Gig: Lewys, Elis Derby – Sianel AM Recordiau Côsh – Gwener, 17/07/20
Ar y cyfan, mae’r gigs rhithiol wedi arafu rhywfaint yn ddiweddar gydag ambell wythnos yn eithriad wrth gwrs.
Wedi dweud hynny, mae cwpl o bethau reit arwyddocaol yn digwydd penwythnos yma sydd bron yn sicr yn werth aros adref i’w mwynhau.
Wythnos diwethaf cyhoeddodd Lewys fanylion gig rhithiol cyffrous y byddan nhw’n cynnal heno.
Fe wnaeth y cloi mawr effeithio cryn dipyn ar gynlluniau rhyddhau albwm cyntaf y grŵp ifanc cyffrous. Chwarae teg iddyn nhw, maen nhw wedi dyfalbarhau i geisio llenwi’r bwlch hyrwyddo, a’r ymgais diweddaraf i wneud hynny ydy’r gig rhithiol uchelgeisiol fydd yn cael ei ddarlledu’n fyw o Neuadd Ogwen.
“Wrth drefnu’r digwyddiad ‘ma, roedden ni eisiau sicrhau ei fod o’n fwy na ‘livestream’, ond gig rhithiol, gyda safon cynhyrchu proffesiynol” eglura Lewys Meredydd o’r grŵp.
“Mae o’n rhywbeth sydd heb gael ei wneud hyd yn hyn yng Nghymru rili, felly dani isio gwneud yn siŵr ei fod o’n reit sbeshal.”
Mae’r gig yn cael ei ddarlledu trwy wefan AM, ac yn dechrau am 20:00 gyda chefnogaeth gan Elis Derby.
GIG RHITHIOL / VIRTUAL GIG
17/07/2020 ❌ 20:00 ❌ ynn fyw ar dudalen @RCoshR ar @ambobdim ❌ cefnogaeth gan @elisderby ❌
Download the app, or go to https://t.co/wfMFXMDoFQ ❌ pic.twitter.com/CbdEpmpoSu
— Lewys (@LMeredydd) June 29, 2020
Gan ddilyn ôl traed Tafwyl a Gŵyl Car Gwyllt, mae Sesiwn Fawr Dolgellau yn cynnig eu hymdrech ar gynnal gŵyl rithiol i lenwi bwlch dyddiad arferol yr ŵyl penwythnos yma hefyd. Mae’r cyfan yn dechrau am 19:00 ar dudalen Facebook Sesiwn Fawr ac yn cael ei gyflwyno gan Ffion Dafis. Llwyth o artistiaid yn perfformio gan gynnwys Bwncath, Brigyn, Caryl Bryn, Elis Derby, Gwerinos, Gwilym Bowen Rhys, Hywel Pitts, Mared, Mei Emrys a Patrick Rimes i enwi dim ond rhai.
Mae’r penwythnos wedi dechrau’n gynnar i ddweud y gwir, gyda chwpl o gigs rhithiol yn digwydd ar Facebook neithiwr. Gallwch fwrw golwg nôl gigs Dafydd Hedd a 9Bach nawr:
#GigsBach9Bach #7If you can please donate to Refugetinyurl.com/9bachrefuge
Posted by 9Bach on Thursday, 16 July 2020
Cân: ‘Hawdd’ – Teleri
Mae’r gantores electroneg newydd, Teleri, yn rhyddhau ei sengl newydd ar-lein wythnos yma.
‘Hawdd’ ydy enw trydedd sengl Teleri ac mae’n gân sy’n dathlu tywydd yr haf a sut gall y cyfnod cynhesach roi cryfder i rywun gael persbectif mwy cadarnhaol ar eu bywyd, ac ar eu hunain.
Mae Teleri yn artist cerddorol a gweledol sy’n disgrifio ei cherddoriaeth fel caneuon sy’n archwilio ei phrofiad personol o’r byd natur, gan gyfleu tirwedd newidiol ei hiechyd meddwl.
Ymddangosodd y gantores gyntaf ar ddechrau’r flwyddyn eleni gan ryddhau’r trac ‘Euraidd’ a gafodd ymateb arbennig o dda. Dilynwyd hynny gan sengl o’r enw ‘Adenydd’ ddiwedd mis Ebrill.
Gyda’i thrac newydd, mae Teleri yn camu’n ôl o’i chaneuon mewnsyllgar ac yn croesawu cyfeiriad newydd sy’n ysgafnach.
Mae’r cyfnod y cloi wedi rhoi’r cyfle iddi arbrofi gyda chreu cerddoriaeth dawns ac mae ‘Hawdd’ yn un o gyfres o draciau bydd yn eu rhyddhau dros yr wythnosau nesaf.
Roedd cyfle cyntaf i glywed y trac newydd ar wefan Y Selar nos Lun, dyma ‘Hawdd’:
Record: Os Mewn Sŵn – Huw M
Naid nôl mewn amser gyda’n dewis o record yr wythnos hon, sy’n braf gwneud bob hyn a hyn!
Bron union 10 mlynedd yn ôl, fe ryddhawyd albwm llawn cyntaf Huw M, Os Mewn Sŵn…neu oedd hi’n 11 mlynedd yn ôl? Mae’r ddau yn gywir a dweud y gwir, oherwydd mae’r albwm yn un o’r quirks yna sy’n codi nawr ac yn y man lle mae record yn cael ei ail-ryddhau – mae Y Dydd Olaf gan Gwenno yn un arall gyda llaw.
Rhyddhawyd Os Mewn Sŵn yn wreiddiol yn 2009, a hynny’n annibynnol gan Huw M – os edrychwch chi nôl yn archif cylchgrawn Y Selar fe welwch chi gyfweliad am yr albwm gyda Huw yn rhifyn Mehefin 2009, gyda Leusa Fflur yn holi’r cerddor.
Gyda llaw, mae clawr y rhifyn yma, sef o Huw ar ben Craig Glais (Consti) yn Aberystwyth yn un o’n hoff gloriau o archif Y Selar – Elgan Griffiths, dylunydd Y Selar oedd y ffotograffydd ac mae’r golau’n dal y lliwiau’n hyfryd.
Beth bynnag, rhywbeth arall sy’n hyfryd ydy’r albwm, cymaint felly nes i Gwymon, sef is-label mwy gwerinol Rasal…sef is-label Sain (ia, cymhleth ynde!) benderfynu eu bod nhw eisiau ail-ryddhau’r record.
Felly rhyddhawyd Os Mewn Sŵn ddwywaith. Ac y quirk pellach ydy bod yr albwm wedi ymddangos ar restr 10 Uchaf Albyms y Flwyddyn Y Selar ddwywaith hefyd!
Dyna’r hanes beth bynnag, ac mae’n werth darllen y cyfweliad yn y rhifyn Selar i ddysgu mwy am y record.
Mi wnaethon ni hefyd roi gwaedd i Huw M i holi am ei atgofion…
“Gan mai Os Mewn Sŵn oedd fy albwm cyntaf, doeddwn i ddim dan unrhyw bwysau wrth recordio, a dwi’m credu bod y rhyddid yna i’w glywed yn y caneuon” meddai Huw wrth Y Selar.
“Nes i ryddhau’r albwm yn wreiddiol ar liwt fy hun heb unrhyw ddisgwyliadau, a dim ond mewn gigs ac yn Spillers Records [Caerdydd] oedd y record ar werth. Pan nath Spillers werthu 100 o gopiau, ges i dipyn o sioc!”
“Dwi’n hapus iawn efo’r albwm wrth edrych nôl, atgofion melys iawn.”
Mae Os Mewn Sŵn yn sicr yn gasgliad neis iawn o draciau cynnar, mwy amrwd ac acwstig Huw M, wrth iddo chwilio am ei sŵn nodweddiadol erbyn hyn. Mae cwpl o fideos bach da hefyd, gan gynnwys ‘Seddi Gwag’ ac yr ardderchog ‘Ond yn Dawel Daw y Dydd’ (fideo gan Arwel Micah isod).
Artist: Carys Eleri
Mae’r gantores, actores a chomedïwraig, Carys Eleri, wedi rhyddhau sengl elusennol ddwy-ieithog ddydd Sadwrn diwethaf, 11 Gorffennaf.
‘Go Tell The Bees / Dod Nôl at Fy Nghoed’ ydy enw’r trac newydd sydd wedi’i hysgrifennu a pherfformio gan Carys, ac wedi ei chyd-ysgrifennu a’i chynhyrchu gan Branwen Munn. Fe ymddangosodd y gân yng ngynhyrchiad digidol diweddar National Theatre Wales, sef ‘Go Tell the Bees Procession’.
Mae hanes personol i’r sengl newydd oherwydd cafodd Carys ei hysbrydoli i ddechrau ysgrifennu’r gân wrth geisio dygymod â’r galar am ei thad a fu farw’n sydyn yn 2018.
Mae’r sengl yn cael ei rhyddhau nawr er mwyn codi ymwybyddiaeth ynglŷn â newidiadau yn yr hinsawdd trwy elusen Size of Wales – Maint Cymru. Bwriad gwreiddiol yr elusen oedd i warchod coedwigoedd glaw yr un maint â Chymru. Cyrhaeddwyd y nôd yma yn 2013 ac erbyn hyn mae’r elusen eisiau gwarchod coedwigoedd glaw ddwywaith maint Cymru!
Mae’r dywediad Cymraeg ‘Dod nôl at fy Nghoed’ wedi taro Carys mewn sawl ffordd dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae coed ei thad wedi ei helpu wrth ymdopi gyda’i hiraeth a’i phoen, ond erbyn hyn ma natur a’r coed angen i ni eu helpu wedi i’r ddynol ryw achosi gymaint o ddifrod.
Yn ôl pob sôn mae Carys yn gobeithio rhyddhau EP erbyn diwedd y flwyddyn a fydd yn archwilio ei meddyliau a’i theimladau o alar trwy gasgliad o ganeuon ingol a phwerus. Edrych mlaen i glywed mwy am hwn!
Dyma ‘Dod nôl ar fy nghoed’:
Un peth arall: Atgofion y ‘Babell Roc’
Be well na bach o nostalia! Stwff cyfoes wrth gwrs…ond fe setlwn ni am bach o nostalgia hefyd ar hyn o bryd!
A gyda’r ymweliad â Thregaron fis Awst wedi’i ohirio am flwyddyn, mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi gofyn i bobl anfon eu hatgofion a lluniau o’r Babell Roc ar y maes dros y blynyddoedd.
Wrth gwrs, bydd nifer o’n darllenwyr iau yn anghyfarwydd â’r Babell Roc. Besicli, rhwng dechrau’r 1980au a blynyddoedd cyntaf y mileniwm, y Babell Roc oedd fwy neu lai yr unig le i weld artistiaid cyfoes yn perfformio ar faes y Steddfod ei hun, gyda Chymdeithas yr Iaith yn cynnal gigs gyda’r hwyr mewn lleoliadau amgen.
Fel arfer, roedd criw lleol yn trefnu’r lein-yp, ac roedd enw o berthnasedd lleol ar y babell bob blwyddyn – enw digon naff fel arfer hefyd!
Os ydy’n cof ni’n iawn, gwelwyd y Babell Roc am y tro olaf tua 2002 neu 2003, ond dros y blynyddoedd roedd yn gyrchfan boblogaidd ymysg rocars ifanc y Steddfod.
Wrth annog pobl i rannu eu hatgofion, fe drydarodd y Steddfod lun o Ffa Coffi Pawb yn perfformio i babell orlawn yn Steddfod Cwm Rhymni 1990.
Wedi bod yn chwilota drwy hen luniau… Pwy sy’n cofio’r Babell Roc? A phwy sydd yn y llun yma? Dyddiau da! pic.twitter.com/FucLI6H3OP
— eisteddfod (@eisteddfod) July 14, 2020
Ac roedden ni’n hoff iawn o’r llun a ddilynodd gan Dewi Prysor o stage invasion ar ddiwedd gig Yr Anhrefn, Steddfod Y Rhyl, 1985.
Pabell Roc sdeddfod Rhyl. @therealrhysmwyn yn rhoi’r nod arferol- signal am stage invasion cân olaf. Fi sy tu ôl Sion yn cael fy nhaflu gan Huw Gwyn. Rhys Ifans â’i gefn at y llun, jacet ledar, llun gwyn efo liquid paper ar y cefn, Swnd o Bala chwith eitha, a (ella) Stwmp o Traws pic.twitter.com/DNYBzWhfaz
— Dewi Prysor (@DewiPrysor) July 15, 2020
Mae’n sicr yn werth dilyn yr edefyn ar Twitter i weld pa berlau eraill o’r gorffennol fydd yn ymddangos.