Pump i’r Penwythnos – 15 Mai 2020

Gig: Maes B o Bell – Dienw

Dim llwyth o gigs ar-lein wedi bod dros yr wythnos diwethaf am rhyw reswm, ond ambell beth bach i ni dynnu sylw atyn nhw.

Nid gig fel y cyfryw, ond roedd parti gwrando albwm newydd Yr Eira neithiwr (mwy isod) ynghyd ag aftershow ar Zoom gan griw Sôn am Sîn.

Parti Lansio Map Meddwl!

Croeso i barti lansio Map Meddwl gan Yr Eira!Cyfle i glywed gan y band eu hunain a rhai o'r unigolion sydd y tu ôl i'r tiwns!

Posted by Sôn am Sîn on Thursday, 14 May 2020

 

Mae gigs Maes B o Bell wedi bod yn digwydd yn rheolaidd dros y cyfnod yma, ac roedd Dienw yn perfformio yn y diweddaraf sydd i’w weld ar safle AM ar hyn o bryd.

Un ‘gig’ bach digidol arall i’w grybwyll sydd wedi ymddangos ar safle AM, a’r diweddaraf o Lightbuld Sessions Recordiau Libertino, ydy’r perfformiad o ‘Intersteller Hellen Keller’ gan Kim Hon.

 

Cân:  ‘Mwydro’ – Melin Melyn

Mae sengl Gymraeg gyntaf y grŵp lliwgar Melin Melyn allan ers yr hydref, ond wythnos diwethaf cyhoeddwyd fideo newydd ar gyfer y trac.

Rhyddhawyd y sengl yn wreiddiol adeg Gŵyl Sŵn yng Nghaerdydd fis Hydref diwethaf ac mae’r fideo newydd, a gyhoeddwyd ar sianeli ar-lein cyfres Lŵp, S4C ddydd Iau diwethaf, yn adlewyrchu cymeriad unigryw y grŵp.

“Nathon ni ffilmio hi gwpl o fisoedd yn ôl gyda’r bencampwraig green screen arbennig – Edie Morris sydd o Gaerdydd” meddai Gruff o’r band.

“Mae lot o fwydro yn cael ei wneud ar y teledu, felly be gwell na dechrau sianel newyddion Melin Melyn!”

“Mae’r fideo yn cynnwys aelodau o’r band, actorion plant anhygoel, (Deio, Casi a Nel) a chath o’r enw Mwshi” meddai Gruff.

A’r newyddion da pellach ydy fod mwy o gynnyrch, a fideos, ar y gweill gan Melin Melyn.

“Rydyn ni’n barod wedi dechrau gweithio ar fideo ar gyfer ein sengl newydd, fydd allan yn fuan gobeithio!”

“Da ni’n edrych ymlaen yn arw i gael chwarae yn fyw eto, unwaith ei bod hi’n ddiogel i neud hynny. Y gobaith ydi dechrau recordio albwm yn hwyrach yn y flwyddyn.”

 

 

Record: Map Meddwl – Yr Eira

Mae cryn gyffro ac edrych ymlaen wedi bod at ryddhau ail albwm Yr Eira, ac mae Map Meddwl allan yn swyddogol heddiw ar label Recordiau I KA CHING.

Yn anffodus, does dim modd cynnal gig lansio ar hyn o bryd, ond yn hytrach na hynny fe benderfynodd Yr Eira nodi’r dyddiad rhyddhau gyda parti gwrando arbennig ar-lein neithiwr. Criw blog Sôn am Sîn oedd yn gyfrifol am lwyfannu’r parti lansio ar twitter, gyda’r aftershow i ddilyn ar Facebook.

Map Meddwl ydy ail record hir Yr Eira hyd yma – rhyddhawyd y gyntaf, ‘Toddi’ yn 2017, a chyn hynny yr EP ‘Colli Cwsg’ yn 2014.

Gwerth eich hatgoffa fod sgwrs gyda Lewys Wyn o’r band am yr albwm yn rhifyn diweddaraf cylchgrawn Y Selar.

Gyda lwc, bydd digon o gyfleoedd i ddal y grŵp yn perfformio’r caneuon yn fyw nes mlaen yn y flwyddyn, ond am y tro gallwch lawr lwytho neu ffrydio Map Meddwl ar-lein, gan gynnwys ar safle Sôn am Sîn ar soundcloud Yr Eira…

Dyma gyfle perffaith hefyd i’ch hatgoffa o’r fideo gwych ar gyfer y sengl ardderchog, ‘Pob Nos’:

 

 

 

Artist: Parisa Fouladi

Dyma ni artist arbennig sydd wedi ail-ymddangos i raddau helaeth dros yr ychydig fisoedd diwethaf.

Bydd Parisa Fouladi yn fwy cyfarwydd i lawer o ddarllenwyr fel El Parisa, gan gyhoeddi cerddoriaeth dan yr enw hwnnw yn y gorffennol, yn ogystal â chyd-weithio gyda’r grŵp pop electroneg, Clinigol.

Yn gynharach yn y flwyddyn, ymddangosodd Parisa gyda thrac newydd sbon ‘Siarad’ sef trac cyntaf ei phrosiect cerddorol newydd sy’n ei gweld yn cyd-weithio â’r cynhyrchydd ardderchog Krissie Jenkins.

Mae hefyd yn aelod o’r grŵp Derw sydd wedi cael ychydig o sylw dros yr wythnosau diwethaf wrth ryddhau eu sengl gyntaf, ‘Dau Gam’.

Yr wythnos hon mae trac demo arall wedi ymddangos ganddi o’r enw ‘Achub Fi’, a gobeithio y gwelwn ni dipyn mwy ganddi dros y misoedd nesaf – rydan ni’n sicr yn hoffi’r hyn rydan ni’n clywed!

“O’n i isio arbrofi efo miwsig mwy soulful ac offerynnau byw yn lle jyst stwff electro fel dwi di neud yn y gorffennol” meddai Elin wrth Y Selar yn ddiweddar.

Mae Elin hefyd wedi datgelu ei bwriad i weithio ar EP gyda Krissie Jenkins – newyddion ardderchog y wir.

Duyma ‘Achub Fi’:

 

Un peth arall: Mwng yn 20 oed

Mae un o albyms enwocaf yr iaith Gymraeg yn dathlu pen-blwydd yn 20 oed wythnos yma.

Yr albwm dan sylw wrth gwrs ydy Mwng gan Y Super Furry Animals a ryddhawyd union 20 mlynedd nôl i heddiw, ar 15 Mai 2000.

Hon oedd pedwerydd albwm llawn SFA, a’r cyntaf yn gyfan gwbl yn y Gymraeg, er bod eu EPs cynharaf yn recordiau Cymraeg. Rhyddhawyd yr albwm ar label annibynnol y grŵp, sef Placid Casual.

Mae’n deg dweud fod yr albwm yn un hynod o arwyddocaol, a gellir dadlau ei fod gyda’r pwysicaf i’w ryddhau yn y Gymraeg. Dyma’r albwm Cymraeg sydd wedi gwerthu orau, ac yr unig un i gyrraedd rhestr 20 uchaf y siartiau albyms Prydeinig, gan gyrraedd rhif 11. Cafodd y record ei chynnwys ar restrau albyms gorau’r flwydyn y ddau gylchgrawn cerddoriaeth mwyaf ym Mhrydain ar y pryd hefyd, sef Melody Maker a’r NME.

Mae’n anodd meddwl am unrhyw beth gwreiddiol i’w ddweud am y record mewn gwirionedd gan fod cymaint o drafod wedi bod arni dros y blynyddoedd. Efallai mai un o’r teyrgedau mwyaf i’r albwm ydy penderfyniad Band Pres Llareggub i ryddhau fersiwn llawn, unigryw ohono yn 2015.

Yn sicr mae’r albwm yn fwyaf enwog fel cyfanwaith, ac mae’n ddarn o gelf mewn sawl ffordd (gan gynnwys y gwaith celf unigryw gan Pete Fowler). Ond mae hefyd yn gasgliad anhygoel o draciau unigol gwych – does dim duds ar yr albwm ac mae gan bawb ei ffefryn boed y fersiwn anhygoel o ‘Y Teimlad’ gan Datblygu, ‘Dacw Hi’ a gyfansoddwyd yn wreiddiol ar gyfer Ffa Coffi Pawb, neu diwn bop wych ‘Ysbeidiau Heulog’.

Anodd dewis un trac o’r albwm, ond dyma’r epig ‘Gwreiddiau Dwfn / Mawrth Oer Ar Y Blaned Neifion’, sy’n cloi’r record: