Gig: Omaloma – Facebook Coleg Gwent – Gwener, 19 Mehefin
Cwpl o berfformiadau bach da wedi digwydd ar-lein dros y dyddiau diwethaf, ac mae cwpl o bethau bach da i ddod dros y penwythnos hefyd.
Fe ddechreuwn ni gyda gig rhithiol Gwilym Bowen Rhys a ddarlledwyd neithiwr ar dudalen Facebook y Llyfrgell Genedlaethol.
Mae’n debyg mai digwyddiad mawr y penwythnos ydy fersiwn ar-lein o ŵyl Tafwyl. Llwyth o artistiaid yn perfformio ddydd Sadwrn trwy wefan AM – Hana, Gareth Bonello, Mellt, Adwaith, Rhys Gwynfor, Mei Gwynedd, HMS Morris, Alun Gaffey, Casi ac Al Lewis. Y cyfan yn dechrau am 12:30 gyda’r ardderchog Hana. Dyma’r trêl:
Hefyd heno mae Omaloma yn cynnal darllediad gig ar dudalen Facebook Coleg Gwent am 7:00.
Un i edrych ymlaen ato nos Iau nesaf hefyd, sef set gan 9Bach ar eu tudalen Facebook am 7:00
Cân: ‘Locdown yng Nghymru’ – Josgins
Mae’r cloi mawr wedi gweld rhai artistiaid yn fwy gweithgar a chynhyrchiol nac eraill, ac hyd yn oed wedi ysgogi ambell un i ddechrau prosiect newydd.
Un esiampl perffaith o hynny, ydy Josgins, sef prosiect diweddaraf Iestyn Jones, sydd wedi bod yn ganwr ar y grwpiau Rebownder ac Y Sybs yn y gorffennol.
Mae dylanwad y sefyllfa sydd ohoni’n glir ar sengl gyntaf Josgins, a ryddhawyd ddydd Gwener diwethaf, sef ‘Locdown yng Nghymru’.
“Ar hyn o bryd, rydym fel llygod ar goll mewn drysfa, yn ceisio dod o hyd i’r ffordd allan” meddai Iestyn wrth drafod y sengl newydd.
“Gobeithio, cyn bo hir, byddwn ni’n rhydd”
Chwara teg i Iestyn, mae’r gân yn un fach ddigon bachog, gyda geiriau tafod ym moch sy’n siŵr o ddod â gwên i’r wyneb…ac yn sicr mae angen hynny ar hyn o bryd!
Dyma’r fideo ar gyfer y trac sydd wedi’i ffilmio a chyfarwyddo gan Leon Willis:
Record: Ynysig #2 – Hap a Damwain
Band arall sydd heb fod yn segur o gwbl yn ystod y cloi mawr ydy Hap a Damwain ac maen nhw bellach wedi wedi rhyddhau eu ail EP dros y cyfnod yma ar eu safle Bandcamp.
‘Ynysig #2’ ydy enw’r casgliad byr newydd o ganeuon, ac mae’n dilyn ‘Ynysig #1’ a ryddhawyd yn ddigidol ganddynt fis diwethaf.
Pedwar trac sydd ar yr EP diweddaraf sef ‘Poer a Glud, ‘Planhygion’, ‘Rhyl’ a ‘Brenhines’ ac fel eu caneuon blaenorol maen nhw’n ganeuon pop arbrofol ond bachog.
Mwy am y grŵp a’r EP newydd yn y stori newyddion, ond mae’n debyn bod ganddyn nhw fwriad i ryddhau trydydd EP, Ynysig #3, mewn rhyw fis – edrych mlaen yn fawr.
Dyma’r hyfryd ‘Rhyl’:
Artist: Lowri Evans
Go brin fod angen llawer o gyflwyniad ar Lowri Evans gan ei bod hi wedi bod yn perfformio’n rheolaidd ar lwyfannau Cymru ers tua pymtheg blynedd a mwy erbyn hyn.
Wedi dweud hynny, efallai fod angen bach mwy o gyflwyniad ar ei cherddoriaeth cynnar, ac yn benodol y recordiau cynharaf iddi ryddhau sydd bellach ar gael yn ddigidol am y tro cyntaf ers dydd Gwener diwethaf.
Mae tair record a ryddhawyd ar label Recordiau Fflach rhwng 2006 a 2008 ar gael ar y prif lwyfannau digidol am y tro cyntaf sef Clyw Sibrydion, Kick The Sand a Dim ond Maria.
Clyw Sibrydion oedd albwm Cymraeg cyntaf Lowri a ryddhawyd yn 2006. Cyn hynny roedd y gantores wedi bod yn astudio ‘Cerddoriaeth Jazz, Poblogaidd a Masnachol’ yn Newcastle-upon-Tyne ble bu’n gigio tipyn, yn ogystal â recordio dau albwm. Dychwelodd i’w thref genedigol, sef Trefdraeth yn Sir Benfro, ar ôl graddio gan ddechrau gigio cyn cyfarfod â Lee Mason yn 2005 gan ffurfio partneriaeth lwyddiannus sydd wedi para hyd heddiw.
Flwyddyn ar ôl rhyddhau Clyw Sibrydion, roedd Lowri’n barod i ryddhau albwm arall, Kick the Sand yn 2007. Erbyn hyn roedd y gantores yn dechrau denu sylw rhyngwladol, ac yn arbennig felly gan Dan Jackie Hayden o Hot Press yn Iwerddon. Mae’r albwm yn cynnwys cyfraniadau sawl cerddor ardderchog – Nerys Richards, Andy Coughlan, Arran Ahmun, Henry Sears a Melt Kingston.
Rhyddhawyd y cryno albwm Dim Da Maria yn 2008 ac fe’i gynhyrchwyd gan Andy Coughlan. Chwech trac sydd ar y record yma ac mae Lee Mason, Nigel Hopkins a Sam Christie yn chwarae ar bob un gyda Lowri.
Mae’n siŵr taw cân enwocaf ei halbwm cyntaf ydy’r hyfryd ‘Merch y Myny’, a dyma fersiwn cloi mawr byw ohoni o fis Ebrill:
Social Distancing video number 3! "Merch y myny" Another song about Lowri's hometown Newport (Trefdraeth) here in sunny North Pembrokeshire. Requested by Mark Bond and Dylan John. "Merch y myny" Cân arall am dref enedigol Lowri, Trefdraeth yma yng Ngogledd Sir Benfro. Gofynnwyd gan Mark Bond a Dylan John.If you enjoyed the video using the following link you can donate to our "Go Fund Me" virtual tip jar. Diolch!gf.me/u/xtypm2
Posted by Lowri Evans & Lee Mason on Friday, 27 March 2020
Un peth arall: Fersiwn Derw o ‘Hel Sibrydion’
Mae cyfnod y cloi wedi ysgogi ambell fand i fynd ati i recordio fersiynau cyfyr o ganeuon artistiaid eraill.
Un o’r esiamplau diweddaraf o hyn ydy’r grŵp newydd, Derw, sydd wedi cyhoeddi fersiwn eu hunain o’r trac ‘Hel Sibrydion’ gan Lewys.
Penwythnos diwethaf cyhoeddodd Derw fideo ohonynt yn gwneud y fersiwn acwstig o’r gân boblogaidd ar eu sianel YouTube.
Mae’r fideo yn cynnwys dau o aelodau Derw, sef Dafydd Dobson ar yr offerynnau i gyd ac Elin Fouladi yn canu.
Mae’r fersiwn wreiddiol o’r trac ar albwm cyntaf Lewys, ‘Rhywbryd yn Rhywle’, a ryddhawyd fis Mawrth, sydd digwydd bod wedi cael sylw Tegwen Bruce-Deans mewn darn arbennig ar wefan Y Selar yn gynharach yn yr wythnos.
Dyma ferswin Derw o’r gân: