yn brysur a chynhyrchiol iawn yn ystod y cloi mawr ydy Plyci, ac mae ei sengl newydd allan heddiw.

 

‘Cerddi Danedd’ ydy enw’r sengl ddiweddaraf gan yr artist electroneg, a dyma’r trac cyntaf i ymddangos o’r albwm newydd sydd ar y gweill ganddo.

 

Mae Plyci eisoes wedi rhyddhau tipyn o gynnyrch  yn ystod y cyfnod cloi cofiwch – tair sengl gyda’r ddiweddaraf ‘EDOACID-19 allan gwpl o wythnosau nôl. Cyn hynny, fe ryddhaodd ei EP ‘Ogof’, ar 11 Mai hefyd.

 

A gyda’r albwm newydd ar y gweill, mae’n amlwg ei fod mewn hwyliau cynhyrchiol iawn, ac rydan ni’n edrych ymlaen yn eiddgar at gael clywed mwy am yr albwm  

 

Am y tro, mae ‘Cerddi Danedd’ yn sicr yn rhoi blas, ac yn dod â dŵr i’r dannedd!  

 

A’r newyddion da pellach ydy fod fideo o Plyci’n perfformio’r trac yn fyw, mwynhewch:

 

 

Record: Gwyliau – Dewi Williams

 

Reit, amser am record fach o’r archif ac albwm a ryddhawyd union wyth blynedd yn ôl ym mis Mehefin 2018.  

 

Pwy ydy Dewi Williams medde chi? Wel, mae o’n gerddor digon profiadol ac wedi bod mewn nifer o grwpiau dros y blynyddoedd gan gynnwys Baswca, Y Crwyn, Defaid a Sgwarnogs. Gwyliau oedd ei albwm cyntaf, ac mae’n record gysyniadol ddifyr.

 

Rŵan, os ofynnwch chi i Uwch Olygydd Y Selar, mae hon yn un o recordiau hir Cymraeg gorau’r ddegawd diwethaf! Ond teg dweud fod yr albwm wedi mynd dan y radar rhyw ychydig yn anffodus.

 

Y gwir amdani ydy fod amrywiaeth anhygoel o gerddoriaeth a genre’s ar yr albwm gan gynnwys reggae, tecno, ska, roc, daws ac electroneg. Mae ‘na rhywbeth sy’n atgoffa rhywun o waith Gruff Rhys ar y casgliad yn ein tyb ni, gan gynnwys llais Dewi. Ymysg y caneuon gorau mae ‘Rhewlif’, ‘Panic’, ‘Oer’ a ‘Golau’.

 

Y newyddion da ydy fod modd i chi wrando ar yr albwm yn ei gyfanrwydd ar Soundcolud, ac rydan ni’n argymell yn gryf eich bod chi’n gwneud hynny. Fe rown ni 3 gwrandawiad i chi, a garantîd byddwch chi’n cytuno  bod y record yn glincar. Wir, mae’n un o’r albyms yna sydd ddim yn creu argraff mawr ar y gwrandawiad cyntaf, ond wrth i chi wrando a gwrando mae’n tyfu’n aruthrol arnoch chi.

 

Fe ryddhaodd Dewi ail albwm unigol yn 2014 dan yr enw Cysgu. Tydi hon ddim cweit cystal â Gwyliau, ond mae dal yn record arbennig o dda. Mae hwn ar Soundcloud hefyd.

 

Dyma drac gorau’r albwm Gwyliau o bosib, yr ardderchog ‘Panic’:

 

 

 

Artist: Bandicoot

 

Grŵp sydd wedi dod yn fwyfwy i sylw Y Selar dros y misoedd diwethaf ydy Bandicoot.

 

Maen nhw o gwmpas yn creu’r argraff ar lwyfannau’r De ers peth amser, ond yn bennaf yn perfformio caneuon yn Saesneg. Fis Chwefror, rhyddhaodd y pedwarawd o ardal Abertawe eu sengl Gymraeg gyntaf, sef ‘O Nefoedd’, a chael ymateb cadarnhaol iawn.

 

Nawr maen nhw wedi cyhoeddi trac Cymraeg arall, sef cyfyr o un o ganeuon Gorky’s Zygotic Mynci, ‘Dyle Fi’, sydd ar yr albwm Gorky 5 a ryddhawyd ym 1998.

 

Dyma’r chweched mewn cyfres o cyfyrs mae’r grŵp o Abertawe wedi eu cyhoeddi’n ddiweddar ac yn ôl y band mae’r trac yn wers berffaith ar sut i gymysgu’r iaith Gymraeg a Saesneg.

 

A hwythau’n grŵp dwy-ieithog, nid yw’n syndod clywed fod Gorky’s wedi bod yn mawr ar y band ifanc.

 

 

 

Un peth arall: Fideo Jacob Elwy a’r Trŵbz

 

Mi wnaethon ni roi bach o sylw i sengl newydd Jacob Elwy a’r Trŵbz wythnos diwethaf, a bellach mae’r cerddor o Ddyffryn Clwyd wedi rhyddhau fideo swyddogol i gyd-fynd â’r trac.

 

‘Hiraeth Ddaw’ ydy enw’r drydedd mewn cyfres o senglau gan Jacob a’r grŵp Trŵbz, ac efallai mai hon ydy’r orau o’r dair.

 

Fel popeth arall, mae cyfyngiadau wedi effeithio ar waith cynhyrchu’r fideo, ond rydan ni’n meddwl eu bod nhw wedi gwneud job fach dda efo hwn chwarae teg.