Gig: – Ani Glas – Lansiad Albwm Mirores – Pontio, Bangor – 07/03/20
Dim llwyth o gigs ar y gweill penwythnos yma, ond mae’r hyn sy’n digwydd yn werth ei weld.
Dwy daith amlwg yn parhau i ddechrau. Y gyntaf ydy taith ‘Dyddiau Du, Dyddiau Gwyn’ Cowbois Rhos Botwnnog, sy’n cyrraedd y Galeri yng Nghaernarfon heno.
Yr ail daith dan sylw ydy taith ‘Te yn y Grug’ Al Lewis, sydd yng ngodre Ceredigion erbyn hyn, ac yn Theatr Mwldan, Aberteifi yn y benodol heno.
Mae Phil Gas a’r Band wedi cael dechrau tawel i’r flwyddyn, ond yn ôl gyda bang nos fory gyda gig yng Ngwesty’r Nanhoron, Nefyn.
Ein prif argymhelliad o’r penwythnos ydy gig lansio albwm hirddisgwyliedig Ani Glass, Mirores. Canolfan Pontio ym Mangor ydy’r lleoliad ac mae’r anhygoel Twinfield yn cefnogi. Gallwch ddarllen mwy am yr albwm mewn cyfweliad gydag Ani yn rhifyn diweddaraf Y Selar.
Cân: ‘Bore Da’ – Alun Gaffey
Mae sengl newydd Alun Gaffey allan heddiw!
‘Bore Da’ ydy enw’r trac diweddaraf i ymddangos gan y cerddor profiadol ar label Recordiau Côsh.
Dyma’r ddiweddaraf o gyfres o senglau ganddo, fydd yn arwain at albwm yn y pendraw gobeithio. Rhyddhawyd ‘Yr 11eg Diwrnod’ ym mis Ionawr, ac yna ‘Rhosod Pinc’ ar 7 Chwefror.
O’r hyn rydan ni’n gweld, does dim gorffwys ar ei rwyfau i Gaff ac mae wrthi’n brysur yn gweithio ar weddill yr albwm.
Record: Tacsi i’r Tywyllwch – Geraint Jarman
Yn ddiweddar mae label Recordiau Sain wedi bod yn ail-ryddhau rhywfaint o’u ôl gatalog enwog yn ddigidol am y tro cyntaf.
Wythnos diwethaf fe ryddhawyd y detholiad diweddaraf o’r rhain, gyda chwech record o’r gorffennol yn ymddangos am y tro cyntaf ar y prif lwyfannau digidol.
Rŵan, mae ‘na lot fawr o glasuron gwirioneddol yn ôl gatalog Sain, ac yn sicr mae rhai o’r batch diweddaraf yma’n haeddu’r label hwnnw…ond mae un dewis rhyfedd iawn yn eu mysg yn ein barn ni – tybed allwch chi ddyfalu pa un sydd wedi dal ein sylw yn hynny o beth o’r rhestr yma:
Hwyl y Mastiau – Bando
Rhedeg Rhag y Torpidos – Trwynau Coch
Anrheg Penblwydd – Côr Telyn Teilo
Shwn – Yr Hwntws
Glanceiri – Hergest
Tacsi i’r Tywyllwch – Geraint Jarman.
Mae’n siŵr fod rheswm da dros ddewis un randym iawn ymysg y detholiad ardderchog yma, ond dydan ni ddim wedi dehongli’r rheswm hwnnw eto!
Yn hytrach na meddwl gormod am hynny, fe wnawn ni roi sylw arbennig i un clasur go iawn sydd ar y rhestr sef Tacsi i’r Tywyllwch gan Geraint Jarman.
Gan ei rhyddhau ym 1977, hon oedd ail record hir Jarman yn dilyn Gobaith Mawr y Ganrif a ryddhawyd y flwyddyn flaenorol. Dyma ddau albwm cyntaf o gyfres o chwech a ryddhaodd Jarman mewn blynyddoedd olynol rhwng 1976 a 1981, mewn cyfnod hynod gynhyrchiol iddo.
Er bod ei albwm cyntaf yn wych, mae rhyw aeddfedrwydd arbennig i Tacsi i’r Tywyllwch. Law yn llaw a’r caneuon bywiog, poblogaidd fel ‘Bourgeois Roc’ a’r trac teitl, ‘Tacsi i’r Tywyllwch’ mae ‘na ganeuon tywyllach a lleddf sy’n dal i roi ias hyd heddiw – o’r dorcalonnus ‘Pan Ddaw’r Dydd’ i’r epig iasol ‘Ambiwlans’.
Fel nodyn ymylol difyr, ‘Ambiwlans’ oedd prif gân y ffilm wych, ‘Yr Alcoholig Llon’ (1983), yn serennu Dafydd Hywel. Mae’n dal i swnio’n wych hyd heddiw:
Artist: Adwaith
Does dim stop ar Adwaith ar hyn o bryd yn nagoes!
Cyhoeddwyd wythnos diwethaf mai’r grŵp o Gaerfyrddin ydy’r diweddaraf i dderbyn ‘Gwobr Gerddorol Llwybr Llaethog’.
Ers rhyw chwe blynedd bellach, fel arfer o gwmpas dyddiad Dydd Gŵyl Dewi, mae John a Kevs, aelodau’r grŵp dub / electroneg / rap, Llwybr Llaethog, wedi bod yn dyfarnu eu ‘Gwobr Gerddorol’ i rywun am eu cyfraniad arbennig i gerddoriaeth Gymreig.
Mae’r enillydd yn derbyn gwobr wedi ei chreu gan John a Kevs eu hunain a cyhoeddwyd ar gyfrif Twitter Llwybr Llaethog mai’r triawd ôl-bync o’r Gorllewin, Adwaith, oedd yr enillwyr eleni.
Mae enillwyr blaenorol yn cynnwys Serol Serol llynedd, Mr Phormula (2018), Meic Sbroggs (2017), Dau Cefn (2016), Y Pencadlys (2015) a Rhys Jakokoyak (2014).
Mae Adwaith wedi mynd o nerth i nerth ers dechrau dod i’r amlwg yn 2016. Ac mae’r llwyddiant wedi cynyddu’n arbennig o gyflym ers rhyddhaueu halbwm cyntaf, Melyn, yn 2018 yn enwedig ers cipiodd y grŵp y Wobr Gerddoriaeth Gymreig am yr albwm hwnnw ym mis Tachwedd 2019.
Un peth arall: Côsh yn noddi tîm pêl-droed
Stori gerddorol fach wahanol, ond gwych iawn hefyd yr wythnos hon ydy hwnnw am label Recordiau Côsh yn penderfynu noddi tîm pêl-droed merched Bethel.
Bydd enw’r label sy’n cael ei reoli gan Yws Gwynedd i’w weld ar grysau’r tîm pentref ger Caernarfon yn fuan iawn.
Mae Yws yn gyn chwaraewr pêl-droed ar y lefel uchaf yng Nghymru gyda Chaernarfon a Phorthmadog, felly nid yw’n syndod ei fod yn cymryd diddordeb mewn tîm lleol, ac wrth i’r label ffynnu mae’n grêt i’w weld yn cefnogi rhan bwysig o’i gymuned.
Mae sawl esiampl o grwpiau cyfoes yn noddi timau yn y gorffennol – Wet Wet Wet yn noddi eu tîm lleol CPD Clydebank er enghraifft a’r Super Furry Animals yn noddi crys ymgyrch Gwpan Cymru Dinas Caerdydd ym 1999. Er hynny, mae’r esiamplau o labeli recordio’n gwneud hynny’n brinach.
“Roedd rhaid i ni feddwl am drefnu cael cit newydd a chwilio am noddwr. Gan bod ni’n ymwybodol o gefndir Ywain Gwynedd gyda phêl-droed roeddem yn teimlo nad oedd dim i’w golli o ofyn iddo a’i gwmni, Recordiau Côsh” meddai Gwenno Gibbard o’r Clwb.
“Fel clwb rydan ni’n werthfawrogol iawn i Ywain a Recordiau Côsh am noddi tîm pêl-droed y merched, ac mae’r gefnogaeth yn golygu llawer i ni fel tîm.”
Go dda Côsh a phob lwb i genod Bethel!