Croeso i Bump i’r Penwythnos cyntaf y ddegawd!
Ar ôl 2019 prysur, bu’n ddigon tawel ar y cyfan dros gyfod y Nadolig ac mae’n ymddangos fel dechrau digon araf i’r flwyddyn o ran gigs o leiaf! Ond, fe ddaw dros yr wythnosau nesaf ac mae digon o bethau cerddorol eraill ar y gweill i’n diddanu.
Gig: Oes gig gan rywun?
Am y tro cyntaf ers dechrau Pump i’r Penwythnos, mae calendr gigs y Selar yn hollol wag y penwythnos yma!
Os ydan ni wedi methu gig sy’n digwydd penwythnos yma – rhowch wybod plîs ac fe hysbyswn y byd!
Cân: Ffynhonell (Roughion Remix ) – Bardd
Mae Roughion wedi bod yn cynnig eu traciau i’w lawr lwytho am ddim ar eu cyfrif Soundcloud ar ddiwedd y flwyddyn – rhyw fath o anrheg Nadolig bach hwyr!
Un trît fach arall ganddyn nhw ydy’r fersiwn isod o drac Bardd maen nhw wedi ail-gymysgu. Bardd wrth gwrs ydy prosiect diweddaraf Mr Phormula sy’n ei weld yn cyd-weithio â’r bardd Martin Daws.
Mae triniaeth Roughion o’u trac yn sicr yn rhoi gwedd newydd iddi – mwynhewch:
Record: Tannau – Plyci
Fe ryddhaodd yr artist electronig Plyci EP newydd ar drothwy’r Nadolig. Summit ydy enw’r casgliad byr newydd a ryddhawyd ar 24 Rhagfyr, ac mae’n cynnwys pedwar trac gydag enwau Saesneg sef ‘Purplenoise’, ‘Milkfloat Catastrophe’, ‘Summit’ a ‘Jannerkone’.
Wrth i ni wrando ar y traciau newydd fe wnaethon ni hefyd sylwi ar EP arall a ryddhawyd gan Plyci yn gynharach yn y flwyddyn, sef Tannau. Pedwar trac gydag enwau Cymraeg sydd ar hwnnw sef ‘Natur’, ‘SPR30’, ‘Tannau’ a ‘Ni All Gannwyll Ddiffodd Yng Ngofal y Ddraig’.
Peidiwch gofyn sut wnaethon ni fethu hwn ar y pryd, ond mae’n debyg i’r EP ymddangos ym mis Mai 2019 ar safle Bandcamp Plyci.
Plyci ydy prosiect y cerddor Gerallt Ruggiero, a ddaw’n wreiddiol o‘r Rhyl, ond sydd bellach wedi ymgartrefu yn Nottingham.
Mae’r traciau i gyd wedi eu recordio gan Gerallt ei hun, a’r newyddion da pellach ydy bod Plyci ar fin dechrau gweithio ar record hir newydd.
Dyma’r trac teitl ar gyfer yr EP, ‘Tannau’:
Artist: Euros Childs
Mae Euros Childs wedi hen sefydlu ei hun fel un o artistiaid cerddorol mwyaf cynhyrchiol Cymru, gydag o leiaf un albwm newydd ganddo’n ymddangos yn flynyddol ers ei record hir unigol gyntaf yn 2006.
Wel, fe gadwodd Euros at ei record yn 2019 gan ryddhau albwm newydd ar ddydd Gwener 20 Rhagfyr.
Gingerbread House Explosion ydy enw’r albwm newydd ac mae ar gael yn ddigidol ar hyn o bryd.
Er hynny, mae hefyd modd rhag-archebu fersiwn CD a feinyl ar wefan Euros Childs nawr. Bydd y fersiynau CD a feinyl allan yn swyddogol ym mis Mawrth 2020.
Recordiwyd yr albwm gan Stephen Black (sef y cerddor Sweet Baboo) yn stiwdio Gus’ Dungeon II yng Nghaerdydd yn ystod Hydref 2019. Mae Stephen hefyd yn chwarae nifer o offerynnau ar y recordiad, a Stuart Kidd hefyd yn cyfrannu ar y drymiau.
Roedd ail albwm unigol Euros yn 2007, Bore Da, yn un cyfan gwbl Gymraeg felly dyma gyfle da i wrando ar un o’r traciau, ac un o’r caneuon hyfryta’ erioed, ‘Roedd Hi’n Nofio yn y Bore Bach’.
Un peth arall: Rhaglen Lŵp o ŵyl Lleisiau Eraill
Roedd rhaglen arbennig cyfres Lŵp, S4C o ŵyl Lleisiau Eraill yn cael ei darlledu ar S4C ar nos Iau 2 Ionawr, ac mae ar gael i’w gweld ar-lein nawr.
Gŵyl Wyddelig ydy Lleisiau Eraill, neu ‘Other Voices’ a sefydlwyd yn wreiddiol yn Dingle yn 2001. Mae’n ŵyl sydd wedi denu cerddorion o bob rhan o’r byd, gan dyfu’n raddol i fod yn un o wyliau pwysicaf Iwerddon. Mae’r ŵyl hefyd yn gyfres deledu ryngwladol.
Ddechrau mis Tachwedd, symudodd yr ŵyl dros dro i Aberteifi yng Ngorllewin Cymru gydag Eglwys Santes Fair yn brif leoliad.
Ymysg yr artistiaid oedd yn perfformio roedd 9Bach, Boy Azooga, Carwyn Ellis a Rio 18, Gruff Rhys a Gwenno.
Roedd y perfformiadau dros benwythnos 1 a 2 Tachwedd yn cael eu darlledu’n fyw i sgriniau yn ardal Aberteifi, a nawr mae cyfle i’r gweddill ohonom weld rhai o’r uchafbwyntiau ar y rhaglen Lŵp.
Dyma glip o Carwyn Ellis yn perfformio yn yr ŵyl o’r rhaglen:
Carwyn Ellis | Lleisiau Eraill
Setiau byw a chyfweliadau o Lleisiau Eraill, Aberteifi gan gynnwys Carwyn Ellis.? Lleisiau Eraill? 2 Ionawr? 9.30Other Voices Theatr Mwldan
Posted by LwpS4C on Monday, 23 December 2019