Set rhithiol: Adwaith, Pys Melyn – Clwb Ifor Bach, Caerdydd – Stafell Fyw – 16/12/20
Bydd nifer ohonoch wedi mwynhau gig byw diweddaraf Stafell Fyw a ddarlledwyd ar 2 Rhagfyr. Mae adolygiad Tegwen Bruce-Deans o’r gig hwnnw gyda Calan a Gwilym Bowen-Rhys yn yr adran adolygiadau nawr, ac mae modd i chi brynu copi o’r gig ar wefan Stafell Fyw.
Bydd y nesaf o’r gigs yn digwydd nos Fercher yma am 19:30, a’r tro hwn cyfle Adwaith a Pys Melyn ydy hi i gamu i’r llwyfan, a hynny yn lleoliad cyfarwydd Clwb Ifor Bach, gan roi naws wahanol iawn i’r darllediad diwethaf mae’n siŵr. Gallwch gofrestru ar gyfer y gig ar wefan Stafell Fyw nawr.
Gwerth nodi bod ffrwd byw o gig heno hefyd, sef set arbennig gan Georgia Ruth o Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth. Mae modd i chi wylio’n fyw ar wefan AM, ac mae mwy o wybodaeth ynglŷn â sut i wneud hynny ar wefan Canolfan y Celfyddydau.
Cân: ‘Mae ‘Ne Rwbeth am Y ‘Dolig’ – Osian Huw Williams a Rhys Gwynfor
A hithau bellach ddim ond pythefnos o’r Nadolig, mae’n saff i ni gyd ddechrau chwarae’r tiwns Nadolig ar lŵp debyg iawn.
Felly mae ein dewis o gân yr wythnos hon yn un Nadoligaidd iawn. Does wybod bod digon ohonyn nhw eleni, gyda phawb fel petaem nhw’n rhyddhau sengl Nadolig ar hyn o bryd!
Un o’r traciau newydd sydd wedi ymddangos ydy sengl dau gyfaill sy’n gyfarwydd iawn â’i gilydd, sef Osian Candelas a Rhys Gwynfor. Mae’r ddau’n ffrindiau bore oes wrth gwrs, a bydd rhai yn cofio eu bod wedi cyd-weithio i gipio teitl Cân i Gymru ryw flwyddyn gyda Jessop a’r Sgweiri.
Wel, bellach maen nhw wedi dod ynghyd unwaith eto er mwyn rhyddhau’r ymgais yma ar sengl Nadolig. Mae pawb yn hoffi caws a gwin adeg yr ŵyl, ac yn sicr mae dogn golew o gaws yn ‘Mae ‘Ne Rwbeth Am Y ‘Dolig’!
Does dim o’i le ar hynny cofiwch, does wybod bod pawb angen bach o hwyl yr ŵyl a nostalgia Nadoligaidd ar ddiwedd 2020 o bob blwyddyn. Yn ôl yr hogie, unig nos ‘Mae ‘Ne Rwbeth am y ‘Dolig’ ydy codi calon a dymuno ‘Dolig Llawen iawn i bawb, ac yn sicr mae’n llwyddo i wneud hynny a bydd yn ffefryn mis Rhagfyr am flynyddoedd i ddod.
Jyst dewch a’r gwin bobl!
Record: Hunanladdiad Atlas – Dafydd Hedd
Er bod ail albwm Dafydd Hedd allan ers mis Ebrill, mae rheswm arbennig dros ei gynnwys fel ein dewis o record yr wythnos hon.
Y rheswm hwnnw ydy gan fod y cerddor ifanc o Fethesda wedi penderfynu mynd ati i ddathlu’r adfent mewn ffordd wahanol eleni, a chodi arian at achos da yn y broses.
Does dim amheuaeth fod Dafydd yn un o arwyr cerddorol cyfnod y clo mawr, a’i fod wedi mynd ati i fod yn weithgar yn ystod 2020 er gwaetha’r cyfyngiadau. Mae’r gŵr ifanc wedi parhau i ryddhau cerddoriaeth, cynnal gigs rhithiol rheolaidd, a mynd ati i godi arian at elusennau wrth wneud hynny.
Esiampl arall o’i waith da ydy ei fwriad o berfformio’r 21 cân mae wedi rhyddhau ar ei gyfryngau cymdeithasol rhwng 1 a 21 Rhagfyr gan ddefnyddio’r hashnod #CyfresRhagfyr.
Bydd modd defnyddio ‘Buy Me a Coffee’ er mwyn cefnogi’r gyfres, a bydd Dafydd yn rhoi unrhyw arian tuag at achos da.
Bydd modd gweld y fideos o berfformiadau Dafydd ar ei dudalen Facebook, neu ar ei gyfrifon Twitter ac Instagram, gan gynnwys caneuon yr albwm Hunanladdiad Atlas wrth gwrs.
Dyma fideo ‘Fflamdy’ o’r albwm:
Artist: Pedair
Prosiect arall sydd wedi rhyddhau sengl Nadolig wythnos diwethaf ydy Pedair.
Fel mae’r enw’n awgrymu, mae Pedair yn cyfuno doniau anhygoel pedair o gerddorion benywaidd amlycaf Cymru, sef Sian James, Gwyneth Glyn, Meinir Gwilym a Gwenan Gibbard.
Daeth Pedair ynghyd i berfformio yn Eisteddfod Genedlaethol Môn nôl yn 2017, ac yna eto yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst llynedd.
Dros y misoedd diwethaf maen nhw wedi bod wrthi’n recordio o’u cartrefi gan weithio ar ganeuon newydd. Rhyddhawyd pedair cân eisoes ganddynt sef ‘Cân Crwtyn y Gwartheg’, Cân y Clo’, ‘Llon yr Wyf’ a ‘Cân Rhodri Dafydd’.
‘Carol Nadolig Hedd Wyn’ ydy enw’r sengl Nadolig sydd allan ers dydd Gwener diwethaf, 4 Rhagfyr.
Mae’r trac yn cyfuno geiriau gan y bardd enwog o Drawsfynydd, Hedd Wyn, gyda threfniant newydd o’r alaw draddodiadol ‘Deio Bach’. Mae’r geiriau o garol obaith am heddwch a byd gwell a ysgrifennwyd gan Hedd Wyn yng nghanol erchyllterau’r Rhyfel Byd Cyntaf ym 1916.
Dyma’r fideo swyddogol ar gyfer y sengl a gafodd ei ddangos ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol yr Eisteddfod Genedlaethol nos Iau diwethaf, 3 Rhagfyr, fel rhan o galendr adfent yr Eisteddfod:
Un Peth Arall: Lansio Clwb Selar
Ma siopa Nadolig wastad yn stress tydi, ond yn fwy fyth felly eleni!
Na phoener, mae gan Y Selar ateb perffaith i unrhyw un sy’n chwilio am anrheg i ffrind neu berthynas sy’n ffan o gerddoriaeth Gymraeg, neu jyst fel trît bach i chi’ch hun!
Neithiwr fe wnaethon ni lansio Clwb Selar – cyfle i chi gefnogi gwaith Y Selar wrth i ni barhau hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg gyfoes, gan hefyd dderbyn llwyth o nwyddau a manteision ecsgliwsif wrth wneud hynny.
Mae sawl lefel aelodaeth i’r Clwb gyda phrisiau amrywiol, felly digon o opsiynau, gyda phecyn gwahanol ynghlwm â phob un.
Mae’r nwyddau sydd ynghlwm â’r gwahanol becynnau aelodaeth blynyddol yn cynnwys blwyddlyfr a record feinyl aml-gyfrannog cyfyngedig. Bydd pob aelod hefyd yn derbyn e-gylchlythyr rheolaidd gyda chynigion arbennig.
Heb ddatgelu gormod, mae’n bosib bydd sypreis bach neis i aelodau’r Clwb cyn y Nadolig hefyd…gwyliwch y gofod.
Yn y cyfamser, ymaelodwch â’r Clwb nawr – cymrwch olwg ar becynnau aelodaeth Clwb Selar:
Cymrwch olwg ar becynnau aelodaeth Clwb Selar rŵan!