Pump i’r Penwythnos – 20 Tachwedd 2020

Set rhithiol: Y Cledrau – Pontio

Mae ‘na lai o gigs rhithiol dros yr wythnosau diwethaf, ond mae sawl artist wedi manteisio ar y cyfle i lwytho ambell gig rhithiol lled ddiweddar i’w sianeli YouTube ac ati.

Wythnos diwethaf fe wnaethon ni roi sylw i ganeuon Yr Eira o’u set yn Amgueddfa Lechi Cymru fel rhan o Ŵyl Fwyd Rhithiol Amgueddfa Cymru. Yr wythnos hon, un arall o fandiau label Recordiau I KA CHING sy’n cael y sylw, sef Y Cledrau.

Fe berfformiodd Y Cledrau set yng Nghanolfan Pontio fel rhan o Gig UMCB ar ddiwrnod Shwmae Su’mae ar 15 Hydref, a bellach mae modd gweld nifer o’r caneuon ar eu sianel YouTube, gan gynnwys eu cyfyr o ‘Hwyl Fawr Heulwen’ gan Y Cyrff, isod.

Fel mae’n digwydd, y tro cyntaf i’r grŵp chwarae’r gân yma’n gyhoeddus oedd yng Ngwobrau’r Selar Chwefror 2019 ar y noson derbyniodd Mark a Paul o’r Cyrff eu gwobr ‘Cyfraniad Arbennig’. Balch iawn bod nhw wedi cadw hon yn y set achos ma hi’n wych

 

Cân:  ‘Esgidiau Newydd (Frank Naughton Remix)’ – Yr Eira

Mae Yr Eira wedi rhyddhau fersiwn newydd wedi’i hail-gymysgu o’r gân ‘Esgidiau Newydd’ heddiw.

Ymddangosodd y trac  yn wreiddiol ar albwm diweddaraf y grŵp, Map Meddwl a ryddhawyd ar 15 Mai eleni, ond mae’r fersiwn newydd yn ganlyniad gwaith ail-gymysgu’r cynhyrchydd dawnus Frank Naughton.

Wrth fynd ati i ymdrin â’r gân mae Naughton wedi dewis trywydd dawns gan chwarae gydag ambell elfen o’r gân wreiddiol yn unig. Yn benodol felly’r llinell “llusgo, llusgo, er fy mod i’n gwisgo, gwisgo”, y llinell fas a’r middle 8.

Mae ei benderfyniad i ganolbwyntio ar yr elfennau hyn yn tynnu sylw’n fwyfwy at thema’r gân sef bod esgidiau newydd yn rhyw fath o symbol o’r daith y mae rhywun yn ei ddilyn trwy fywyd.

“Mae o’n gynhyrchydd hen ffasiwn sy’n gweithio mewn modd hollol wahanol” meddai Lewys Wyn o’r Eira am driniaeth Naughton o’r gân.

“O’n i’n gwbod fysa fo’n rhoi stamp hollol unigryw ar y gân felly fo oedd y boi amdani.”

 

Record: Mai:2 – Georgia Ruth

Mae casgliad newydd o ailgymysgiadau o ganeuon albwm diweddaraf Georgia Ruth yn cael ei ryddhau heddiw..

Rhyddhawyd trydydd albwm y gantores, Mai, yn wreiddiol ym mis Mawrth eleni, ac enw’r record fer newydd ydy Mai:2.

A hithau wedi symud yn ôl i’r ardal lle magwyd hi yn Aberystwyth, a hefyd wedi dod yn fam am y tro cyntaf, mae Georgia wedi mynd yn ôl at ei gwreiddiau ar yr albwm.

Recordiwyd yr albwm y Neuadd Joseph Parry yn Aberystwyth dros gyfnod o wythnos yng ngwanwyn 2019. Mae’r neuadd wedi’i henwi ar ôl y cyfansoddwr ac athro adnabyddus, ac fe ddefnyddiwyd yr ystafell fel lleoliad ar gyfer cyngherddau siambr drwy gydol yr ugeinfed ganrif.

Gallwch ddarllen mwy am yr albwm yng nghyfweliad Y Selar gyda Georgia yn rhifyn y Gwanwyn o’r cylchgrawn.

Mae’r record fer Mai:2 yn cynnwys fersiwn newydd o bedwar trac oddi ar yr albwm, ac yr artistiaid sydd wedi mynd i’r afael a’r traciau hyn ydy Gwenno, Quodega, Accü a Cotton Wolf.

Wrth i’r talentau arbennig yma osod eu stamp ar y traciau, mae’r broses yn arddangos dawn Georgia o ysgrifennu cân, yn ogystal â gweld sut mae meddyliau unigryw a chreadigol yr artistiaid eraill yn gweithio.

Mae modd prynu’r record yn ddigidol ar wefan Georgia Ruth, ac mae 25% o’r gwerthiant yn mynd at elusen ‘Ni yw y Byd’. Da rŵan.

Dyma ailgymysgiad ardderchog Gwenno o’r trac ‘Terracotta’:

 

Artist: Ystyr

Mae prosiect unigol un o aelodau’r grŵp Plant Duw, Rhys Martin, wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf.

Mae Ystyr wedi bod yn rhyddhau cerddoriaeth yn rheolaidd dros y misoedd diwethaf, a ‘Teimlad Hydrefol’ ydy enw’r chweched trac iddynt gyhoeddi ar eu safle Bandcamp.

Er hynny, mae rhywfaint o ddirgelwch wedi bod ynglŷn â’r prosiect, felly penderfynodd Y Selar fynd ati i dyrchu’n ddyfnach gan ddysgu bod dau aelod arall i’r grŵp sef Owain Brady a Rhodri Owen.

Rydan ni wedi bod yn  sgwrsio gydag Owain, ac mae eu stori’n un ddigon difyr – gallwch ddarllen y cyfweliad ar wefan Y Selar rŵan.

Does dim amheuaeth fod y grŵp yn gynhyrchiol, a hynny’n rhannol mae’n ymddangos o ganlyniad i’r heriau mae 2020 wedi’u cynnig. Does dim amheuaeth chwaith eu bod nhw’n gallu creu tiiiiwn! Dyma ‘Teimlad Hydrefol’. 

 

Un Peth Arall: Enwebiadau Gwobrau’r Selar  

Mae’r amser yna o’r flwyddyn wedi cyrraedd unwaith eto lle mae’n bryd i ni ddechrau cynllunio o ddifrif ar gyfer Gwobrau’r Selar.

Bydd ein gwobrau blynyddol yn wahanol iawn eleni, a byddwn ni’n cyhoeddi mwy o wybodaeth am hynny yn y man.

Ond yn ôl yr arfer mae modd i chi enwebu enwau ar gyfer eu hystyried ar gyfer y rhestrau hir cyn 29 Tachwedd.

Oherwydd y flwyddyn anarferol, rydan ni wedi addasu rhywfaint ar y categorïau, a byddwch chi efallai’n sylw ar ‘Wobr 2020’ yn benodol.

Y syniad gyda’r wobr yma ydy dewis unigolion sydd wedi ymateb mewn ffordd bositif y heriau, a’r materion o bwys sydd wedi codi yn y flwyddyn unigryw yma – mae pandemig Covid-19 un peth amlwg, ond rydan ni hefyd am i chi ystyried pethau fel symudiad pwysig ‘Black Lives Matter’.

Ewch amdani:

Enwebu ar gyfer Gwobrau’r Selar