Pump i’r Penwythnos – 2 Hydref 2020

Set rhithiol: Gŵyl Newydd

Roedd cwpl o ddigwyddiadau rhithiol ar y gweill penwythnos diwethaf, gan gynnwys gŵyl ar-lein FOCUS Wales, sef ‘Out of FOCUS’.

Gŵyl arall ddifyr oedd Gŵyl Newydd, sydd fel arfer yn digwydd yng Nghasnewydd. Ar-lein oedd yr ŵyl eleni, ac fe blesiodd Teleri Bruce-Deans, oedd yn gwylio ac yn adolygu ar ran Y Selar, yn fawr.

Roedd modd gwylio’r ŵyl ar wefan AM, ac mae’n debyg ei bod wedi denu dros 2000 o wylwyr.

Gŵyl Newydd ar ei wedd newydd

Cân:  ‘Tywod’ – Teleri

Rydan ni wedi bod yn dilyn datblygiad y gantores electronig Teleri ers iddi ddod i’r golwg gyda’i sengl gyntaf ym mis Ionawr.

Bellach, mae ei phumed sengl wedi’i ryddhau ers ddoe, 1 Hydref, ac roedd cyfle cyntaf i glywed ‘Tywod’ ar wefan Y Selar yn gynharach yn yr wythnos.

Wrth i nifer o artistiaid ei chael hi’n anodd yn 2020 o ganlyniad i’r pandemig, mae Teleri’n un o’r rhai sydd wedi blodeuo yn dros y cyfnod hwn gan ryddhau cynnyrch newydd yn rheolaidd.

Wrth i ni droi at yr Hydref, mae ‘Tywod’ yn cyfuno geiriau atgofus gyda rhythm sy’n gyrru’r gân yn ei blaen.

“Mae’n atgoffa fod amser o hyd yn troi, fel y tonnau” meddai Teleri.

“Mae’n cyfleu’r naws hiraethus o weld y presennol yn troi’n orffennol a’r cyffro o ddechreuadau newydd yn y dyfodol.”

‘Tywod’ ydy’r chweched trac i Teleri ryddhau eleni ac mae’n cadw at ei brand o gerddoriaeth dawns electronig disglair ac upbeat. Er gall bod delweddaeth drist o fewn y geiriau, mae’r cyfeiliant ganddi’n llawn gobaith.

Dyma ‘Tywod’:

 

 

Record: Yuke Yl Lady – Eilir Pierce

Mae Eilir Pierce yn rhyddhau ei albwm diweddaraf, Yuke Yl Lady LP heddiw.

Ac i gyd-fynd â’r albwm newydd, mae hefyd wedi cyhoeddi fideo ar gyfer y teitl drac sydd i’w weld fel premiere ar wefan Y Selar heddiw.

Yn ôl Eilir, roedd HBO a Top of The Pops ar ei ôl am y cyfle i ddangos y fideo gyntaf, ond chwarae teg iddo, fe ddewisodd gyfrwng llawer mwy poblogaidd Y Selar.

Rhyddhaodd y cerddor ei EP diweddaraf, ‘Yuke Yl Lady’, yn ddigidol ar ei safle Bandcamp ar 30 Gorffennaf ac mae’r LP yn ddatblygiad o’r EP hwnnw ac yn cynnwys yr un caneuon yn ogystal â rhai ychwanegol.

Mae un gwahaniaeth mawr cofiwch, sef mai dim ond ar ffurf casét mae’r albwm ar gael ac mae modd i chi archebu hwnnw ar safle Bandcamp Eilir o heddiw ymlaen.

Yuke Yl Lady ydy cynnyrch cyntaf y cerddor a gwneuthurwr ffilm hoffus ers yr EP, ‘36’, a ryddhawyd ganddo yn 2015. Roedd hwnnw’n ddilyniant i’r EP arall o’r enw ‘2012’ oedd yn gasgliad o draciau byw a sesiwn, ac a ryddhawyd ganddo’n gynharach yn 2015.

Yn ôl Eilir mae caneuon Yuke Yl Lady yn syml iawn eu harddull ac yn fyrfyfyr eu natur.

“Y syniad o gyfyngu fy hun i recordio caneuon llif yr ymennydd gyda ukulele a llais yn unig” eglura Eilir.

“Fel arfer dim ond y take cyntaf sy’n cael ei ddefnyddio, y take lle ma’r gân yn cael ei chyfansoddi yw hwnnw.”

Er ei fod yn gyfrwng marw ers sawl blwyddyn yn nhyb nifer, mae sawl artist wedi troi at y casét i ryddhau eu cynnyrch yn ddiweddar. Er hynny, ychydig iawn, os o gwbl sydd wedi rhyddhau ar gasét yn unig…ond dyna ni, tydi Eilir ddim yn un i ddilyn y dorf!

Mae gan Eilir hanes hir gyda’r casét. Mae’n chwarter canrif ers iddo ryddhau ei dâp cyntaf – casgliad o ganeuon a recordiwyd ganddo mewn sied wair ar y fferm deuluol yn Nghlocaenog yn ystod haf poeth 1995.

“Mi oedd recordio ar dâp yn rhywbeth hollol accessible i mi, a chymrais y recordydd tâp a fy ngitâr i’r sied a chychwyn byrfyfyrio caneuon o flaen y defaid a’r ieir” meddai Eilir.

“Ond roeddwn i’n ddigon pretentious i’w alw’n ‘ albwm cyntaf’ ar y clawr, a nes i neud copis ohono i werthu ar iard yr ysgol. ”

Fel trît bach ychwanegol, mae nifer cyfyngedig o weithiau celf Elin Bach ar gael gyda chopïau o’r casét dan y teitl ‘Ukeleilir’.

Pecyn i’w drysori heb os.

Artist: Meilir

Mae’r cerddor profiadol, Meilir, wedi rhyddhau ei sengl newydd ‘Ydy’r Ffordd yn Glir’ ar ei safle Bandcamp wythnos diwethaf, sy’n rhoi cyfle perffaith i ni sôn bach mwy amdano.

Meilir ydy Meilir Tomos, sy’n wyneb, a llais, cyfarwydd i ddilynwyr cerddoriaeth yng Nghymru ers ei ddyddiau cynnar fel prif ganwr y grŵp o Ddinbych, Manchuko.

Dros y ddegawd a mwy diwethaf mae wedi bod yn rhyddhau ei gerddoriaeth yn unigol gan gynnwys yr EPs llwyddiannus ‘Bych Wych’ yn 2009 a ‘Cellar Songs’ yn 2014.

Nawr mae’r cerddor yn ôl gyda sengl newydd sy’n rhagflas i albwm llawn sydd ar y gweill. Meddai’r cerddor wrth Y Selar mai In Tune fydd enw’r record hir, a’i fod yn bwriadu ei ryddhau ym mis Mawrth 2021.

Wrth drafod y sengl newydd, eglura’r cerddor bod y gân wedi esblygu rhywfaint o’r syniad gwreiddiol oedd ganddo.

“Mae’r gân am symud ymlaen a gadael pethau tywyll yn y gorffennol” meddai Meilir.

“Y syniad gwreiddiol oedd cael cân gyda dim ond fy llais i dorri’r albwm i fyny, ond yn y diwedd roedd lot o syniadau gyda fi i greu rhywbeth unigryw.”

Mae’r sengl ar gael i’w lawr lwytho a ffrydio ar safle Bandcamp Meilir nawr.

Un peth arall: Fideo ‘Amrant’

Un o draciau gorau’r flwyddyn hyd yma heb os ydy ‘Amrant’ gan Carw a ryddhawyd ddiwedd mis Gorffennaf.

Bellach mae cyfres Lŵp, S4C, wedi cyhoeddi fideo o’r trac ar eu llwyfannau digidol.

Rhyddhawyd ‘Amrant’ fel sengl gyntaf albwm newydd Carw, Maske, ar 31 Gorffennaf ynghyd â fideo animeiddiedig gan y cerddor.

Yna, rhyddhawyd yr albwm llawn ar 21 Awst ar label Recordiau Blinc.

Mae’r fideo newydd wedi’i gynhyrchu gan Andy Pritchard, oedd wedi’i ysbrydoli gan y newid byd a’r unigrwydd oedd yn cael eu cyfleu yn y trac.

Dyma’r fid: