Set rhithiol: Alffa, Elis Derby, Y Cledrau – Gig Shwmae Su’mae UMCB – 18/10/20
Ambell beth bach diddorol wedi bod o ran cerddoriaeth ‘fyw’ dros yr wythnos ddiwethaf, ac yn arbennig felly y gig Stafell Fyw oedd yn cael ei ddarlledu’n hollol fyw nos Fercher. Os wnaethoch chi fethu hwn…wel, tyff! Dim ond ar y pryd oedd modd ei wylio ac mi wnaethon ni eich rhybyddio yn 5iP wythnos diwethaf!
I’r rhai fu’n gwylio, beth oeddech chi’n meddwl o’r gig a fformat y sioe? I Fight Lions a Candelas yn swnio’n ardderchog i ni ac yn amlwg yn falch i wneud gig tebycach i normal. Bydd y rhai craff hefyd wedi sylwi ar ein dewisiadau ‘Sbin Selar’ rhwng y bandiau hefyd gobeithio.
Mae ‘na gig rhithiol arall da iawn yr olwg yn digwydd nos Sul yma fel rhan o weithgareddau wythnos Shwmae Su’mae UMCA. Y gig yn dechrau am 18:00 ar wefan AM gydag Alffa, Elis Derby ac Y Cledrau yn perfformio.
G i g ! ! !
Edrych mlaen lot – gewch chi wylio ni, @alffa_band ac @ElisDerby ar @ambobdim nos Sul o’ch soffas. pic.twitter.com/gGr7wtrtZ8
— Y Cledrau (@YCledrau) October 15, 2020
Cân: ‘Achub Fi’ – Parisa Fouladi
‘Achub Fi’ ydy enw sengl newydd Parisa Fouladi sydd allan heddiw, 16 Hydref.
Mae rhyddhau’r trac yn dynodi lansiad prosiect diweddaraf y gantores brofiadol Elin Fouladi. Mae Elin yn wyneb a llais cyfarwydd a hithau wedi perfformio dan yr enw El Paris yn y gorffennol, yn ogystal â chanu gyda grwpiau fel Clinigol a Derw yn fwy diweddar.
Ysgrifennwyd y trac ar y cyd gyda Stef Dale, ac a fe’i gynhyrchwyd gan yr ardderchog Krissie Jenkins.
“Nes i sgwennu ‘Achub Fi’ cyn y cyfnod clo cyntaf” eglura Elin.
“…ond nes i ddim ei recordio tan oeddem ni yn y cyfnod clo ac mewn ffordd mae’r gân rŵan yn golygu dau beth i mi – tor calon, anobaith a’r teimlad o fod yn styc, yn ‘desperate’ i fod yn rhydd o’r boen ar ol gorffen perthynas; a hefyd y teimlad o anobaith dwi, a llawer o bobl eraill, dwi’n siŵr, wedi ei deimlo yn y sefyllfa rydym ni ynddi ar hyn o bryd.”
Mae’r gantores yn rhestru enwau fel Nina Simone, Aretha Franklin, Etta James a Roberta Flack ymysg ei phrif ddylanwadau.
Mwy am y prosiect a’r sengl mewn darn arbennig ar wefan Y Selar heddiw.
Record: Mentro – Gwen Màiri
Mae rheswm da dros roi sylw i albwm y gantores werin Gymraeg-Albanaidd, Gwen Màiri, yr wythnos hon gan ei fod wedi’i gynnwys ar restr hir ‘Albwm Traddodiadol y Flwyddyn’ yn Yr Alban.
A hithau wedi cyd-weithio gyda nifer o artistiaid eraill dros y blynyddoedd, roedd yn bryd i Gwen ryddhau ei halbwm unigol cyntaf, yn Hydref 2019. A hithau’n cyhoeddi albwm ar ei liwt ei hun am y tro cyntaf, mae’n debyg fod yr enw Mentro yn un addas iawn.
Recordiwyd yr albwm yn stiwdio Sain, Llandwrog gydag Aled Wyn Hughes yn cyd-gynhyrchu.
Mi wnaeth Gwen benderfynu troi at rai o’r artistiaid eraill y bu’n cyd-weithio â hwy yn y gorffennol ar gyfer recordio hefyd gyda Gwilym Bowen Rhys yn chwarae’r gitâr, mandolin, ffidl a bocs shruti ar nifer o’r traciau. Ymunodd Jordan Price Williams ar y soddgrwth hefyd.
Mae gwobr Albwm Traddodiadol y Flwyddyn Yr Alban yn cael ei dyfarnu gan y gwasanaeth darlledu Gaeleg, MG Alba ac mae albwm Gwen ar y rhestr hir o 30 albwm eleni.
Mae modd i’r cyhoeddi bleidleisio dros eu ffefryn o’r rhestr hir, a bydd rhestr fer yn cael ei chyhoeddi ar 3 Tachwedd.
Os nad ydach chi wedi clywed y record, mae’n un wirioneddol hyfryd a gallwch wrando, a phrynu, ar safle Bandcamp Gwen.
Dyma ‘Rheged’ o’r albwm Mentro:
Artist: Mei Gwynedd
Da gweld Mei Gwynedd yn cynnal dipyn o fomentwm eleni we gwaetha’r cyfnod clo, gan ryddhau ei sengl unigol diweddaraf ddydd Gwener diwethaf, 9 Hydref.
‘Dim Ffiniau’ ydy enw’r sengl sydd wedi’i rhyddhau’n ddigidol ar label Mei ei hun, JigCal.
Dyma’r ail sengl i Mei ryddhau eleni yn dilyn ‘Awst 93’ a ryddhawyd ym mis Mehefin.
Rhyddhaodd y cyn aelod Big Leaves, Sibrydion ac Endaf Gremlin ei albwm unigol cyntaf, ‘Glas’ ym Mehefin 2018, cyn dilyn hynny gyda’r EP ‘Tafla’r Dis’ yn Ionawr 2019.
Mae neges y gân yn glir wrth wrando ar y geiriau – mewn blwyddyn sydd wedi gweld rhwystrau a digwyddiadau hollol anarferol yn llenwi’r cyfryngau, mae’r gân yn ddisgrifiad gonest o’r ffordd mae Mei yn teimlo wrth wylio’r newyddion.
“Mae rhai yn dweud ein bod yn byw mewn adeg heddychlon” meddai Mei Gwynedd.
“…ond dwi’n gweld y farn yma’n un anodd i’w gredu wrth weld yr holl densiwn ac annhegwch yn y byd.”
Mae’r gân yn cyfeirio at wleidyddiaeth a hanes wrth i’r cerddor drafod codi wal ac yna’i gymharu â dymchwel wal Berlin – ‘siawns allwn ddysgu o hen hanes?’ Mae’r cerddor yn cyfeirio hefyd at unigolion a frwydrodd dros eu hawliau a chredoau dros eraill fel Luther, Mandela, Schindler ac eraill.
Er yr holl gyfeiriadau densiynnau a rhyfeloedd ar y trac, mae’n gân o obaith ynglŷn â’r hyn y gallwn wneud gyda’n gilydd.
“Nid canwr pop, pêl-droediwr na’ seren deledu yw fy arwr bellach, ond y rhai sydd yn barod i helpu y rhai llai ffodus” eglura’r cerddor.
“Wneith cân Gymraeg ddim achub y byd, ond gobeithio wneith o wneud i’r gwrandawyr feddwl am funud neu ddwy.”
Dyma’r fideo ar gyfer y sengl gan Steffan Dafydd:
Un peth arall: Cyfle i fod ar albwm Mr Phormula
Nid yn aml mae’r cyfle i gyfrannu at albwm artist yn codi ond dyna’n union mae mae’r cerddor Ed Holden yn ei gynnig ar hyn o bryd.
Mae Ed yn gyfarwydd hefyd fel Mr Phormula wrth gwrs, ac wedi gwneud cais arbennig sy’n rhoi cyfle i’w ffans fod yn ran o’i albwm newydd.
Bydd y cynhyrchydd, rapiwr a bitbocsiwr ardderchog yn rhyddhau ei albwm newydd fis nesaf dan yr enw ‘Tiwns’.
Bydd trac olaf y record hir newydd yn rhannu enw’r albwm, ac mae Ed yn awyddus i gasglu llwyth o recordiadau o bobl yn dweud y gair “Tiwns” gan eu defnyddio fel samplau trwy gydol y trac.
Felly, yr hyn mae Ed yn gofyn i’w ddilynwyr wneud ydy recordio eu hunain yn dweud y gair “Tiwns” a gyrru’r recordiad iddo’n uniongyrchol ar ei gyfrifon cymdeithasol.
Dywed bod croeso i bobl recordio’n unigol, fel deuawdau neu grwpiau mwy.
Gallwch ffeindio Mr Phormula ar Facebook, Twitter ac Insta gyda’r handlen – @MrPhormula
Dyma ‘Cwestiynau’ o’r albwm Llais a ryddhawyd yn 2017 #tiiiiwn