Pump i’r Penwythnos – 18 Rhagfyr 2020

Set rhithiol: Chroma – Gŵyl Rithiol Le Pub – 22/12/20

Wel, roedd o’n gig bach dda nos Fercher wrth i Adwaith a Pys Melyn gamu i lwyfan Clwb Ifor Bach ar gyfer y darllediad Stafell Fyw diweddaraf. Os nad oedd modd i chi wylio’n fyw, peidiwch poeni achos mae cyfle i chi brynu’r sioe am £5 i’w wylio unrhyw bryd – yr elw’n mynd o bocedi’r artistiaid gyda llaw.

Wythnos yma, mae cyfle i ddal un o fandiau byw gorau Cymru’n perfformio’n rhithiol nos Fawrth. Bydd Chroma ar leinyp gŵyl rithiol un o leoliadau gigs mwyaf eiconig y wlad, sef Le Pub yng Nghasnewydd. 20:00 ydy’r amser, ac mae manylion llawn ar y digwyddiad Facebook.

 

Cân:  ‘Gwir’ – Tacsidermi 

Enw band newydd, ond bydd un aelod o leiaf yn gyfarwydd iawn i unrhyw un sy’n dilyn y sin gerddoriaeth Gymreig.

Tacsidermi ydy enw prosiect newydd basydd Adwaith, Gwenllian Anthony, ac mae eu sengl gyntaf, ‘Gwir’ allan ers dydd Gwener diwethaf.

Er bod 2020 wedi bod yn flwyddyn heriol iawn i’r rhan fwyaf o gerddorion, mae’n bosib iawn na fyddai Tacsidermi wedi dod i fodolaeth oni bai am amseroedd ansicr y flwydyn a fu.

Aelod craidd arall Tacsidermi ydy Matthew Kilgariff, ac mae’r ddau gerddor wedi bod yn jamio ac ysgrifennu caneuon gyda’i gilydd ers rhai blynyddoedd. Yn wir, roedd Matthew yn teithio gydag Adwaith fel cerddor sesiwn ar eu taith Melyn.

Yn ystod y clo mawr, penderfyndd y ddau ffurfio swigen, a chloi eu hunain yn stiwdio recordio Matthew yngNghaerfyddin gan ddechrau gweithio ar ganeuon Tacsidermi.

Mae’r dylanwadau ar y grŵp a’r trac yma’n benodol yn cynnwys Flaming Lips a grŵf y 90au, gweadau seicadelig The Brian Johnstown Massacre, a churiadau bas Breeders yn rhoi.

Yn ogystal â Gwenllian a Matthew, mae David Newington o Boy Azooga yn chwarae’r dryms ar y sengl.

 

Record: A i Z – Datblygu

Jyst pan roeddech chi’n meddwl mai boddi dan don o senglau Nadoligaidd fyddai ffawd (eitha addas masiwr – gol.) diweddglo 2020, daeth y sypreis fach neis o EP newydd gan Datblygu i dorri ar yr holl dinsel a siwmperi Nadolig.

A i Z ydy enw’r EP sydd allan ar label Ankstmusik heddiw, ac mae’n dilyn yr albwm, ‘Cwm Gwagle’ a ryddhawyd gan y grŵp ym mis Awst.

Bydd y rhai craff yn nodi fod prif drac yr EP newydd, sy’n rhannu enw’r record, ar yr albwm wrth gwrs – trac a ddisgrifiwyd gan y cylchgrawn cerddoriaeth amlwg, The Quietus, fel ‘a fizzy noise trip through spaghetti western electro’, wrth i’r albwm gael ei ddewis ymysg albyms y flwyddyn y cylchgrawn.

Mae’r EP hefyd yn cynnwys un arall o draciau mwyaf poblogaidd yr albwm, ‘Bwrlwm Bro’, ynghyd â phum trac byw a recordiwyd yng ngŵyl ‘Psylence’ ym Mangor nôl yn 2017. Neis iawn wir.

Ymysg y traciau byw hynny mae fersiwn o ‘Problem yw Bywyd’ sef y gân gyntaf erioed a gyfansoddwyd gan y grŵp ar ddechrau’r 1980au. Rheswm digonol ynddo’i hun dros brynu’r EP yn ein tyb ni.

Dyma’r teitl drac ardderchog:

 

Artist: Dyfrig Evans 

Gwych i weld un o gerddorion mwyaf talentog ei genhedlaeth, Dyfrig Evans, nôl yn ysgrifennu ac yn rhyddhau cerddoriaeth newydd wythnos diwethaf.

‘Mae Gen i Angel’ ydy enw’r sengl Nadoligaidd sydd allan ganddo ers dydd Gwener diwethaf.  Oes, mae’n rhaid i ni setlo am sengl Nadolig arall i’r casgliad anferth sydd wedi ymddangos gan artistiaid Cymraeg eleni…ond ar wahân i ambell dinc Nadoligaidd, mae’r diwn yn adlais o’r math o sŵn rydan ni wedi dod i’w gysylltu â chyn ffryntman y grŵp Topper.

Daeth Dyfrig i’r amlwg fel cerddor yn gyntaf fel gitarydd a phrif ganwr gyda’r grŵp Topper yn ystod y 1990au, grŵp a denodd dipyn o sylw ac oedd yn rhan o’r ail reng yna o grwpiau Cymraeg oedd yn cael eu cysylltu â’r disgrifiad eitha’ naff hwnnw o Cŵl Cymru.

Chwalodd Topper tua 2001, ac ar ôl saib fach, ail-ymddangosodd Dyfrig yn 2006 gyda’i albwm unigol, Idiom, a ryddhawyd ar label Rasal. Mae’r casgliad yn cynnwys cwpl i ffefrynnau Radio Cymru – ‘Gwas y Diafol’ a ‘Byw i’r Funud’ yn benodol.

Er ei fod wedi gigio’n achlysurol ers hynny, canolbwyntio ar ei yrfa actio sydd wedi cymryd blaenoriaeth i Dyfrig yn ddiweddar, ond mae’n grêt ei weld yn dychwelyd gyda ‘Mae Gen i Angel’. Ac mae’n ymddangos nad oedd ganddo gynllun i ysgrifennu’r gân o gwbl.

“Yng nghanol blwyddyn anodd iawn i bawb a phopeth, tua 6 wythnos yn ôl tra’n gobeithio ‘sgwennu sgript, mi wnes i gael fy ysbrydoli gan berson arbennig iawn wrth fy ochr yn y gegin – angel fy mywyd – a phenderfynu cyfansoddi cân yn lle…cân ‘Dolig” meddai Dyfrig.

Yn ôl Dyfrig roedd yn gwrando tipyn ar gerddoriaeth John Lennon ar y pryd, felly mae’r sŵn wedi’i ysbrydoli gan un o’i arwyr mawr.

Gobeithio wir fod y tra wedi rhoi hwb i’r cerddor ac y gallwn ni ddisgwyl gweld mwy o gerddoriaeth newydd ganddo’n fuan.

 

 

Un Peth Arall: Fideo Animeiddiedig Calan

Rydan ni’n ffans mawr o’r artist talentog Lucy Jenkins yma yn Selar towyrs.

Mae’n bosib bydd nifer yn ei hadnabod yn well trwy ei handlen Twitter, @drawn_to_hockey, a’r ffaith mai hi sy’n gyfrifol am y fideos animeiddiedig ar gyfer y caneuon Tafla’r Dis’ gan Mei Gwynedd a ‘Blithdraphlith’ gan Sibrydion.

Wel, mae Lucy wedi bod yn gweithio’n galed ar fideo arall, a’r tro yma ‘O.G. Greta’ gan Calan sy’n cael y pleser.

Gwaith da eto Lucy