Gig: Gwobrau’r Selar wrth gwrs! – Undeb Myfyrwyr Aberystwyth – 14-15/02/20
C’mon rŵan, does ond un lle i fod penwythnos yma ac Aberystwyth ydy hwnnw siŵr iawn!
Mae penwythnos Gwobrau’r Selar wedi dechrau’n swyddogol neithiwr gyda noson i ddathlu gwobr ‘Cyfraniad Arbennig’ Gruff Rhys yn Stiwdio Canolfan y Celfyddydau. Gyda Huw Stephens yn llywio’r sgwrs a Gruff mewn hwyliau, roedd hi’n uffarn o noson dda hefyd.
Heno mae prif ddigwyddiad y Gwobrau’n dechrau yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth gyda leinyp gwych – Dienw, Elis Derby, Lewys, Fleur De Lys ac enillwyr mawr llynedd, Gwilym yn cloi.
Ac os nad ydy hynny’n ddigon i’ch denu chi, mae leinyp nos fory’n ddigon i ddod a dŵr i’r dannedd yn sicr – Eadyth, Kim Hon, Papur Wal, 3 Hwr Doeth a Los Blancos. Clamp o benwythnos o gerddoriaeth gydag ambell wobr fach yn cael eu cyflwyno nawr ac yn y man.
Cwpl o gigs bach eraill i’w crybwyll hefyd cofiwch, gyda’r ardderchog MR yn y Galeri, Caernarfon heno a Welsh Whisperer yn Nhywyn, Meirionydd.
Mae’r Welsh Whisperer wrthi nos fory hefyd yng Nghlwb Rygbi Rhuthun gyda Hywel Pitts yn gwmni iddo fo. Cyfle nos Sadwrn hefyd i weld HMS Morris yn Tiny Rebel, Caerdydd ac mae Eve Goodman a Sera hefyd yn gwneud cyngerdd tŷ yn ardal Pontypridd.
Un gig olaf i sôn amdano sef dechrau taith ‘Dyddiau Du, Dyddiau Gwyn’ Cowbois Rhos Botwnnog i nodi deng mlynedd ers rhyddhau’r albwm hwnnw ganddynt.
Cân: ‘Meddwl am Hi’ – Papur Wal
A hwythau’n un o atyniadau mawr Gwobrau’r Selar nos Sadwrn, mae’n reswm da i roi sylw i sengl newydd Papur Wal sydd alllan ar label Recordiau Libertino ers dydd Gwener diwethaf, 7 Chwefror.
‘Meddwl am Hi’ ydy enw’r trac newydd gan y triawd sydd o’r gogledd yn wreiddiol, ond sydd bellach wedi ymsefydlu yng Nghaerdydd.
Yn ôl y blyrb mae ‘Meddwl am Hi’ yn gorlifo â phop pwerus, yn dynn ond yn llac, trac ffwrdd-â-hi ond eto’n llawn teimlad a chariad.
Dyma ymgais Papur Wal i ‘ysgrifennu hit single’ yn ôl y grŵp, gyda thafod yn eu boch.
Wedi’u dylanwadu gan bop Gorky’s Zygotic Mynci, meistri’r fuzz slacyr ac amgen yr 80au a’r 90au, Pavement a Dinosaur Jr gyda phop heulog arfordir gorllewinol y 70au yn eisin ar y gacen, mae ‘Meddwl am Hi’ yn tynnu dŵr i’r dannedd.
I gyd-fynd â’r sengl, mae’r grŵp hefyd wedi cyhoeddi fideo ar gyfer y trac sydd wedi ymddangos ar wefan Clwb Ifor Bach – roedd Papur Wal yn hedleinio gig yno nos Wener diwethaf ar ddyddiad rhyddhau’r sengl.
Bydd cyfle i weld Papur Wal yn perfformio yng Ngwobrau’r Selar nos Sadwrn ac mae eu EP cyntaf, Lle Yn Y Byd Mae Hyn?, wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer categori ‘Record Fer Orau’ Gwobrau’r Selar – pob lwc iddyn nhw a’r holl artistiaid eraill sydd wedi cyrraedd y rhestrau byr.
Record: Bur Hoff Bau – PRIØN
Mae’r ddeuawd newydd swynol, PRIØN, wedi rhyddhau eu halbwm cyntaf ddydd Gwener diwethaf, 7 Chwefror.
PRIØN ydy prosiect newydd Arwel Lloyd, sy’n gyfarwydd i ni hefyd fel y cerddor Gildas, a’r gantores Celyn Llwyd Cartwright.
Dros y misoedd diwethaf, mae’r ddau wedi rhyddhau cyfres o senglau fel blas o’r albwm newydd – ‘Bur Hoff Bau’, ‘Bwthyn’ ac yn olaf ‘Poced Cot’ a ryddhawyd ar 24 Ionawr eleni.
Nawr, mae’r albwm, sy’n rhannu enw’r sengl gyntaf, Bur Hoff Bau allan mewn siopau lleol ac yn ddigidol.
Yn ôl pob tebyg gallwn edrych ymlaen at eu gweld yn gigio’n fuan hefyd gydag Arwel yn datgelu yn rhifyn newydd Y Selar, sydd allan wythnos nesaf, eu bod yn chwilio am gigs ar hyn o bryd ac eisoes wedi trefnu ambell beth ar gyfer yr haf.
Bachwch gopi o rifyn newydd Y Selar wythnos nesaf, neu yng Ngwobrau’r Selar nos Sadwrn, i ddysgu mwy am y ddeuawd.
Artist: Cotton Wolf
Ein dewis o artist yr wythnos hon ydy Cotton Wolf, sydd wedi rhyddhau fersiwn wedi’i ail-gymysgu o sengl ddiweddaraf Georgia Ruth, ‘Madryn’ ddydd Gwener diwethaf.
Roedd yr ail-gymysgiad allan ar yr un diwrnod a’r fersiwn wreiddiol, a dyma sengl gyntaf albwm newydd Georgia sydd allan fis Mawrth. Mae cyfweliad gyda Georgia am yr albwm newydd yn rhifyn newydd Y Selar sydd allan wythnos nesaf gyda llaw.
Prosiect digon difyr ydy Cotton Wolf hefyd. Deuawd sy’n cyfuno talentau’r cynhyrchydd uchel iawn ei barch, Llion Robertson, a’r cyfansoddwr clasurol yr un mor uchel ei barch, Seb Goldfinch.
Maen nhw’n rhannu’r un label â Georgia, sef yr ardderchog Bubblewrap Collective, ac fe ryddhawyd eu halbwm cyntaf, Life In Analogue, ar y label hwnnw yn Ebrill 2017. Cyrhaeddodd yr albwm restr fer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn yr un flwyddyn.
Daeth albwm arall i’r golwg yn Hydref 2019, sef Ofni. Offerynnol ydy’r mwyafrif helaeth o’r casgliad, ond maent wedi denu cyfraniad gwadd ar ffurf llais Hollie Singer o Adwaith ar gyfer un o’r traciau.
Ac mae’n amlwg fod y ddeuawd yn mwynhau gweithio gyda lleisiau ein hartistiaid benywaidd gwych wrth iddynt fynd i’r afael â thrac newydd Georgia Ruth.
“Roedden ni’n awyddus i roi llais Georgia mewn i le fwy tywyll a dirgel” meddai Cotton Wolf.
“Roedd ansawdd ei llais ynysig yn hyfryd ond eto’n frawychus ar yr un pryd, felly roedd e’n gwneud synnwyr perffaith i fynd i’r cyfeiriad hwnnw. Roedd fflipio’r hyn oedd i ddisgwyl o’r trac yn ein cyffroi ni’n fawr.”
Go brin y gallai Georgia Ruth fyth swnio’n frawychus, ond rydan ni’n hoff iawn o waith yr hogia ar hon:
Un peth arall: Gruff Rhys yn Barcelona
Neithiwr roedden ni’n dathlu cyfraniad arbennig Gruff Rhys i gerddoriaeth Gymraeg gyfoes ac roedd yn wych clywed rhai o hanesion llai cyfarwydd ei yrfa.
Ei iddo fod mewn cwpl o grwpiau cyn hynny, daeth Gruff i amlygrwydd gyntaf fel gitarydd a phrif ganwr y grŵp gwych o Fethesda, Ffa Coffi Pawb. Ynghyd â’r Cyrff yn arbennig, a grwpiau fel Yr Anhrefn, Jess a Ty Gwydr efallai i raddau ychydig yn llai, cyrhaeddodd Ffa Coffi eu hanterth, a brig y sin gerddoriaeth Gymraeg erbyn tua 1992. Chwalodd y grŵp ym 1993, ac aeth Gruff, ynghyd a’r drymiwr Daf Ieuan, ymlaen i ffurfio Super Furry Animals…ac mae’r gweddill, fel maen nhw’n ddweud, yn hanes.
Mae hanes gyrfa gerddorol Gruff yn gyfarwydd, ond yr hyn sy’n llai hysbys ydy’r ffaith fod Gruff hefyd wedi astudio gradd mewn Celf, a cyn i Super Furry Animals ffurfio, fel dreuliodd gyfnod yn astudio yng Ngholeg Celf Barcelona.
Diolch i’r sianel YouTube ardderchog Ffarout, mae modd i ni ddysgu bach mwy am y cyfnod yma yn hanes Gruff trwy wylio’r rhaglen gylchgrawn ‘Syth 94’ sydd wedi ymddangos ar y sianel yr wythnos hon. Siân MacLean aeth allan i ymweld â Gruff yn Barcelona – gwerth gwylio: