Pump i’r Penwythnos – 20 Mawrth 2020

Gig: Cadw olwg ar y cyfryngau digidol!

 Wel…mae’n ddyddiau rhyfedd iawn ar hyn o bryd yn tydi, ac yn anffodus mae hynny wedi arwain at ganslo mwy neu lai pob digwyddiad cyhoeddus yn y wlad, gan gynnwys gigs.

Rydan ni’n trio diweddaru’r calendr gigs ar y wefan, ond wedi methu cael cadarnhad am rai digwyddiadau felly’r cyngor cyffredinol ydy holwch os ydy’r gig dal mlaen cyn dechrau allan.

Nid y nodyn mwyaf llon i agor Pump i’r Penwythnos…ond mae digon o bethau cadarnhaol i ddod!

Un ffordd o goncro’r diffyg digwyddiadau byw ydy cynnal gigs digidol, a dyma wahoddiad i artistiaid Cymru efelychu pobl fel Lleuwen trwy rannu perfformiadau byw bach ar Facebook Live neu debyg. Rydan ni’n weddol siŵr y gallwch ddod a bach o oleuni i fywydau nifer trwy wneud hynny.

Dyma set Lleuwen o’r atig neithiwr:

Gig o'r Atic (rhan 1)

Posted by Lleuwen Steffan on Thursday, 19 March 2020

 

Cân: ‘Disgyn’ – Patryma 

Wastad yn dda i glywed am artistiaid a bandiau newydd, ac roedd yn grêt i glywed am grŵp newydd yn ffurfio yn ardal Arfon yn ddiweddar.

Efallai fod ambell wyneb cyfarwydd yn y grŵp, yn benodol felly’r basydd Calvin Thomas, gynt o Derwyddon Dr Gonzo a CaStLeS, a’r drymiwr Rhys Evans sydd hefyd yn aelod o I Fight Lions.

Aelodau eraill y grŵp ydy’r canwr Siôn Foulkes a’r gitarydd Daniel McGuigan.

Mae Patryma yn disgrifio eu hunain fel ‘band roc amgen’.

Mae eu sengl gyntaf, ‘Disgyn’ allan heddiw.

“’Disgyn’ oedd y gân gyntaf i ni sgwennu…” meddai’r canwr Siôn Faulks.

“…mae’r lyrics yn sôn am ein cenhedlaeth ni a sut mae’n gallu teimlo bod ni’n sownd yn yr un fan a ddim yn gallu symud ymlaen i gamau nesa bywyd – fel prynu tai.”

“Oddwn i a fy mhartner yn ffendio’n hunain yn yr un sefyllfa a llawer o’n ffrindia ni lle oedda ni’n byw adra neu’n gorfod rhentu ac yn stryglo i safio deposit am dŷ lle bysa’n rhieni ni wedi prynu tai ers blynyddoedd.”

Mae’r sengl yn cael ei rhyddhau’n ddigidol ar yr holl lwyfannau digidol arferol, ac yn ôl y grŵp maen nhw’n gobeithio rhyddhau ail sengl tua mis Ebrill neu Mai, a dechrau gigio ddechrau’r haf. 

 

Record: Mai – Georgia Ruth

Er gwaetha’r hyn sy’n digwydd yn y byd o’n cwmpas ar hyn o bryd, mae’r haul yn tywynnu ar y bore Gwener yma, ac wedi gaeaf hir mae’n dechrau teimlo’n debyg i wanwyn o’r diwedd.

Rhywbeth arall sy’n dod ag ychydig o wanwyn i’n bywydau ydy albwm newydd Georgia Ruth, Mai, sydd allan yn swyddogol heddiw.

Roedd taith hyrwyddo ar gyfer Mai wedi’i drefnu ar gyfer yr wythnosau nesa, ond wrth gwrs, bu’n rhaid gohirio.

Er hynny, mae cyfle i weld Georgia’n perfformio’n fyw ar Instagram Live heno am 9:00. Bydd Ani Glass yn agor y sioe am 8:00 a Bryde hefyd yn cefnogi gyda set am 8:30. Mae’n wych gweld artistiaid yn bod yn greadigol wrth rannu eu cerddoriaeth ar hyn o bryd felly byddwch yn siŵr o diwnio mewn.

Cofiwch hefyd fod cyfweliad arbennig gyda Georgia yn rhifyn diweddaraf Y Selar.

Dyma fideo gwych y sengl ‘Madryn’ o’r casgliad newydd:

Artist: Lewys

Heddiw ydy diwrnod rhyddhau albwm cyntaf y grŵp ifanc gwych, Lewys.

Rhywbryd yn Rhywle ydy enw record hir gyntaf y grŵp enillodd wobr ‘Band neu Artist Newydd Gorau’ Gwobrau’r Selar 2018, a label Recordiau Cosh sy’n rhyddhau.

Ddechrau’r mis fe ryddhawyd y sengl ‘Y Cyffro’ gan Lewys fel tamaid i aros pryd nes yr albwm, a neithiwr roedd yn bleser gan Y Selar gynnig gwrandawiad ecsgliwsif cyntaf o drac arall o’r casgliad, sef ‘Hel Sibrydion’.

Mae’r grŵp wedi ffrwydro i amlygrwydd dros y ddwy flynedd ddiwethaf gan ryddhau cyfres o senglau poblogaidd – mae ‘Yn Fy Mhen’, ‘Gwres’ a ‘Dan y Tonnau’ i gyd ar yr albwm yn ogystal â sawl trac newydd.

Does dim amheuaeth ynglŷn â photensial a pedigrî cerddorol y grŵp – mae’r pedwar aelod yn astudio cyrsiau cerdd amrywiol mewn gwahanol Brifysgolion ledled Prydain, ac yn gwbl o ddifrif am eu cerddoriaeth.

Roedd lansiad swyddogol yr albwm i fod yn Rascals, Bangor wythnos nesaf…ond mae hwnnw, fel pob gig arall wedi’i ohirio bellach wrth gwrs.

Ta waeth, dyma ‘Hel Sibrydion’ fel trît yn lle hynny:

 

Un peth arall: Lŵp Papur Wal 

Da n i’n hoffi Papur Wal, ac mae cyfle da i ddod i adnabod y grŵp addawol yn well ar bennod ddiweddaraf cyfres Lŵp, S4C.

Darlledwyd y rhaglen arbennig ar yr hen focs hen ffasiwn sydd yng nghornel eich lolfa nos Iau diwethaf, ond mae dal cyfle i wylio ar-lein ar S4C Clic neu BBC iPlayer.

Mae’r bennod yn gyflwyniad bach neis i’r triawd ac yn mynd o dan groen eu personoliaeth a cherddoriaeth. Mae ‘na hefyd gyfle i weld cân fyw ganddyn nhw o Wobrau’r Selar eleni sef y sengl ‘Meddwl am Hi’: