Set rhithiol: Alffa – Theatr Ffwrnes, Llanelli – 04/12/20
Mae’n wythnos am gigs rhithiol da yn Sir Gâr mae’n ymddangos!
Echnos roedd darllediad byw ardderchog diweddaraf Stafell Fyw ar Lŵp, S4C o’r Egin yng Nghaerfyrddin gyda Calan a Gwilym Bowen Rhys.
Roedd dipyn o ganmol i‘r gig ar y cyfryngau cymdeithasol, ond os fethoch chi’r perfformiad byw peidiwch â phoeni gormod achos mae modd i chi brynu’r sioe yn llawn ar wefan Stafell Fyw.
Ac mae ‘na sioe fyw arall nid nepell yn Llanelli heno am 20:00 fel rhan o gyfres ‘Yn Fyw o’r Ffwrnes’ yn Theatr Ffwrnes.
Alffa sy’n perfformio, ac mae wedi bod yn wythnos fach dda i’r ddeuawd o Lanrug wrth gwrs ar ôl iddynt ddenu bach o sylw diolch i’r ffaith bod ‘Gwenwyn’ wedi ei chwarae ar ddechrau rhaglen ‘I’m a Celebrity’ nos Fercher. Allwn ni ddim meddwl am gân fwy addas ar gyfer y rhaglen mae’n rhaid cyfaddef, ond bydd y bois yn croesawu’r taliad breindal dwi’n siŵr!
Pwy glywodd @alffa_band ar @imacelebrity neithiwr?
Ymateb Dion a Siôn o’r band 👇 pic.twitter.com/VUYpGw
— H
eno 🏴 (@HenoS4C) December 3, 2020
Cân: ‘Ein Trysorau Ni’ – Cwtsh
Rydan ni wedi bod yn cadw golwg agos ar ddatblygiad y grŵp newydd Cwtsh yn ystod y flwyddyn.
Dyma i chi un o’r clwstwr o brosiectau cerddorol newydd sydd fel petai nhw wedi llwyddo i gadw’n bositif, a manteisio ar heriau 2020 er mwyn sefydlu eu hunain.
Daethon nhw i’n sylw ni gyntaf ym mis Mehefin wrth ryddhau’r sengl ‘Gyda Thi’ a rhaid oedd dysgu mwy am y grŵp trwy sgwrsio gydag Alys a Sion mewn darn estynedig ar y pryd. Mae trydydd aelod Cwtsh, Betsan Haf Evans, yn gyfarwydd iawn i ni hefyd fel un o ffotograffwyr ffyddlon Y Selar dros y blynyddoedd.
Rhyddhawyd eu hail sengl, ‘Cymru’, y mis Medi, gyda chyfle cyntaf i glywed y trac ar wefan Y Selar. Wythnos diwethaf fe wnaethon nhw ryddhau fideo ar gyfer y trac hefyd:
Nawr, maent wedi dilyn y ddau drac cyntaf gyda’r sengl newydd, ‘Ein Trysorau Ni’, sydd allan ers 1 Rhagfyr.
Yn ôl y grŵp mae hon yn gân felodaidd, gyda Sion yn cymryd cyfrifoldeb am y canu yn hanner cyntaf y gân. Heb os mae hyn yn rhoi teimlad reit wahanol i’r trac na’r rhai blaenorol ganddynt.
Mae llais Alys yn ymuno’n hwyrach yn y gân i greu deuawd fach hynod o brydferth, gyda Betsan yn neidio mewn ar gyfer yr harmonïau neis iawn tua’r diwedd.
Y newyddion da pellach ydy fod y grŵp wedi bod yn gweithio’n ddiwyd ar ganeuon newydd a bellach yn gobeithio rhyddhau albwm llawn mor fuan a mis Chwefror. Gwych iawn.
Dyma ‘Ein Trysorau Ni’ sydd ar Bandcamp Cwtsh nawr:
Record: Pastille – HMS Morris
Mae EP newydd HMS Morris, Pastille, allan heddiw – hwre!
Rydan ni wedi bod yn disgwyl yn eiddgar am yr EP byth ers iddyn nhw gychwyn rhyddhau cyfres o senglau o’r record, gan ddechrau gyda ‘Babanod’ reit nôl ym mis Chwefror eleni.
Daeth ‘Poetry’ i ganlyn y sengl gyntaf ym mis Ebrill, yna ‘Myfyrwyr Rhyngwladol’ ym mis Medi, ac yn olaf ‘Partypooper’ ddechrau mis Tachwedd.
Aha, pam bod ni mor gyffrous am yr EP os ydy’r holl senglau ma allan yn barod dwi’n clywed chi’n gofyn? Wel, yn syml iawn gan fod y record allan ar feinyl hyfryd diolch i label bendigedig Bubblewrap.
Yn anffodus, mae oedi gyda’r ffatri wasgu feinyl felly bydd rhaid aros bach hirach am y record, ond mae un rheswm arall i gyffrous sef bod pumed trac ar yr EP sef ‘Marshmallow’.
Gallwch wrando ac archebu ar safle Bandcamp HMS Morris ac mae’n werth gwneud hynny heddiw gan fod y bobl neis yn Bandcamp yn hepgor eu ffioedd ar ddydd Gwener cyntaf pob mis, felly mae pob ceiniog yn mynd i boced yr artist. Class.
Dyma fideo swyddogol ‘Babanod’:
Artist: Anya
Mae’n fis Rhagfyr bellach felly’n dderbyniol i chi ddechrau gwrando ar ganeuon nadoligaidd.
Ac mae hynny’n briodol gan bod sengl gyntaf artist newydd o’r enw Anya yn un ddigon nadoligaidd ei naws, ac allan heddiw.
Prosiect cerddorol newydd Huw Ynyr, oedd yn aelod o’r grŵp Sŵnami yn eu dyddiau cynnar, ydy Anya. Gadawodd Huw y grŵp o Feirionydd er mwyn dilyn gyrfa yn y byd canu clasurol.
‘Blwyddyn Arall’ ydy enw ei sengl gyntaf sy’n cael ei rhyddhau ar label Recordiau Côsh.
Yn ôl y label mae ‘Blwyddyn Arall’ sbin synth-pop sy’n chwa o awyr iach mewn genre sydd fel arferol yn cael ei lenwi gan ganeuon canol y ffordd diflas. Allwn ni ddim anghytuno â hynny.
Mae Huw Ynyr wedi cael cryn lwyddiant yn y byd clasurol ers gadael Sŵnami gan ddod yn ganwr opera llawn amser. Ond mae 2020 a chyfyngiadau Covid wedi bod yn rwystr creadigol iddo, felly penderfynodd fynd yn ôl i’w wreiddiau a mynd ati i drio ysgrifennu cân bop fodern.
“Gan fod bob dim eleni wedi mynd â’r ben i waered, o’n i’n meddwl y bydda hi’n bach o hwyl ‘sgwennu a chanu rhywbeth hollol wahanol i’r hyn dwi’n neud o ddydd i ddydd” meddai Huw.
Y gobaith ydy mai dim ond y dechrau i Anya ydy hyn ac y gallwn ddisgwyl mwy o gerddoriaeth gan yr artist yn y dyfodol.
Un Peth Arall: Cyflwyno Cai
Un o’r diddordebau mwyaf ni yma yn Selar HQ ydy darganfod cerddoriaeth, a cherddorion newydd. Ac mae bob amser yn bleser cyflwyno’r cerddorion hynny i chi.
Rydan ni wedi bod yn sgwrsio gyda cherddo’r ifanc o’r enw Cai ers peth amser, ac yn falch iawn o’r cyfle i rannu ei gerddoriaeth gyda chi heddiw.
Yn debyg iawn i gerddor ifanc cyffrous arall a gyflwynwyd i chi ar wefan Y Selar yn ddiweddar, Y Dail, tydi rhannu cerddoriaeth yn unig ddim yn ddigon ar gyfer Cai, ac mae fideo i gyd-fynd â’r trac ‘Blaidd (Nol a Nol)’.
Bydd y cerddor o Benygroes yn rhyddhau’r trac ar y llwyfannau digidol arferol ddydd Gwener nesaf, 11 Rhagfyr ynghyd â dau drac arall ‘No! Spiders’ a ‘Gyd yn Iawn’.
Y cyfarwyddwr gwych Hedydd Ioan sy’n gyfrifol am y fideo.