Gig: Huw M – Clwb y Bont, Pontypridd – 11/01/20
Mae bach mwy o gigs yn digwydd yr wythnos hon nag oedd wythnos diwethaf, ond mae dal yn ddechrau distaw i 2020 o ran digwyddiadau byw.
Y gig sy’n dal ein sylw’n bennaf penwythnos yma ydy hwnnw i ddathlu’r Hen Galan ym Mhontypridd nos Sadwrn gyda Huw M. Gyda lwc bydd y Fari Lwyd yn galw hefyd!
Braf gweld hefyd nad ydy’r Welsh Whisperer yn segura yn ystod 2020, gyda’i gig cyntaf o’r flwyddyn yn Neuadd y Ddraig Goch, Drefach nos Sadwrn.
Cân: Cwcw – Elis Derby
Mae Elis Derby wedi rhyddhau sengl newydd ddydd Gwener diwethaf, 3 Ionawr.
‘Cwcw’ ydy enw’r trac newydd gan y cerddor ifanc sydd wedi creu cryn argraff dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf.
Er iddo ffurfio label annibynnol i ryddhau ei senglau cyntaf, mae’r sengl ddiweddaraf allan yn digidol trwy label Recordiau Côsh, a daeth cyhoeddiad y bydd yn rhyddhau ei albwm cyntaf gyda label Yws Gwynedd hefyd.
Mae band Elis yn cynnwys y cerddorion Sion Gwyn, Llion Lloyd a Carwyn Williams, ac maent wedi bod yn brysur dros y misoedd diwethaf yn recordio gydag Ifan Emlyn o gwmni Drwm, yn Stiwdio Sain, Llandwrog.
‘Cwcw’ ydy’r gyntaf o ddwy sengl sy’n cael eu rhyddhau fel rhagflas i’r albwm. Cafodd y trac ei chwarae gyntaf ar raglen Bethan Elfyn ar BBC Radio Cymru wythnos diwethaf.
Wythnos diwethaf fe gyhoeddwyd fideo sesiwn ar gyfer ‘Cwcw’ gan griw Lŵp, a dyma fo:
Record: Alun Gaffey
Mae’r si ar led ers sbel am gynnyrch newydd gan Alun Gaffey, ac o’r diwedd daeth cadarnhad fod ei sengl newydd allan ar label Recordiau Côsh heddiw!
‘Yr 11eg Diwrnod’ ydy enw’r trac newydd gan y cyn-aelod Radio Luxemburg / Race Horses ac mae’n swnio bach yn waci, ac yn wych, fel y byddech chi’n disgwyl gan Gaff.
Mae’r sengl newydd yn damaid i aros pryd nes rhyddhau ail albwm y cerddor, felly mae’n gyfle i ni fwrw golwg nôl ar ei albwm unigol cyntaf, hunan deitlog, a ryddhawyd yn 2016.
Rhyddhawyd honno ar label, Sbrigyn Ymborth, ac mae’n cynnwys y traciau cofiadwy ‘Palu Tyllau’, ‘Sothach’ a ‘Fy Natur Ddeuol’.
Dyma’r fideo ardderchog ar gyfer ‘Yr Afon’ o’r albwm cyntaf hwnnw, wedi’i gyfarwyddo gan Sion Mali.
Artist: Eve Goodman a Sera
Gwych gweld dwy gantores hynod dalentog yn cyd-weithio ar brosiect newydd.
Y ddwy dan sylw ydy Sera, o Gaernarfon yn wreiddiol, ond bellach wedi setlo yng Nghaerdydd, ac Eve Goodman sydd hefyd o ardal Caernarfon.
Mae Sera’n enw cyfarwydd i’r rhan fwyaf o’r darllenwyr mae’n siŵr, ac wedi hen sefydlu ei hun a’i cherddoriaeth a llais unigryw. Mae Eve yn llai cyfarwydd mae’n siŵr, ond yn gantores werin ifanc sy’n dechrau gwneud enw i’w hun, ac wedi ei chynnwys ar gynllun Gorwelion eleni.
Mae’r ddwy wedi bod yn ysgrifennu ac yn recordio cerddoriaeth gyda’i gilydd yn ddiweddar ac mae eu sengl gyntaf ar y cyd, ‘Gaeafgwsg’ allan heddiw, 10 Ionawr. Cafodd y trac ei chwarae am y tro cyntaf ar raglen Lisa Gwilym ar Radio Cymru yr wythnos hon.
Roedd y ddwy hefyd ar raglen Heno, S4C wythnos diwethaf yn perfformio’r sengl newyddion – fideo isod.
Mae Eve newydd gyhoeddi manylion taith sy’n digwydd ddiwedd Ionawr a dechrau Chwefror – manylion llawn ar ei thudalen Facebook.
Un peth arall: Rhestrau Byr Cyntaf Gwobrau’r Selar
Rhag ofn i chi golli’r newyddion ganol yr wythnos, rydym wedi cyhoeddi rhestrau byr cyntaf Gwobrau’r Selar eleni.
Y ddau gategori sydd wedi’u datgelu ydy ‘Band Gorau’ a ‘Digwyddiad Byw Gorau’. Dyma’r rhestrau byr dan sylw:
Rhestr fer ‘Band Gorau’
Lewys
Gwilym
Fleur de Lys
Rhestr Fer ‘Digwyddiad Byw Gorau’
Tafwyl
Gigs Cymdeithas yr Iaith Gymraeg – Steddfod Llanrwst
Sesh Maes Barcar
Llongyfarchiadau i bawb!
Bydd rhestrau byr y 10 categori arall, ynghyd ag enillydd y wobr Cyfraniad Arbennig eleni, yn cael eu cyhoeddi dros yr wythnosau nesaf.
Bydd y cyfan wrth gwrs yn arwain at ddatgelu enillwyr y 12 categori eleni ar benwythnos Gwobrau’r Selar yn Aberystwyth, sef 14-15 Chwefror.
Mae tocynnau penwythnos ar werth ar hyn o bryd, a byddwn yn datgelu’r lein-yp ar gyfer y ddwy noson prynhawn ma!