Pump i’r Penwythnos – 06 Tachwedd 2020

Set rhithiol: Danielle Lewis – YouTube Lŵp – 23/10/20

Nid set rithiol wythnos yma, ond yn hytrach un o’r diweddaraf mewn cyfres o sesiynau gwych sydd wedi bod yn ymddangos ar lwyfannau digidol cyfres Lŵp, S4C.

Y sesiwn sy’n cael ein sylw’r wythnos hon ydy un Danielle Lewis yn perfformio ei chân ‘Dim ond Blys’ sydd ar YouTube Lŵp.

Mae’r fideo wedi’i ffilmio yn y Blasus Succulent Emporium yng Nghaerdydd.

Roedd y trac ar yr EP ‘Yn Gymraeg’ a ryddhawyd gan y gantores o Gei Newydd yn 2018, ac mae’n swnio’n grêt yn y sesiwn yma.

 

Cân:  ‘Cusco’ – Mêl

Mae’r grŵp o Ddyffryn Conwy, Mêl, yn rhyddhau eu sengl newydd ers dydd Gwener diwethaf, ac mae hi’n diiiwn.

‘Cusco’ ydy enw trac diweddaraf y grŵp sy’n cael ei arwain gan Eryl ‘Pearl’ Jones fydd yn gyfarwydd i lawer fel canwr y band seicadelig o ardal Llanrwst, Jen Jeniro.

Hon ydy trydedd sengl ei brosiect newydd gan ddilyn ‘Mêl i Gyd’ a ryddhawyd ym mis Tachwedd 2019 ac yna ‘Plisgyn’ a ryddhawyd ym mis Ebrill eleni.

Does dim amheuaeth mai Eryl ydy’r prif egni tu ôl i Mêl ond erbyn hyn mae wedi adeiladu band soled o’i gwmpas, a dyma’r sengl gyntaf iddynt recordio fel grŵp llawn. Yn ogystal ag Eryl, mae aelodaeth lawn y grŵp bellach yn cynnwys Rhodri Owen, Morgan Jones a George Amor.

Mae’r sengl wedi’i recordio yn stiwdio un arall o aelodau Jen Jeniro, Llŷr Pari, sef stiwdio Glan Llyn ym Melin y Coed ar ddiwedd mis Awst eleni. 

Record: V U – Rogue Jones

Wrth iddynt nodi 5 mlynedd ers rhyddhau eu halbwm cyntaf, mae Rogue Jones wedi gofyn i nifer o artistiaid fynd ati i ail-gymysgu traciau’r record hir.

Rhyddhawyd ‘V U’ gan y grŵp ym mis Hydref 2015 ar label Recordiau Blinc ac wythnos diwethaf roedd cyfle i glywed fersiwn un o’r trac ‘Halen’ wedi’i ail-gymysgu gan Bitw ar raglen Radio Cymru Tudur Owen.

Yna, yr wythnos hon, roedd cyfle cyntaf i glywed fersiwn newydd o ‘Pysgota’ wedi’i ail-gymysgu gan Anelog, ar raglen Radio Cymru Lisa Gwilym.

Yn ôl y grŵp, y bwriad ydy rhyddhau albwm llawn o ailgymysgiadau yn y man – rhywbeth i edrych ymlaen ato felly, ond cyfle perffaith i wrando eto ar yr albwm gwreiddiol sydd ar safle Bandcamp Rogue Jones.

Dyma fersiwn wreiddiol ‘Pysgota’:

 

Artist: Eve Goodman

Un o’r nifer o artistiaid sydd wedi dod yn fwyfwy amlwg yn ystod 2020 ydy Eve Goodman.

Mae Eve yn gantores werin ifanc hynod o gyffrous a enillodd le fel rhan o gynllun Gorwelion y BBC llynedd.

Mae’n dod o’r Felinheli, ac yn cyfansoddi a rhyddhau cerddoriaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg ers peth amser. Yn gynharach yn y flwyddyn fe ddaeth i’r amlwg ei bod Eve yn cyd-weithio gyda’r gantores brofiadol, Sera Zyborska, gan ffurfio deuawd gwerin difyr dros ben.

Roedd Sera hefyd ar gynllun Gorwelion llynedd ac fe ryddhawyd sengl o’r enw ‘Gaeafgwsg’ gan bartneriaeth newydd y ddwy nôl ym mis Ionawr eleni.

Yn fuan wedyn cyhoeddodd Eve fanylion taith ddiwedd mis Ionawr a dechrau Chwefror, ond wrth gwrs, yna daeth y pandemig i daflu dŵr oer ar ei chynlluniau fel pawb arall.

Er hynny, mae’n amlwg fod y gantores ifanc wedi ail-afael ynddi bellach wrth iddi ryddhau ei sengl newydd, ‘Pellter’, wythnos diwethaf.

Mae’r ‘Pellter’ yn gân wirioneddol hyfryd sy’n dod ag ias oer i’r cefn, ac roedd fideo arbennig i gyd-fynd â’r sengl newydd:

Yn ogystal â’r fideo swyddogol, mae cyfres Lŵp, S4C, hefyd wedi rhyddhau fideo sesiwn gydag Eve perfformio’r trac yn eglwys Eglwys Santes Helen, Penisarwaun. Mae’r fersiwn yma’r un mor hyfryd ac iasol.

 

 

 

Un Peth Arall: Cyhoeddi rhifyn newydd Y Selar

Newyddion mawr o Selar Towyrs, sef bod rhifyn newydd o’r cylchgrawn wedi’i gyhoeddi ac ar gael yn ddigidol, yn ogystal â mewn print o’r mannau arferol.

Fel arfer, mae rhifyn o’r cylchgrawn yn cael ei gyhoeddi erbyn wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst, ond bu’n rhaid gohirio cyhoeddi’r rhifyn hwnnw eleni o ganlyniad i’r argyfwng Covid-19.

Gyda’r Eisteddfod, ynghyd â holl wyliau cerddorol eraill yr haf, wedi’i ohirio, penderfynwyd oedi cyhoeddi’r rhifyn diweddaraf nes bod modd ei ddosbarthu’n ehangach yn yr ysgolion, prifysgolion a lleoliadau eraill. Typical lwc ni bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu cyflwyno ‘clo clec’ jyst fel i ni fynd i brint…ond na phoener, fe ddylai’r fersiwn print fod yn cyrraedd y lleoliadau arferol wythnos nesaf rhyw ben wrth i’r cyfnod clo byr ddod i ben.

Prif gyfweliadau’r rhifyn newydd ydy Mared, a ryddhaodd ei halbwm cyntaf dros yr haf, a Rhys Gwynfor sy’n brysur yn gweithio ar ei albwm cyntaf yntau. Mae sylw hefyd i’r artist electronig Carw, y grŵp ifanc Lewys, a’r gantores Casi.

Mae’r rhifyn hefyd yn cynnwys colofnau amserol a chrafog gan Gai Toms, sy’n cwestiynu safon beirniadaeth o gerddoriaeth Gymraeg gyfoes, a hefyd Lloyd Steele sy’n trafod amrywiaeth yn y sin gerddoriaeth Gymraeg – darllen anghenrheidiol.

Mae’r rhifyn hefyd yn cynnwys adolygiadau o’r prif gynnyrch sydd wedi’i ryddhau dros y misoedd diwethaf, ynghyd â blas o gyfrol newydd y cerddor ac un o sylfaenwyr label Recordiau Sain, Huw Jones.

Os na fedrwch chi aros i gael eich bachau bach blewog ar y fersiwn print, gallwch bori’r rhifyn digidol ar-lein nawr.

Cyhoeddi rhifyn hydref 2020 Y Selar

Prif Lun – Rogue Jones (Llun: Kirsten McTernan)