Set rhithiol: Mared yn fyw o Sain
Rydan ni’n camu nôl bythefnos gyda’n dewis o set rhithiol y tro yma, a hynny ar gyfer lansiad albwm cyntaf Mared.
28 Awst oedd dyddiad rhyddhau swyddogol Y Drefn, ac i nodi’r achlysur perfformiodd Mared yr albwm yn llawn yn fyw o stiwdio Sain yn Llandwrog.
Mae’r set ar gael i’w wylio ar sianel YouTube Recordiau I Ka Ching…neu cliciwch y botwm chwarae isod!
Cân: ‘Cymru’ – Cwtsh
Bydd y grŵp newydd o gerddorion profiadol, Cwtsh, yn rhyddhau eu sengl newydd ar 18 Medi.
Ond, cyn hynny, mae cyfle cyntaf i glywed y trac cyn unrhyw le arall ar wefan Y Selar ers bore ma.
Cwtsh ydy prosiect cerddorol newydd Alys Llywelyn-Hughes, Siôn Lewis a Betsan Haf Evans sydd oll wedi bod yn aelodau o grwpiau amrywiol dros y blynyddoedd.
Rhyddhawyd sengl gyntaf y grŵp, sef ‘Gyda Thi’ ym mis Mehefin. ‘
‘Cymru’ ydy enw’r sengl newydd ac yn ôl Alys mae’r trac yn dod o gariad yr aelodau at eu gwlad.
“Trwy’r gân rydym yn dathlu’r pethau anhygoel sydd am Gymru fel ei thirwedd a’i harddwch, ac amdanom ni fel cenedl – ein cyfeillgarwch tuag at ein gilydd a’r undod sy’n dod wrth i ni ei hamddiffyn a’i pharchu.”
Hiroes i hynny medd Y Selar, a hiroes i ‘Cymru’:
Record: Couture C’Ching – Swci Boscawen
Newyddion da wythnos diwethaf wrth i gynnyrch Swci Boscawen a ryddhawyd ar label Rasp ymddangos ar lwyfannau digidol am y tro cyntaf.
Swci Boscawen oedd prosiect eiconig y gantores Mared Lenny o Gaerfyrddin a ymddangosodd tua 2005. Roedd Mared eisoes yn wyneb a llais cyfarwydd i’r sin gerddoriaeth ers sawl blwyddyn byth ers iddi ymddangos fel prif ganwr y grŵp pync o Gaerfyrddin, Doli, yn ferch ifanc 12 oed.
Rhyddhaodd ddwy sengl ar label Rasp sef ‘Swci Boscawen’ ddaeth allan yn 2005 a ‘Min Nos Monterey’ a ryddhawyd yn 2006. Yna, rhyddhaodd yr albwm ardderchog ‘Couture C’Ching’ yn 2007, sef gwaddol amlycaf Swci Boscawen mae’n siŵr.
Mae’r albwm yn cynnwys llwyth o draciau cofiadwy gan gynnwys ‘Rhedeg’, ‘Gweld Ti Rownd’, ‘Min Nos Monterey’ a’r anthem ‘Adar y Nefoedd’.
Dyma ‘Rhedeg’ yn fyw o stiwdio Bandit:
Artist: Tant
Da i weld y grŵp gwerin ifanc talentog, Tant, yn ail-ymddangos gyda sengl newydd allan ddydd Gwener diwethaf, 4 Medi.
‘Byth Eto, ydy enw’r trac newydd ac mae’n cael ei ryddhau ar label Recordiau Sain.
Pump o ferched talentog ydy aelodau Tant sef Angharad, Elliw, Modlen, Non a Siwan.
Daethant ynghyd am y tro cyntaf mewn penwythnos a drefnwyd gan Trac, ‘Gwerin Gwallgo’, a gynhaliwyd yng ngwersyll yr Urdd Glan Llyn nôl yn 2016.
Daw’r genod o wahanol ardaloedd yng Ngogledd Cymru. Mae Angharad (telyn), Modlen (llais a gitâr) ac Elliw (llais a gitâr) yn dod o Ddyffryn Conwy yn Llanrwst, daw Siwan (llais a cajon) o Ynys Môn ac roedd Non (telyn a llais) yn ddisgybl Ysgol Y Creuddyn.
Maent yn perfformio eu fersiynau eu hunain o glasuron gwerin Cymraeg gan fwyaf, ond wedi bod yn ychwanegu deunydd gwreiddiol i’w set wrth ddatblygu. Rhyddhawyd eu sengl ddwbl gyntaf sef ‘I Ni’ a ‘Bywyd Rhy Fyr’ ym mis Hydref 2018.
Mae dylanwadau’r grŵp yn cynnwys artistiaid Cymraeg fel Gwilym Bowen Rhys, Gwenan Gibbard, Angharad Jenkins a Patrick Rimes, oedd oll yn diwtoriaid ar y cyrsiau gwerin gwallgof a gynhaliwyd gan Trac.
Maent wedi cael peth llwyddiant a chydnabyddiaeth dros y cwpl o flynyddoedd diwethaf gydag enwebiadau ar gyfer Gwobrau Gwerin Cymru a Gwobrau Gwerin BBC Radio 2. Fe gawson nhw hefyd gyfle i berfformio yn y BBC Radio 2 Young Folk Awards, ac maent wedi bod yn perfformio’n rheolaidd ledled Cymru.
Mae’r sengl newydd yn ymddangos wrth i bedair o’r aelodau baratoi i fynd i’r Brifysgol, ond mae’r grŵp yn bwriadu ceisio dod ynghyd mor aml a phosib – newyddion da yn sicr.
Un peth arall: Cân i Newid y Byd Ben Ellis
Eitem fach ddifyr ddiweddar gan gyfres Lŵp ydy ‘Cân i Newid y Byd’, sy’n rhoi cyfle i gerddorion amrywiol ddewis un gân sydd wedi cael dylanwad arbennig arnynt.
Y diweddaraf i gyflwyno ei gân ydy Ben Ellis, sy’n gyfarwydd i ni fel ffryntman Sen Segur a’i grŵp newydd Phalcons.
Y gân mae Ben wedi setlo arni ydy trac gan grŵp arall o Ddyffryn Conwy, Jen Jeniro.
Mae ‘Glaw yn y Dail’ yn ymddangos ar albwm Jen Jeniro, Geleniaeth, a ryddhawyd yn 2008. Cyfyr ydy hi o’r gân a gyfansoddwyd yn wreiddiol gan Meic Stevens, ac mae’n un oi ganeuon cynharaf a ymddangosodd ar ei ail EP a ryddhawyd ar label Wren ym 1968.
Mae fersiwn Jen Jeniro yn adlewyrchu’r sŵn seicadelig unigryw a sefydlodd y grŵp, ac a ddylanwadodd ar sawl grŵp arall a’i dilynodd yn yr ardal.