Pump i’r Penwythnos – 10 Ebrill 2020

Gig: Roughion – Cardiff Music Lockdown – Facebook – 19:00, Gwener  10 Ebrill

Ar ôl cwpl o benwythnosau prysur o gigs ar-lein, mae hi fymryn yn dawelach ar benwythnos y Pasg.

Set ‘byw’ gan Roughion gyda Cardiff Music Lockdown am 19:00 nos Wener, 10 Ebrill ydy’r unig beth sydd wedi dod i’n sylw hyd yma.

Bosib iawn bod ni wedi colli rhywbeth cofiwch, felly rhowch wybod am unrhyw beth sydd ar y gweill.

 

Cân: ‘Plisgyn’ – Mêl

Mae Mêl, sef prosiect cerddorol newydd Eryl Prys Jones, sef cyn-ganwr y grŵp poblogaidd o Ddyffryn Conwy, Jen Jeniro, yn rhyddhau eu sengl newydd heddiw.

‘Plisgyn’ ydy enw ail sengl Mêl, ac mae’n ddilyniant i’r trac cyntaf i ymddangos gan y grŵp, ‘Mêl i Gyd’ a ryddhawyd ddiwedd mis Tachwedd 2019.

Recordiwyd y trac newydd yn Stiwdio Glan Llyn, Melin y Coed gyda’r cynhyrchydd Llyr Pari, oedd hefyd yn aelod o  Jen Jeniro wrth gwrs.

“Testun y gân, yn fwy na heb, ydy sefyllfa Cymru a’n hagwedd gyffredinol ni – y Cymry – o ddiawlio a chwyno am bethau ond, yna, derbyn ein ffawd yn hytrach na chodi llais neu gyd-dynnu” meddai Eryl.

“A hynny oherwydd ein bod wedi hen arfer efo’r pethau fel y maen nhw ers cenedlaetholau ac wedi dysgu bod dim pwrpas herio na cheisio newid y drefn sydd wedi’i osod arnom ni.”

“Nid anerchiad mohono, ond arsylwad o fath. Roedd rhai o newidiadau’r gorffennol yn anochel. Ond nid yw pob newid a shift sy’n digwydd o flaen ein llygaid yn gorfod bod yn anochel.”

Wrth ddisgrifio sŵn y sengl newydd dywed Eryl bod iddi “naws weddol drofannol, ysgafn, tywydd a spagetti-westernaidd.”

Recordiau Libertino sy’n rhyddhau’r sengl newydd.

 

Record: Hunanladdiad Atlas – Dafydd Hedd

 

Mae’r artist ifanc o Fethesda, Dafydd Hedd, wedi rhyddhau albwm newydd ddydd Sadwrn diwethaf, 4 Ebrill.

‘Hunanladdiad Atlas’ ydy enw ail albwm y gŵr ifanc, ac mae’n dilyn ‘Y Cyhuddiadau’ a ryddhawyd ganddo yn 2019. Cyrhaeddodd yr albwm hwnnw restr ’10 Uchaf Albyms 2019’ cylchgrawn Y Selar – gallwch weld y rhestr lawn yn rhifyn diweddaraf Y Selar.

Bu i Dafydd roi blas o’r albwm newydd i ni’n ddiweddar trwy gyhoeddi’r trac ‘Fflamdy’ ar ffurf fideo ar-lein – fideo wedi ei gyfarwyddo gan y cyfarwyddwr ffilm addawol Hedydd Ioan.

Roedd Dafydd yn un o’r artistiaid a berfformiodd fel rhan o ŵyl rithiol arbennig ‘Gŵyl Ynysu’ ar ddydd Sul 29 Mawrth – gŵyl oedd yn cael ei chynnal yn gyfan gwbl ar-lein trwy berfformiadau Facebook Live gan yr holl artistiaid.

Penderfynodd y cerddor ifanc droi at lwyfannau ar-lein ar gyfer lansio’r albwm newydd nos Wener diwethaf, 3 Ebrill, wrth iddo gynnal gig digidol ar ei Facebook Live ac Instagram Live.

Dyma fideo ‘Fflamdy’:

 

 

Artist: Bitw

Mae Bitw, sef prosiect diweddaraf Gruff ab Arwel, wedi rhyddhau fersiwn newydd o’i albwm cyntaf.

Rhyddhawyd fersiwn gwreiddiol yr albwm ym mis Mai 2019, dan yr enw ‘Bitw’, ac mae’n llawn o’r synau pop electronig low fi rydan ni wedi dod yn gyfarwydd â nhw gan y cyn aelod Eitha Tal Ffranco ac Y Niwl.

Mae sain y fersiwn newydd, sy’n dwyn yr enw ‘Prysur Ymarfer’ yn wahanol iawn, gyda dim ond dau offeryn syml sef piano, a llais Gruff. Mae modd prynu’r albwm yn ddigidol am ddim ond £2 ar safle Bandcamp Bitw.

“Dwi wedi recordio fersiwn pot jam piano a llais o fy record gyntaf – ‘Prysur Ymarfer’ – sydd ar gael i brynu rŵan am £2, neu faint bynnag da chi’n meddwl ma’n haeddu” meddai Gruff.

Mae’n ymddangos fod Gruff wedi petruso rhywfaint cyn rhyddhau’r casgliad ar ei newydd wedd oherwydd yr holl stwff sy’n ymddangos ar-lein ar hyn o bryd wrth i bobl ynysu yn eu cartrefi, ond rydan ni’n sicr yn falch o weld y casgliad newydd sy’n rhoi gwedd hollol wahanol i’r caneuon.

Mae ‘Prysur Ymarfer’ ar gael i’w lawr lwytho’n ddigidol nawr ar safle Bandcamp Bitw, ond ddim ond am gyfnod byr, amhenodol yn ôl Gruff felly brysiwch!

 

Un peth arall: Podlediad ‘Y Degawd Mewn Cerddoriaeth’

Mae ein cyfeillion ar y blog Sôn am Sîn wedi cyhoeddi eu podlediad diweddaraf wythnos diwethaf.

Mae’r pod diweddaraf bach yn wahanol i’r hyn maen nhw’n cyhoeddi fel arfer, gen ei fod yn recordiad byw o sesiwn a gynhaliwyd gan Sôn am Sîn yng Ngŵyl Dewi Arall yng Nghaernarfon ar benwythnos Gŵyl Dewi.

Ac mae’r sgwrs yn llawer llai cyfredol na’r hyn rydan ni wedi dod i arfer gydag o ar eu podlediadau wrth i Chris a Geth drafod y ddegawd diwethaf gyda’u gwesteion Awen Schiavone ac Yws Gwynedd.

Fel arfer gyda stwff SaS, mae’n wrandawiad bach da.