Set rhithiol: Yr Eira – Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis
Gig rhithiol sy’n mynd â ni nôl rywfaint i Ŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru’n gynharach yn y flwyddyn, ond sydd newydd ail-ymddangos ar YouTube.
Mae Yr Eira wedi bod yn llwytho ambell fideo o berfformiadau ‘byw’ y flwyddyn i’w safle YouTube yn ddiweddar, gan gynnwys y caneuon ‘Galw Ddoe yn Ôl’, ‘Straeon Byrion’ a’r ardderchog ‘Pob Nos’ gyda’r gwestai arbennig Gwyn Rosser yn ymuno, a berfformiwyd yn Amgueddfa Lechi Llanberis.
Er i ni dynnu sylw at y gig rhithiol yma mewn Pump i’r Penwythnos nôl ym mis Medi, mae’n bosib bod y gig wedi llithro fymryn o dan y radar. Mae caneuon Yr Eira’n sicr yn swnio, ac yn edrych yn wych felly gwerth gwylio eto.
Cân: ‘Y Bardd o Montreal’ – Breichiau Hir
Fyddech chi ddim yn tueddu i roi Breichiau Hir yn yr un categori cerddorol â Bryn Fôn, felly bydd yn dipyn o syndod i rai glywed bod y grŵp o Gaerdydd yn rhyddhau cyfyr o un o ganeuon enwocaf crŵnyr mwyaf Cymru heddiw.
Ond os eglurwn ni mai nid ‘Ceidwad y Goleudy’ neu ‘Abacus’ ydy’r gân dan sylw, ond yn hytrach ‘Y Bardd o Montreal’, yna efallai y bydd pethau’n dechrau gwneud bach mwy o synnwyr.
Y gwir amdani ydy bod hon yn gân ddigon tywyll pan ystyriwch chi’r sŵn ochr yn ochr â’r geiriau, a’r hanes sydd wedi dylanwadu ar y gân. Ac os oes ‘na un band sy’n gallu gwneud tywyll yn dda, yna Breichiau hir ydy’r rheiny!
“Fi’n cofio fi a Rhys yn gwylio Bryn Fôn mewn rhyw Maes B a nath e’ agor gyda’r gân yma” eglura Steffan Dafydd, prif ganwr Breichiau Hir.
“Odd e’n agoriad tywyll ag intense. Ni wedi bod yn jocian am neud cover o’r gân ers peth blynyddoedd. Ma’r ffaith bod y gân am Leonard Cohen yn treat ychwanegol!”
Bydd y cyfyr newydd yn annisgwyl i lawer, ond efallai’n llai felly i’r rhai a welodd y grŵp yn perfformio’n fyw yn ystod Eisteddfod Llanrwst llynedd gan iddynt ei pherfformio’n fyw yno.
Mae geiriau Bryn Fôn i’r gân yn cyfeirio at hanes y bardd a cherddor o Ganada, Leonard Cohen yn cyfarfod y gantores eiconig o’r Unol Daleithiau, Janis Joplin, yn y Chelsea Hotel yn Efrog Newydd, a’r garwriaeth fer a ddilynodd.
Ac mae Breichiau Hir wedi rhoi ychydig o feddwl i’r hanes wrth greu gwaith celf y sengl hefyd, fel yr eglura Steffan…
“Llun o wely o’r Chelsea Hotel sydd ar y clawr, nod i’r llinell “giving me head on the unmade bed” yn ‘Chelsea Hotel No.2’…”
Mae’r sengl allan heddiw ar Recordiau Libertino, ac rydan ni’n rili hoffi be mae Breichiau Hir wedi gwneud gyda hi.
Record: Isle of Dogs – She’s Got Spies
Isle of Dogs ydy enw albwm newydd She’s Got Spies, sydd allan ers dydd Gwener diwethaf, 6 Tachwedd.
Fe gawsom ni sengl fel tamaid i aros pryd, ‘Super Sniffer Dogs’, fis diwethaf, a cyn hynny roedd trac Cymraeg o’r albwm, ‘Wedi Blino’ wedi’i ryddhau rhyw flwyddyn yn ôl.
Er mai dim ond ail albwm She’s Got Spies ydy hwn, mae’r prosiect o gwmpas ers peth amser – sefydlwyd y grŵp gan y gantores Laura Nunez yn 2005 ar y cyd â Matthew Evans, sy’n gyfarwydd fel aelod blaenllaw o’r grŵp o Gaerdydd, Keys.
Daw Laura’n wreiddiol o Lundain, cyn symud i Gaerdydd a chael ei hysbrydoli i fynd ati i ddysgu Cymraeg ar ôl clywed cerddoriaeth grwpiau fel Gorky’s Zygotic Mynci, Super Furry Animals a Melys ymysg eraill. Mae Laura bellach yn rhannu ei hamser rhwng dinasoedd Caerdydd a Llundain ac yn gallu canu yn y Gymraeg, Saesneg a Rwsieg. Mae’r tair iaith yn cael eu defnyddio ar gasgliad Isle of Dogs.
Mae’r record hir newydd wedi’i henwi ar ôl, ac yn cyfeirio at, ardal Isle of Dogs yn Lundain, sef bro mebyd Laura Nunez. Mae’r ardal, ynghyd â sefyllfa gythryblus ynys Prydain ar hyn o bryd wedi dylanwadu’n drwm ar y record.
Mae’r record yn gasgliad o ganeuon wedi’u hysgrifennu dros gyfnod hir o amser a’r canlyniad ydy albwm amlieithog hoffus am deithio, gyda’r rhan fwyaf o’r caneuon wedi’u hysgrifennu wrth deithio neu pan fu Laura’n byw yn un o’r nifer o wledydd mae wedi bod iddynt gan gynnwys Rwsia, Fietnam, Yr Eidal a Tierra del Fuego yn Yr Ariannin.
Mae’r caneuon i gyd wedi’u hysgrifennu gan Laura, ar wahân i dair a ysgrifennwyd ar y cyd â Gruff Meredith (MC Mabon), sydd hefyd yn chwarae gitâr ar y traciau hynny.
Recordiwyd yr albwm yn stiwdio Tŷ Drwg yng Nghaerdydd gyda’r cynhyrchydd Frank Naughton. Mae Naughton hefyd yn cyfrannu at nifer o’r caneuon ar y piano, synths, gitâr, bas, llinynnau, drymiau a lleisiau cefndir. Mae peth recordiadau hefyd o leoliadau amrywiol teithiau Laura gan gynnwys Moscow, Llundain a Fietnam.
Mae hanes bach difyr i glawr yr albwm newydd hefyd sy’n cynnwys llun o lwynog oedd yn ymweld â gardd Laura’n ddyddiol yn ystod y cyfnod clo.
Gallwch brynu’r albwm ar safle Bandcamp She’s Got Spies.
Dyma’r sengl ‘Wedi Blino’ a ryddhawyd bron union flwyddyn yn ôl ym mis Tachwedd 2019:
Artist: The Kelly Line
Mae wastad yn braf gweld artistiaid yn troi at ganu’n y Gymraeg, a dyna’n union sydd wedi digwydd yn achos y grŵp o’r De, The Kelly Line.
Wythnos yma maen nhw wedi rhyddhau eu sengl Gymraeg gyntaf, sef ‘Cân y Wenynen’.
Prosiect cerddorol tad a mab, sef Mike a Ben, ydy The Kelly Line. Mae’r ddau’n cyfansoddi ar y cyd gyda Ben yn perfformio’n unigol neu gyda band llawn.
Pan fydd Ben yn perfformio gyda’r band mae Jack Salter yn ymuno ar y bas, Connor Wyn Lewis ar y gitâr flaen ac Iestyn Morgan ar y drymiau a llais cefndir. Fel Ben, daw Jack yn wreiddiol o Loegr gydag Iestyn yn dod o Aberaeron a Connor o’r Rhondda. Daeth yr aelodau ynghyd pan oeddent yn astudio Technoleg Cerddoriaeth ym Mhrifysgol De Cymru, gan ddechrau recordio a pherfformio’n fuan wedi hynny.
Er mai yn y Saesneg maent yn canu fel arfer, mae Iestyn a Connor yn siaradwyr Cymraeg, a’r ddau arall wedi penderfynu ymgartrefu yng Nghymru, felly penderfynodd y grŵp fynd ati i gyfieithu eu sengl Saesneg diweddaraf sef ‘The Ballad of the Bee’.
Mae’r gân ynglŷn â derbyn yr anochel yn ôl Ben, ac mae wedi’i hysgrifennu ar ôl gweld gwenynen yn cael ei dal mewn gwe pry cop.
“Wrth iddi straffaglu, roedd y we’n tynhau” eglura Ben.
“Doedd dim y gallai hi, na ninnau, wneud. Dyma hi’n parhau i frwydro ond doedd dim amheuaeth sut fyddai’r sefyllfa’n dod i ben, dim ond mater o amser oedd hi.
“Roedd yn drosiad pwerus. Wrth gwrs, mae dwy ochr i bob stori ac er bod y gân wedi’i hadrodd o safbwynt y wenynen, mi wnaethon ni ysgrifennu [cân arall] ‘Arachne’s Response’ sy’n adrodd yr hanes o safbwynt y pry cop.”
Dyma ‘Cân y Wenynen’:
Un Peth Arall: Pennod ddiweddaraf pod Y Sôn
Mae blog cerddoriaeth Sôn am Sîn wedi cyhoeddi’r bennod ddiweddaraf o bodlediad ‘Y Sôn’.
Mae wedi bod yn sbel ers iddynt gyhoeddi’r diwethaf o’r podlediadau rheolaidd yn trafod cerddoriaeth felly mae’r bennod newydd yn bwrw golwg nôl ar sawl pwnc cerddorol o’r misoedd diwethaf.
Mae’r cyflwynwyr, Gethin Griffiths a Chris Roberts, yn talu sylw arbennig i albyms Yr Eira a Cofi 19, a hefyd yn trafod manteision ac anfanteision recordio gartref, sydd wrth gwrs wedi bod yn gyffredin iawn ymysg cerddorion eleni.
Wastad yn werth gwrando ar sgwrsio difyr yr hogia: