Pump i’r Penwythnos – 10 Gorffennaf 2020

Gig: 9 Bach 7 – Tudalen Facebook 9Bach – Iau, 16/07/20

Ein prif argymhelliad o gigs digidol i edrych nôl dros yr wythnos diwethaf, ydy fersiwn rhithiol Gŵyl Car Gwyllt nos Sadwrn diwethaf. Gallwch ddarllen barn adolygwr Y Selar, Tegwen Bruce-Deans, am yr ŵyl a gwylio’r digwyddiad digidol nawr.

Dros yr wythnos diwethaf mae Lewys wedi cyhoeddi manylion gig rhithiol cyffrous y byddan nhw’n cynnal nos Wener nesaf, ac fe wnawn ni roi mwy o sylw i hwnnw wythnos nesaf.

Band sydd wedi bod yn fywiog iawn o ran cynnal gigs rhithiol dros y misoedd diwethaf yma ydy 9Bach, ac mae’r diweddaraf o’u gigs Facebook, sef gig rhif 7, yn digwydd nos Iau yma. Mae safon rhain wastad yn uchel felly gwerth troi mewn.

Dyma gig rhif 6 9Bach:

#GigsBach9Bach #6If you can please donate to Refugetinyurl.com/9bachrefuge

Posted by 9Bach on Thursday, 25 June 2020

 

Cân:  ‘Diogel’ – Shamoniks x Eädyth

Mae’r berthynas gerddorol rhwng y cynhyrchydd Shamoniks a’r artist electronig Eädyth yn parhau i flodeuo yn ôl pob golwg wrth iddyn nhw ryddhau sengl newydd heddiw.

‘Diogel’ ydy enw’r diwn newydd sydd wedi cael ei ddatgelu ganddynt, ac mae’n ddilyniant i’r albwm, Keiri, a ryddhawyd ganddynt yn Awst 2019.

Mae’r sengl yn un o gasgliad o draciau mae’r ddeuawd wedi bod yn gweithio arnyn nhw gyda’i gilydd, ac y neu tyb nhw, dyma’r trac D’n’B cyntaf erioed yn yr iaith Gymraeg.

“Mae geiriau ‘Diogel’ wedi eu hysgrifennu yn dilyn ychydig fisoedd anodd iawn” meddai Eädyth.

“Wrth i ni fethu â theimlo’n ddiogel a theimlo ein bod mewn ‘limbo’ roeddwn i eisiau i’r gân cael neges rymusol gadarnhaol y tu ôl iddi. Felly pan fyddwch chi’n teimlo’n aneglur gallwch chi bob amser ddod o hyd i le diogel. Yn fy achos i, bod yn greadigol ac ysgrifennu yw fy lle diogel.”

Yn sicr mae’r sengl newydd yn brawf arall o gyfoeth partneriaeth y ddau. Dyma ‘Diogel’:

 

Record: Yr Oria EP

Wedi cyfnod tawel mae’r grŵp o ardal Blaenau Ffestiniog, Yr Oria, wed cyhoeddi y byddan nhw’n rhyddhau EP newydd yn fuan.

Dyma fydd cynnyrch cyntaf y grŵp ers rhyddhau’r sengl ‘Dim Maddeuant’ ym mis Chwefror 2019. Bryd hynny roedd addewid o EP ar y gweill, ac mae’n ymddangos y gallwn ddisgwyl gweld yr EP hwnnw yn y dyfodol agos.

Yn ôl y grŵp, enw’r EP newydd fydd ‘Galw Allan’, a bydd yn cynnwys 5 trac. Mae ‘na dipyn o newid wedi bod yn aelodaeth y grŵp dros y tair blynedd diwethaf, a gallwn ni ddisgwyl dipyn o newid i’r sŵn o ganlyniad.

Mae’r casgliad newydd yn cynnwys hanner dwsin o ganeuon, gan gynnwys y senglau ‘Dim Maddeuant’ a ‘Messiah’ a rhyddhawyd yn 2018.

Mae’r newyddion yn esgus da i fwrw golwg nôl ar EP cyntaf Yr Oria, oedd yn rhannu enw’r grŵp, ac a ryddhawyd ym Mehefin 2017.

Chwara teg i’r Oria, maen nhw’n gwbod sut i sgwennu tiwn fachog ac mae ‘na gasgliad bach neis ohonyn nhw ar yr EP cyntaf gan gynnwys ‘Cyfoeth Budr’, ‘Gelynion’ a ‘Cyffur’.

Dyma’r bagnar ‘Cyfoeth Budr’:

 

 

Artist: Colorama

Cyhoeddwyd ar ddechrau’r mis bod albwm newydd Colorama ar y ffordd, gyda dyddiad rhyddhau wedi’i bennu ar 31 Gorffennaf.

‘Chaos Wonderland’ ydy enw’r record hir diweddaraf gan fand Carwyn Ellis – bydd allan yn ddigidol ddiwedd y mis, a bydd fersiynnau CD a feinyl yn dilyn ar 28 Awst. Mae modd rhag-archebu’r record ar safle Bandcamp Colorama bellach.

Go brin fod angen llawer o gyflwyniad ar Colorama, a hwythau’n creu cerddoriaeth hyfryd yn y Gymraeg a’r Saesneg ers sawl blwyddyn bellach. Chaos Wonderland fydd seithfed albwm stiwdio llawn y grŵp, ynghyd â dau gryno albwm sydd wedi’u rhyddhau hefyd.

Mae’r albwm newydd yn gweld Carwyn yn cyd-weithio gyda’r cynhyrchydd Shawn Lee, Cafodd y gwaith recordio ei wneud yn fuan yn ystod 2018, jyst fod y ddau gerddor wedi bod mor brysur ers hynny nes bod dim modd gorffen y gwaith yn iawn. Mae Carwyn wrth gwrs wedi bod yn teithio’r byd gyda’r Pretenders ac Edwyn Collins, ynghyd â hyrwyddo albwm ei brosiect Rio ’18. Mae hefyd wedi bod yn rhyddhau cynnyrch unigol er budd elusen Tarian Cymru yn ystod y cyfnod cloi.

Mae Shawn Lee yntau yn gerddor hynod gynhyrchiol sydd wedi rhyddhau tua 30 o albyms ei hun dros y blynyddoedd yn ogystal â chyd-weithio gydag artistiaid amrywiol sy’n cynnwys Clutchy Hopkins, Tony Joe White, Darondo, Money Mark, Tommy Guerrero, Psapp, Little Barrie a Saint Etienne. Cyd-weithiodd gyda Carwyn am y tro cyntaf yn 2017 wrth recordio’r sengl ‘Dive’. Mae Shawn wedi bod yn teithio tipyn ar ei liwt ei hun, a hefyd gyda’r band Young Gun Silver Fox ers 2018.

O’r diwedd daeth y cyfle i orffen y gwaith yn ddiweddar, ac fe ryddhawyd y sengl gyntaf o’r casgliad, ‘And’, yn ddiweddar.

Jyst i’ch atgoffa chi o wychder Colorma, dyma fideo’r anhygoel ‘V Moyn T’ o’r albwm Dere Mewn:

 

 

Un peth arall: Crysau T Mellt

Mae’r misoedd diwethaf yma wedi bod yn rhai anodd i bawb, ond mae’n deg dweud bod sawl peth da wedi dod ohonynt hefyd.

Un o’r pethau hynny ydy parodrwydd pobl i gefnogi achosion da, boed ar ffurf codi arian neu godi llais. Mae Mellt wedi mynd ati i gefnogi achos ‘Black Lives Matter’ yn y ddwy ffordd.

Mae’r grŵp o Aberystwyth wedi diolch yn fawr i bawb sydd wedi prynu un o grysau T y band yn ddiweddar, gan helpu codi arian at ‘Black Lives Matter Caerdydd’.

Roedd modd i bawb oedd yn prynu crys T Mellt roi cyfraniad ychwanegol wrth wneud hynny, ac mae’r ymgyrch wedi codi £412.29 at yr achos.

“Hoffen ni ddiolch pawb sydd wedi prynu grys-t dros y mis diwethaf, yn enwedig y rhai wnaeth rhoi arian ychwanegol! Chi wedi codi £412.29 ar gyfer Black Lives Matter Cardiff” meddai’r grŵp.

Da iawn bois, gwaith da.

 

Hoffen ni ddiolch pawb sydd wedi prynu grys-t dros y mis diwethaf, yn enwedig y rhai wnaeth rhoi arian ychwanegol! Chi…

Posted by Mellt on Tuesday, 30 June 2020

 

Prif lun: Eädyth a Shamoniks yng Ngwobrau’r Selar fis Chwefror eleni (Y Selar / FfotoNant)