Gig: Gŵyl Neithiwr – Pontio, Bangor – 18/01/20
Wedi cwpl o benwythnosau digon tawel o ran gigs i ddechrau’r ddegawd, mae pethau’n dipyn prysurach penwythnos yma.
Mae sawl gig heno, nos Wener, gan gynnwys Lleuwen yn Saith Seren, Wrecsam ac enillydd Brwydr y Bandiau Steddfod 2019, Mari Mathias, ym Mar Seler yn Aberteifi.
Dipyn o gystadleuaeth rhwng dau o ganolfannau amlycaf y Gogledd Orllewin heno hefyd, a dwy noson werin o safon o fewn tafliad carreg i’w gilydd. Yn Pontio, Bangor mae The Trials of Cato yn perfformio gyda chefnogaeth gan y grŵp ifanc ardderchog, Tant.
Yna lawr y lôn yn y Galeri, Caernarfon, mae noson werinol arall yng nghwmni Bwncath a Gwilym Bowen Rhys.
Nos fory mae ein prif ddewis ni o gig ar gyfer y penwythnos, a hynny unwaith eto yn Pontio, Bangor. Gŵyl Neithiwr ydy’r gig dan sylw, sydd a chlamp o leinyp sy’n cynnwys 3 Hŵr Doeth, Kim Hon, Mellt, Adwaith, Los Blancos, Papur Wal, Pys Melyn, Pasta Hull, Dienw a Dafydd Hedd. Waw – stoncar o gig!
Un gig bach olaf i gloi’r penwythnos, sef noson gyda Cynefin yng Nghaffi Cletwr sydd hanner ffordd rhwng Machynlleth ac Aberystwyth – caffi bach neis iawn ydy o hefyd!
Cân: ‘Euraidd’ – Teleri
Darganfyddiad bach ar Soundcloud yr wythnos hon ydy’r trac yma.
Mewn gwirionedd, ychydig iawn rydan ni’n gwybod am Teleri, a dyma’r trac cyntaf i ymddangos ganddi ar ei safle Soundcloud.
Mae’r sŵn yn cael ei ddisgrifio fel un gwerinol electronig, ac mae hynny’n ddisgrifiad digon teg. Mae’r diwn fach yma’n sicr yn cynnwys agweddau o’r ddau genre hynny. Mae hefyd yn sŵn bach hamddenol iawn y gallwch chi gicio nôl ac ymlacio i mewn i freuddwyd iddo.
Byddwn yn ymchwilio mwy am telerilea, a chi fydd y cyntaf i wybod!
Record: Orig! – Gai Toms a’r Banditos
Cwpl o restrau byr Gwobrau’r Selar wedi eu cyhoeddi wythnos yma eto, gan gynnwys y tri ddaeth i frig y bleidlais am y Gwaith Celf Gorau.
Chawn Beanz gan Pasta Hull, a Rhyddid o’r Cysgodion Gwenwynig ydy dau o’r recordiau ddaeth yn y tri uchaf, ond rydan ni am roi sylw arbennig i’r trydydd yr wythnos hon.
Y record arall ar y rhestr ydy albwm diweddaraf Gai Toms, a’i fand cysyniadol, Y Banditos – ORIG!
Does dim dadlau gyda’r ffaith fod Gai yn gerddor dyfeisgar, a phob amser yn chwilio am hook arbennig ar gyfer ei gynnyrch. Boed yn record werdd gysyniadol Rhwng y Llygru a’r Glasu (2008) neu Bethel (2012) sy’n deyrnged i’r hen gapel mae’r cerddor wedi troi’n stiwdio.
Y bachyn diweddaraf ydy’r reslwr chwedlonol o Gymru, Orig Williams, neu ‘El Bandito’. Mae’r albwm wedi’i seilio ar fywyd y cawr o Ysbyty Ifan, ac yn deyrnged deilwng i un o gymeriadau mwyaf lliwgar Cymru.
Ers rhyddhau’r albwm ym mis Gorffennaf, mae Gai wedi bod yn brysur yn hyrwyddo’r casgliad, yn arbennig felly trwy fynd â sioe lwyfan uchelgeisio Orig! ar daith theatrau.
Da gweld gwaith celf clyfar yr albwm yn cael cydnabyddiaeth gan bleidleiswyr Gwobrau’r Selar hefyd. Os edrychwch chi’n ofalus ar lun blaen y clawr, mae wyneb Gai wedi morffio mewn i wyneb Orig Williams gan efelychu’r modd mae Gai wedi camu mewn i gymeriad Orig ar yr albwm, a’r sioe lwyfan. Arbennig.
Roedd diwrnod ffoto shoot i’r clawr yn un ffyrnig, chwyslyd a lot o hwyl!! Trio edrych fel #Orig. #digitalcubist #picasso #darnau 🔔🔔👊🏽 #gringodesign @Sainrecords https://t.co/gOTqPK9Hzf pic.twitter.com/ZkXZBCbL08
— Gai Toms (@gaitoms) January 15, 2020
Artist: Tapestri
Wythnos diwethaf fe wnaethon ni sôn am bartneriaeth newydd rhwng Sera ac Eve Goodman. Yr wythnos yma rydan ni’n rhoi sylw i brosiect newydd arall mae Sera’n rhan ohono – y tro hwn gyda’r gantores gyfarwydd o Benfro, Lowri Evans.
Tapestri ydy enw prosiect Americana newydd y ddwy sydd wedi datblygu yn dilyn cyfarfod ar hap rhwng y ddwy yng Ngŵyl Werin Geltaidd Lorient yn Llydaw haf diwethaf.
Wedi hyn, daethant ynghyd nôl ym mis Hydref i ddechrau ysgrifennu caneuon sydd wedi’u hysbrydoli gan gerddoriaeth grwpiau fel The Highwomen, Alison Kraus a First Aid Kit.
Mae Lowri wedi datgelu wrth Y Selar bod Tapestri yn bwriadu rhyddhau record yn yr haf, gan chwarae mewn nifer o gigs a gwyliau er mwyn hyrwyddo’r casgliad.
Yn y cyfamser, maen nhwn cynnal dau gig i lansio’r prosiect yn swyddogol dros benwythnos 8-9 Chwefror. Dyma’r manylion:
8 Chwefror – Theatr Twm O’r Nant, Dinbych gyda Matthew Frederick (Climbing Trees) a Hazel and Grey
9 Chwefror – Penwythnos Americana, Y Galeri, Caernarfon gyda Matthew Frederick (Climbing Trees) a Hazel and Grey
Cadwch olwg ar dudalen Facebook Tapestri am fwy o newyddion pellach.
Un peth arall: Gwobrau Sôn am Sîn
Debyg iawn bod darllenwyr Y Selar yn gwybod bellach ein bod yn ffans mawr o waith criw blog cerddoriaeth Sôn am Sîn.
Yr wythnos hon fe gynhaliodd Chris a Geth eu gwobrau blynyddol ar Facebook Live. Gwerth gwylio os oes ganddoch chi 53 munud bach sbâr – trafodaeth fach dda yn ôl yr arfer gan yr hogia.
Posted by Sôn am Sîn on Sunday, 12 January 2020