Gig: Lansiad Albwm Mared – 21/08/20 – Gwefan AM
Ar sail yr ymateb i’w senglau diweddar, mae cryn edrych ymlaen at ryddhau albwm llawn cyntaf Mared heddiw.
Mae ‘Y Drefn’ allan ar label I KA CHING, ac i nodi’r achlysur bydd ‘gig’ lansio rhithiol yn digwydd ar sianel AM y label .
Mae’r gig byw wedi’i recordio yn Stiwdio Sain, Llandwrog, ac os ydy perfformiadau Mared yn y gorffennol yn fesur, yna mae’n werth ei wylio.
Cadwch olwg heno hefyd am gig rhithiol arall gan 9Bach ar Facebook Live. Bydd y set yn cael ei ddarlledu ar dudalen Facebook y grŵp am 19:00.
Cân: ‘Pobol Dda y Tir’ – Gai Toms
Mae Gai Toms wedi cadw’n brysur yn ystod cyfnod y cloi, ac wedi rhyddhau ei sengl newydd hwyliog ers dydd Gwener diwethaf, 14 Awst.
‘Pobol Dda y Tir’ ydy enw’r trac newydd a dyma gynnyrch cyntaf Gai ers ei albwm cysyniadol uchelgeisiol ‘Orig’ a ryddhawyd llynedd.
Ar gyfer ei sengl newydd mae Gai wedi troi at ysgafnder yr ukulele, sy’n offeryn nad yw wedi defnyddio llawer arno yn y gorffennol, ac yn ôl Gai daeth riff cofiadwy ‘Pobol Dda y Tir’ ar hap wrth chwarae ukelele ei ferch bump oed, Esi, o gwmpas y tŷ.
Mae’n amlwg bod Gai yn awyddus i greu rhywbeth cadarnhaol yn ystod y cyfnod heriol yma, ac mae geiriau a cherddoriaeth y sengl newydd yn bositif iawn, ac yn cynnig rhywfaint o oleuni derbyniol iawn ar hyn o bryd.
“Mewn amser heriol, mae angen edrych ar y byd o ogwydd gwahanol” meddai Gai.
“Fel cerddor, mae dysgu offeryn newydd yn ddrws i’r byd hwn. Mewn tywyllwch, mae angen golau… mae’r ukelele fel yr haul!”
Y newyddion da pellach ydy bod ‘Pobol Dda y Tir’ yn flas o’r hyn sydd i ddod, gyda chasgliad o ganeuon sydd wedi’u cyfansoddi dros y cyfnod clo ar ei albwm nesaf, ‘Y Filltir Gron’ sydd ar y gweill.
Record: Ail-gymysgiadau Deryn Du
Da ni’n plygu’r rheolau ’chydig bach wythnos yma!
Nid record fel y cyfryw, ond casgliad o draciau…neu’n hytrach casgliad o sawl fersiwn o’r un trac! Gneud sens? Na? Gadewch i ni egluro….
Byddwch chi’n gwybod mae’n siŵr bod Yws Gwynedd wedi rhyddhau sengl newydd, ‘Deryn Du’, yn ystod y cyfnod clo. Dyma’i gynnyrch cyntaf ers cwpl o flynyddoedd ag yntau wedi camu nôl o’r llwyfan am gyfnod o leiaf.
Ar ôl rhyddhau’r sengl, fe aeth Yws ati i annog cerddorion eraill i ail-gymysgu’r trac, gan ryddhau’r ‘stems’ ar gyfer y gân er mwyn i unrhyw un eu lawr lwytho a defnyddio. Ac mae’n ymddangos bod nifer fawr o bobl wedi manteisio ar y cyfle, fel mae’r darn arbennig gan Tegwen Bruce-Deans a gyhoeddwyd yn gynharach yn yr wythnos yn trafod.
Daw i’r amlwg yn yr erthygl mai bwriad Yws oedd i ryddhau’r ail-gymysgiadau fel EP petai rhyw bump fersiwn yn ymddangos…ond mewn gwirionedd mae llawer mwy na hynny, digon i wneud albwm dwbl!
Dyma restr chwarae sy’n cynnwys y fersiynau i gyd hyd yma:
Artist: Derw
Bach o sylw i’r grŵp o Gaerdydd, Derw, wythnos yma wrth iddyn nhw baratoi i ryddhau eu hail sengl, ‘Ble Cei Di Ddod i Lawr’, ar ddiwedd y mis.
Daeth y grŵp i’r amlwg ym mis Mai gyda’i sengl gyntaf, ‘Dau Gam’ ac maent wedi’u dylanwadu arnynt gan waith grwpiau pop siambr fel The National ac Elbow.
Sefydlwyd Derw yn wreiddiol gan y cerddor Dafydd Dobson a’i fam, Anna Georgina gan gystadlu yng nghystadleuaeth Cân i Gymru 2018, a chyrraedd y rownd derfynol.
Hefyd yn y grŵp mae Elin Fouladi, y gantores Gymreig/Iranaidd, sy’n gyfarwydd hefyd fel El Parisa, a sydd wedi perfformio gyda Clinigol ymysg grwpiau eraill yn y gorffennol.
Mae’r enw Derw yn dod o enw tad Anna, Derwas ac mae ganddynt gysylltiad cryf â’r gorffennol a hanes eu teulu, sy’n llawn straeon cyfareddol.
Mae’r sengl newydd yn ran o EP ‘Yr Unig Rhai Sy’n Cofio’ fydd allan ym mis Medi. Bwriad yr EP ydy sicrhau bod eu straeon teuluol yn aros mewn cof.
Bydd y sengl allan yn swyddogol ddydd Gwener nesaf, 28 Awst, on roedd cyfle cyntaf ecsgliwsif i glywed y trac newydd ar wefan Y Selar wythnos diwethaf, a dyma fo:
Un peth arall: Crys CPD Dinas Caerdydd SFA yn gwerthu am £200
Rydan ni wedi rhoi sylw i’r berthynas rhwng pêl-droed a cherddoriaeth yn y gorffennol, gan gynnwys ambell esiampl o fand neu label yn noddi tîm pêl-droed.
Debyg mai’r esiampl diweddaraf o hyn oedd label Recordiau Côsh yn noddi CPD Merched Bethel yn gynharach eleni.
Heblaw am Wet Wet Wet yn noddi CPD Clydebank, mae’n siŵr mai’r esiampl enwocaf o’r gorffennol oedd hwnnw o’r Super Furry Animals yn noddi crysau CPD Dinas Caerdydd ar gyfer eu hymgyrch Cwpan Cymru yn ystod tymor 1999-2000.
Roedd fersiynnau replica o’r crysau ar gael i’r cefnogwyr ar y pryd, ac mae ambell un o’r rhain i’w gweld nawr ac yn y man. Yn wir, fe ymddangosodd un ohonynt ar Ebay yn ddiweddar, a phrofi’n boblogaidd iawn.
Cyrhaeddodd y crys £200 erbyn diwedd yr ocsiwn ar 11 Awst – os oes ganddoch chi un yn cuddio ar waelod y wardrob, cadwch o’n saff!
Mae tystiolaeth fideo o Gaerdydd yn chwarae yn y crys yma’n brin, ond dyma uchafbwyntiau byr ohonyn nhw’n gwisgo’r crys yn y gêm ddarbi yn erbyn Y Bari: