Gig: Cowbois Rhos Botwnnog – Clwb Ifor Bach, Caerdydd – 21/02/20
Dewis bach anodd o brif gig y penwythnos yma gyda dwy daith o bwys ar y gweill.
‘Taith Dyddiau Du, Dyddiau Gwyn’, Cowbois Rhos Botwnnog sy’n cael y nod wrth iddyn nhw ddathlu 10 mlynedd ers rhyddhau ei hail albwm ardderchog. Dechreuodd y daith yn Ninbych wythnos diwethaf, gan ymweld â’r Bala ganol wythnos, a heno byddan nhw’n cyrraedd Caerdydd.
Yr ail daith sydd ar y gweill ydy taith sioe ‘Te yn y Grug’ Al Lewis. Perfformiwyd y sioe yn wreiddiol yn Eisteddfod Llanrwst wrth gwrs, ond mae’r daith yn dechrau heno yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.
Eithaf tawel ydy hi ar y cyfan fel arall, er fod gig fach werinol neis iawn yr olwg yng ngwmni VRï, Gwilym Bowen Rhys a Gwen Màiri fyny yn Yr Alban, ac yn ninas Glasgow yn benodol, nos Sul.
Cân: ‘\Neidia/’ – Gwilym
Un o uchafbwyntiau Gwobrau’r Selar wythnos diwethaf oedd perfformiad Gwilym o’r gân ‘\Neidia/’ wrth iddyn nhw gloi gig nos Wener.
Roedd yn foment arbennig ar y llwyfan gyda’r gân newydd gael ei chyhoeddi fel enillydd y wobr ‘Cân Orau’, ac mae’n amlwg fod y trac yn golygu tipyn i’r aelodau.
Roedd nifer o ganeuon ardderchog ar y rhestr hir am y wobr eleni, a chystadleuaeth gref gan y ddwy gân arall a gyrhaeddodd y rhestr fer sef ‘Babi Mam’ gan Alffa a ‘Dan y Tonnau’ gan Lewys.
Er hynny, mae’n anodd dadlau gyda’ch dewis chi, bleidleiswyr Gwobrau’r Selar gan fod hon yn dipyn o diwn.
Record: Te yn y Grug – Al Lewis
Mae albwm newydd Al Lewis, Te yn y Grug, allan yn swyddogol heddiw.
Fel tamaid i aros pryd fe ryddhaodd sengl newydd o’r albwm, ‘Mae Pob Peth yn Gorfod Newid’ ddydd Gwener diwethaf, 14 Chwefror.
Mae’r albwm ‘Te yn y Grug’ wedi’i ysbrydoli gan gyfrol enwog Kate Roberts o’r un enw, a cafodd y caneuon eu perfformio gyntaf fel rhan o’r sioe gerdd hynod lwyddiannus Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst yn Awst 2019.
Dyma’r ail sengl i ymddangos o’r casgliad newydd yn dilyn ‘Cân Begw’ a ryddhawyd cyn y Nadolig. Bydd Al hefyd yn dechrau ar daith hyrwyddo penwythnos yma gan ymweld â theatrau yn Aberystwyth, Caernaerfon, Aberteifi, Pwllheli ac Yr Wyddgrug rhwng hyn a diwedd mis Mawrth.
Dyma fanylion llawn y daith:
21 Chwefror – Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth
27 Chwefror – Galeri, Caernarfon
6 Mawrth – Theatr Mwldan, Aberteifi
27 Mawrth – Neuadd Dwyfor, Pwllheli
28 Mawrth – Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug
Artist: Mared
Newyddion ardderchog! Mae’n ymddangos fod y gwaith ar albwm cyntaf Mared yn agosáu at gael ei gwblhau.
Wythnos diwethaf, datgelodd Stiwdio Drwm eu bod yn brysur yn cymysgu record hir y gantores o Lanefydd sydd ar hyn bryd yn ran o gast sioe Les Mis yn y West End.
Bydd llais Mared yn gyfarwydd i lawer ohonoch chi o’i dyddiau gyda’r grŵp o Ddyffryn Clwyd, Trwbz, ac mae hefyd i’w chlywed ar y trac ‘Ddoe’ sydd ar albwm cyntaf Gwilym, Sugno Gola.
Roedd Mared wedi ei chynnwys ar restr fer categori ‘Artist Unigol Gorau’ Gwobrau’r Selar dros y penwythnos ac mae bellach wedi ymuno â label I KA Ching gan ryddhau sengl ‘Y Reddf’ ym mis Mehefin llynedd.
Tipyn o lais gan Mared, ac mae hon yn dipyn o diwn ganddi hefyd – mwy o hyn ar yr albwm gobeithio!
Un peth arall: Rhifyn Newydd Y Selar
Rhag ofn i chi golli’r newyddion, mae rhifyn newydd o gylchgrawn Y Selar wedi’i gyhoeddi ers penwythnos diwetha!
Roedd cyfle cyntaf i gael gafael ar gopi o’r rhifyn newydd ar ddiwedd penwythnos Gwobrau’r Selar nos Sadwrn, ond fe ddylai bellach fod wedi’i ddosbarthu i’r lleoliadau amrywiol arferol ledled Cymru.
Mae’r rhifyn newydd yn cynnwys manylion holl enillwyr Gwobrau’r Selar, ynghyd â rhestr ‘10 Uchaf Albyms’ 2019 yn ôl pleidleiswyr y Gwobrau.
Y gantores Georgia Ruth sydd ar glawr y rhifyn newydd wrth iddi baratoi i ryddhau ei halbwm newydd, Mai, ym mis Mawrth, ac mae cyfweliad gyda Georgia rhwng y cloriau,
Mae’r rhifyn hefyd yn cynnwys cyfweliad gydag enillwyr teitl ‘Record Hir Orau’ 2019, Fleur de Lys, Sgwrs Sydyn gydag Yr Eira am eu halbwm newydd sydd allan yn fuan, a hefyd eitem newydd gydag Ani Glass i drafod eu halbwm newydd hithau, ‘Mirores’.
Mae eitemau eraill y cylchgrawn yn cynnwys colofn wadd gan Nesdi Jones, cyflwyniad i dri o artistiaid newydd y sin a’r tudalennau adolygiadau arferol.
Yn ogystal â’r fersiwn print, gallwch hefyd ddarllen ar-lein wrth gwrs: