Pump i’r Penwythnos – 12 Mehefin 2020

Gig: Gwen Mairi – Instagram / Facebook – Trwy’r wythnos!

Un artist sydd wedi bod yn brysur yn rhannu cynnwys ar ei chyfryngau digidol wythnos yma ydy Gwen Mairi. Mae’r delynores a chantores ardderchog wedi bod yn rhannu darn o gerddoriaeth ar ei chyfrifon Instagram a Facebook bob dydd yr wythnos hon, a dyma’r darn cyntaf sef ‘Y Gerddinen’:

Ges i enwebiad ar Instagram gan Lea Sautin i rannu bach o ngwaith bob dydd am wythnos. Yn herio’n hunan i…

Posted by Gwen Màiri on Monday, 8 June 2020

Mwy am sengl newydd Bwca isod, ond bydd cyfle i weld set byw heno am 8:00 ar dudalen Facebook y grŵp fel rhan o lansiad digidol gwefan newyddiol lleol BroAber360 – tiwniwch mewn.

Roedd Bwca hefyd yn gwneud ‘set o’r soffa’ ddydd Gwener diwethaf ar Facebook:

Gig “Ffrwd Byw” Dathlu Diwedd Blwyddyn Adran y Gymraeg Prifysgol Aberystwyth (2/2)Dyma linc i’r sengl newydd “Hiraeth Fydd”:https://open.spotify.com/track/6cf5o0BJQx9kVq016Ltu5z?si=RRBVRvQ-TmyajK4_S77GtQ

Posted by Bwca on Friday, 5 June 2020

 

Cân:  ‘Hiraeth Fydd (701)’ – Bwca

Yng nghanol yr holl gigs o soffa Steff, mae Bwca, wedi rhyddhau eu sengl newydd ers dydd Gwener diwethaf.

‘Hiraeth Fydd (701)’ ydy enw’r trac newydd ac mae’n cael ei ryddhau ar label Recordiau Hambon.

Ysgrifennwyd y gân wrth gofio am yr holl brofiadau o deithio ar fws chwedlonol a di-ddiwedd y ‘701’ rhwng Caerdydd ac Aberystwyth.

Dyma’r ail drac i Bwca ryddhau o’r casgliad o ganeuon a recordiwyd ganddynt dros y gaeaf yn Stiwdio Sain, Llandwrog gyda’r cynhyrchwyr Ifan Jones ac Osian Williams o Stiwdio Drwm.

Mae’r trac hefyd yn nodi dechrau partneriaeth newydd gyda’r label Recordiau Hambon, sef label y Welsh Whisperer.

 

 

 Record: Kentucky AFC – Kentucky AFC

Y trend diweddar ydy gweld ôl-gatalog artistiaid yn cael eu hail-gyhoeddi ar lwyfannau digidol am y tro cyntaf. Mae heddiw’n arbennig yn gweld sawl esiampl o hyn – tri o albyms Endaf Emlyn, a gafodd sylw wythnos diwethaf; tri albwm Lowri Evans ar Recordiau Fflach; a phedwar o recordiau Kentucky AFC.

Mae ôl-gatalog Kentucky AFC sydd allan yn ddigidol heddiw yn cynnwys y sengl ddwbl ‘Outlaw / 11’, yr EP IASOBE?, ac yr albyms FNORD a Kentucky AFC.

Cyfnod eithaf byr oedd bywyd Kentucky AFC mewn gwirionedd – cwta dair neu bedair blynedd, er eu bod wedi tyfu o lwch Cacan Wy Experience oedd o gwmpas ar rai blynyddoedd cyn hynny. Ond yn ystod y cyfnod hwnnw mae’n deg dweud eu bod nhw wedi cael dipyn o impact.

Yr aelodau oedd Gethin Evans ar y dryms, Huw Owen ar y gitâr fas ac Endaf Roberts ar y gitâr ac yn canu. Mae Geth wrth gwrs wedi chwarae i nifer o grwpiau ers hynny gan gynnwys Genod Droog a Band Pres Llareggub, Huw wedi mynd ymlaen i berfformio fel Mr Huw, ac Endaf wedi cyhoeddi cerddoriaeth gyda Pry Cry.

Roedden nhw eisoes wedi creu dipyn o argraff cyn rhyddhau eu halbwm cyntaf, gan gipio 5 o Wobrau RAP Radio Cymru ar ddechrau 2004. Yn hwyrach y flwyddyn honno, fe ryddhawyd eu halbwm hunan-deitlog ar label Boobytrap, label a ffurfiwyd gan Huw Stephens, ac oedd yn gyfrifol am gynnyrch llawer o grwpiau gorau’r cyfnod yna gan gynnwys Texas Radio Band a Pep le Pew.

Teg dweud mai fel band byw egnïol yr oedd Kantucky AFC yn fwyaf cyfarwydd, ond mae eu cynnyrch stiwdio yn dal ei dir hyd heddiw hefyd. O’r recordiau sy’n cael ei gyflwyno i’r llwyfannau digidol heddiw, mae’n siŵr mai eu halbwm cyntaf ydy’r mwyaf amlwg.

Mae’r casgliad 13 trac yn cynnwys rhai o’u caneuon mwyaf cyfarwydd, yn benodol ‘11’, ‘Bodlon’ ac ‘Eitha Perig’. Dyma fideo bach o ‘11’ ar gyfer rhaglen Y Sioe Gelf nôl yn 2004:

 

Artist: Brigyn

Bydd unrhyw gefnogwr pêl-droed Cymru’n ymwybodol iawn o ddau beth y penwythnos yma.

Yn gyntaf – oni bai am COVID-19, byddai llawer o iawn ohonom yn Baku ar gyfer yr Ewro’s ar hyn o bryd.

Yn ail – union bedair blynedd yr ôl roedd llawer iawn ohonom yn Bordeaux yn dathlu buddugoliaeth Cymru yng ngêm gyntaf Ewro 2016.

Oes, mae ‘na hiraeth am Bordeaux, a thristwch am yr hyn a allai fod yn Baku. Ond ar y cyfan, mae’r teimladau’n rai melys wrth gofio am benwythnos bythgofiadwy yn Ne Ffrainc.

Ac mae Brigyn wedi ychwanegu at y teimladau hynny gyda thrac newydd o’r enw ‘Gadael Bordeaux’.

Rhyddhawyd y trac ddoe (11 Mehefin) er mwyn nodi’r hyn mae llawer o gefnogwyr yn ei adnabod fel ‘Diwrnod Bordeaux’ sef y dyddiau trechodd Cymru Slofacia o 2-1. Ysgrifennwyd y geiriau ar gyfer y gân gan y bardd Rhys Iorwerth ac mae fideo bach hiraethus i gyd-fynd âr trac:

 

 

 

Un peth arall: Diwrnod crysau T Bandiau heddiw

 Os nad ydach chi’n gwisgo crys T band Cymraeg ar hyn o bryd, wel pam ddim? Ac ewch i newid go handi!

Mae heddiw yn ‘Ddiwrnod Crysau T Bandiau Cymru’ – egin syniad gan Huw Stephens, sydd wedi datblygu’n rywbeth i godi’n calonnau ac i gefnogi bandiau Cymreig dros gyfnod y clo mawr.

Mae’n debyg bod gan y rhan fwyaf o ddarllenwyr grys T band, neu o leiaf un o grysau T Y Selar / Gwobrau’r Selar. Ond os nad oes ganddoch chi un, syniad arall y diwrnod ydy rhoi cyfle i chi brynu gan gan gefnogi’r artistiaid wrth wneud hynny. Cymrwch olwg ar hashnod #DyddCrysauTBandsCymru i weld pa drysorau sydd allan yna.