Pump i’r Penwythnos – 1 Mai 2020

Gig: Gig Bach 9Bach – 30 Ebrill 2020

Rydan ni’n mynd bach yn werinol wrth edrych yn ôl ac ymlaen ar gigs y penwythnos yma!

Ein argymhelliad o gig i fwrw golwg nôl arno ydy Gig Bach 9Bach oedd ar Facebook Live neithiwr. Dyma’r diweddaraf mewn cyfres o gigs rhithiol gan 9Bach gyda rhai i ddod eto nos Iau nesaf (7 Mai) a’r nos Iau canlynol (14 Mai). Tiwniwch mewn ar eu tudalen FB.

Dyma set neithiwr.

#GigsBach9Bach2

Posted by 9Bach on Thursday, 30 April 2020

 

Os ydach chi isio bach mwy o gerddoriaeth gwerin penwythnos yma, ewch draw i dudalen Facebook y delynores wych Gwenan Gibbard heno am 7:30 lle bydd yn cynnal cyngerdd byw arbennig.

Unrhyw gigs eraill ar y gweill, rhowch wybod ac fe wnawn ni rannu – @Y_Selar

Hefyd heno bydd Roughion yn ffrydio’n fyw i lansio eu EP newydd (mwy isod am hwn) ac mae set byw diweddaraf Sera am 5:30 ar Facebook.

 

Cân: ‘Dau Gam’ – Derw

Mae grŵp newydd o Gaerdydd, Derw, yn rhyddhau eu sengl gyntaf heddiw.

‘Dau Gam’ ydy enw’r trac newydd sy’n cael ei rhyddhau’n ddigidol ar label CEG Records.

Mae’r grŵp wedi’u dylwadu arnynt gan waith grwpiau pop siambr fel The National ac Elbow, ac mae’r sengl yn ymdrin â’r ymdrech i ffeindio heddwch a sut mae’n teimlo weithiau fel bod yn ddieithryn yn eich meddwl eich hun.

Sefydlwyd y grŵp gan y cerddor Dafydd Dobson a’i fam, Anna Georgina gan gystadlu yng nghystadleuaeth Cân i Gymru 2018. Penderfynodd y ddau i ddal ati i ysgrifennu gyda’i gilydd, a tyfodd Derw o’r gwreiddiau hyn.

Hefyd yn y grŵp mae Elin Fouladi, y gantores Gymreig/Iranaidd, sy’n gyfarwydd hefyd fel El Parisa. Mae’r enw Derw yn dod o enw tad Anna, Derwas ac mae ganddynt gysylltiad cryf â’r gorffennol a hanes eu teulu, sy’n llawn straeon cyfareddol.

Mae’r sengl newydd yn ran o EP ‘Yr Unig Rhai Sy’n Cofio’ fydd allan ym mis Medi, sydd hefyd yn cynnwys cyfraniadau gan gerddorion o’r grwpiau Zervas and Pepper, Afrocluster a Codewalkers. Bwriad yr EP ydy sicrhau bod eu straeon teuluol yn aros mewn cof. Bydd ail sengl o’r casgliad byr yn cael ei rhyddhau fis Gorffennaf.

 

Record: Yr Oes Ail – Ail Symudiad

Mae Ail Symudiad yn un o grwpiau mwyaf cyfarwydd Cymru ers pump degawd bellach, ac o’r diwedd mae ôl gatalog y grŵp ar label Fflach wedi’i rhyddhau ar lwyfannau digidol yr wythnos hon.

Y brodyr Wyn a Richard Jones ydy craidd y grŵp o Aberteifi. Rhyddhawyd eu cynnyrch cynharaf ar eu label eu hunain, Fflach, a ffurfiwyd ym 1981, cyn mynd ati i ryddhau rhyddhau sawl record ar label Recordiau Sain.

Yna, trodd y grŵp yn ôl at eu label eu hunain gan gyhoeddi cyfres o recordiau ardderchog. Ers dydd Mercher, mae hanner dwsin o’r rhain ar gael ar lwyfannau digidol am y tro cyntaf, sef:

Yr Oes Ail (2002)

Pippo ar Baradwys (2006)

Anifeiliaid ac Eraill (2008)

Stori Wir

Riviera Gymreig (2011)

Anturiaethau y Renby Toads (2012)

 

Yn ogystal â’u cyfraniad fel band, mae Richard a Wyn wedi gwneud cyfraniad anferth i gerddoriaeth gyda label Fflach.

Roedd rhaid dewis un o’r recordiau uchod fel ein record ar gyfer yr wythnos, felly dyma fynd am y cynhara’, sef Yr Oes Ail.

Rhyddhawyd y casgliad 20 trac yma’n wreiddiol yn 2002 ac mae’n ddetholiad o ganeuon cynnar y grŵp a ryddhawyd yn bennaf ar Recordiau Sain. Mae nifer o’u caneuon mwyaf adnabyddus ar y record yma gan gynnwys ‘Whisgi a Soda’, ‘Twristiaid yn y Dre’, ‘Garej Paradwys’, ‘Sefyll ar y Sgwar’ a’r glasur ‘Geiriau’.

 

Artist: Roughion

Mae’r ddeuawd electronig o Aberystwyth, Roughion, yn rhyddhau eu EP newydd heddiw, 1 Mai 2020.

‘Acid Appearance / Pune’ ydy enw’r EP ac mae’n cael ei ryddhau ar label newydd Afanc, sef label sy’n cael ei redeg gan un o aelodau Roughion, Gwion James.

Dau drac, sef y rhai yn enw’r record, sydd ar yr EP….

“Cân acid house yw un neith neud i chi ddawnsio, a’r llall yn gân byddwch chi’n methu cael allan o’ch pen wrth drio cysgu ar ôl y parti” meddai bois Roughion am y traciau.

Mae ‘Acid Appearance’ yn defnyddio sampl o ffilm sy’n sôn am sut i wisgo yn ôl y band, gyda ‘Pune’ ar y llaw arall yn defnyddio sampl o India. Penderfynodd Roughion enwi’r ail drac yn ‘Pune’ ar ôl y ddinas honno yn India, gan ddeall mai dyna’r lle i fynd am barti yn y wlad honno.

Mae mwy o gynnyrch i ddod gan Roughion dros y misoedd nesaf, ac yn benodol felly EP arall ‘Targed The Moon’ fydd yn cael ei ryddhau ym mis Mehefin. Cyn hynny, byddan nhw hefyd yn rhyddhau sengl o’r enw ‘Violent Men’ sy’n fersiwn newydd o drac gan Dead Method, sy’n un arall o artistiaid Recordiau Afanc.

 

Un peth arall: Podlediad diweddaraf Y Sôn

Mae gweld dyfodiad pennod newydd o bodlediad bob amser yn achos dathlu, ac mae’r diweddaraf, a’r pedwaredd podlediad ar bymtheg gan y ddeuawd Chris a Geth, wedi’i gyhoeddi wythnos yma.

Yn wahanol i’r arfer, mae’r ddau’n recordio’r podlediad ar wahân, ond yn llwyddo i gynnal y drafodaeth ddeallus rydan ni wedi dod i arfer ag o ganddynt.

Y prif bynciau trafod ydy albwm newydd Ani Glass, Mirores, a gig diweddaraf Cowbois Rhos Botwnnog yn y Galeri, Caernarfon fel rhan o’r daith ‘Dyddiau Du, Dyddiau Gwyn’ yn ddiweddar.

Er bod y ddau’n swnio’n gyndyn i drafod gormod ar yr argyfwng Coronafeirws, maen nhw’n trafod rhywfaint ar y ffordd mae cerddorion Cymru wedi mynd ati i ymdrin â’r sefyllfa.

Buddsoddiad gwerth chweil o awr fach yn ôl yr arfer.