Gig: Alun Gaffey – Tudalen Facebook Coleg Gwent
Bach o amrywiaeth i chi o ran gigs digidol wythnos yma, gyda chwpl o bethau sy’n werth edrych nôl arnyn nhw, ynghyd ag ambell beth sy’n digwydd dros y penwythnos.
Yn gyntaf o ran edrych nôl mae set byw gan Alun Gaffey o’i gartref a ymddangosodd ar dudalen Facebook Coleg Gwent nos Fercher. Mae Gaff yn ffresh o ryddhau ei ail albwm unigol wrth gwrs ac mae hon yn set fach neis o ganeuon y record newydd a’i albwm cyntaf o 2016.
Gig Ddigidol / Digital Gig – Alun Gaffey
Mae Coleg Gwent yn falch o ddarlledu ein gig ddigidol cyntaf a hynny thrwy groesawu Alun Gaffey dros ffrwd Facebook. Gyda chyfyngiadau amlwg mewn lle yn sgil y sefyllfa bresennol, mae cerddorion ledled Cymru wedi bod yn prysur ffrydio'u setiau byw o'u cartrefi. Rydym yn hynod falch ein bod hefyd yn ymuno yn y fenter i gefnogi artistiaid wrth iddynt berfformio o bell.Mae Alun Gaffey yn gerddor amryddawn o Ogledd Cymru sydd bellach wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd. Dyma ambell i gan oddi ar ei albwm newydd, 'Llyfrau Hanes'. Mwynhewch!It comes with great pleasure to announce that Coleg Gwent are to broadcast our first Welsh digital gig by welcoming the multi-talented, Alun Gaffey. Adapting to the current situation of COVID-19, musicians across Wales have been busy streaming their live sets from their homes. We are glad to be able to support creatives during this difficult time.Alun Gaffey is a multi talented musician from North Wales and released his 2nd Album, 'Llyfrau Hanes' only last month. This is a unique and exclusive chance to catch his performance. Enjoy! www.coleggwent.ac.uk/welshlearners
Posted by Coleg Gwent on Wednesday, 20 May 2020
Os ydach chi’n ffansio rhywbeth hollol wahanol yna mae’n werth chi wylio set y telynor arbrofol anhygoel, Rhodri Davies, oedd yn darlledu ar sianel YouTube Free Range TV nos Iau:
Mae cyfres Gigs Cantre’r Gwaelod yn tueddu i ddigwydd yn Aberystwyth ddiwedd yr haf ers cwpl o flynyddoedd bellach, a thra bod y gyfres yn dal i ddigwydd eleni ar hyn o bryd, mae’r criw wedi penderfynu cynnal cyfres o gigs rhithiol hefyd. Gigs Cartref Gwaelod ydy enw rhain, a bydd y cyntaf dydd Sul yma am 15:00 i nodi pen-blwydd y mudiad yn 4 oed. Lowri Evans fydd yn perfformio yn y Gig Cartref Gwaelod cyntaf.
Un band sydd wedi bod yn brysur iawn dros gyfnod yr ynysu, yn bennaf gan fod yr aelodau i gyd yn rhannu tŷ, ydy Mellt. Byddan nhw’n perfformio’n ddigidol eto penwythnos yma fel rhan o Sesiwn Sul sy’n cael ei gynnal gan Clwb Ifor Bach ddydd Sul yma am 11:30.
Ac yn olaf, nid gig fel y cyfryw, ond mae Radio Ysbyty Gwynedd yn cynnal ‘Gŵyl Corona’ ddydd Sul, gyda pherfformiadau gan artistiaid amrywiol rhwng 19:00 a 21:00 gan godi arian at gostau cynnal y gwasanaeth radio pwysig yma.
Rhowch wybod am unrhyw beth arall sydd ar y gweill er mwyn i ni allu rhannu.
Cân: ‘(Dafydd) Ale Dydd Sul’ – Achlysurol
Sengl newydd a ryddhawyd wythnos diwethaf oedd honno gan y grŵp o Arfon, Achlysurol.
‘(Dafydd) Ale Dydd Sul’ ydy’r trac diweddaraf i ymddangos gan y triawd ac mae’n dilyn y senglau Dros y Môr’ a ryddhawyd ym mis Chwefror eleni, a ‘Sinema’ a ryddhawyd ganddynt ym mis Tachwedd.
“Ar ôl cyfansoddi’r gerddoriaeth, y geiriau cyntaf ddoth i fy mhen oedd Dafydd Ale Dydd Sul” meddai Aled Emyr, basydd Achlysurol, am y sengl newydd.
“Dim syniad pwy nath feddwl am y term yma, ond dyma ’ma rhai ohona ni’n galw mynd am gwpwl o beints ar brynhawn dydd Sul. Mae ’na eiriau sy’n awgrymu ein cysylltiad ni â’r capal ar ddydd Sul hefyd ond dim cân drom di hon, jest gân sy’n cyfleu awyrgylch hamddenol y diwrnod”.
Recordiwyd y trac yng Nghaerdydd gyda Mei Gwynedd yn cynhyrchu ac ar ei label yntau, JigCal, mae hi allan.
I gyd-fynd â’r sengl fe gyhoeddwyd fideo o Aled yn perfformio’r trac newydd ar sianel AM label JigCal ddydd Llun.
Record: Ynysig #1 – Hap a Damwain
Grŵp sydd heb fod yn segur yn ystod y cyfnod ynysu ydy Hap a Damwain, ac maen nhw bellach wedi rhyddhau EP newydd ar eu safle Bandcamp.
‘Ynysig #1’ ydy enw’r casgliad byr pedwar trac. Bydd rhai wedi clywed dau o’r rhain eisoes, sef ‘Methodist’ a ‘Tŷ Baw’, sydd wedi’u rhyddhau fel senglau’n ddiweddar, ond mae’r ddau drac arall, ‘Tybio’ a ‘Tagsville UK’ yn draciau newydd.
Mae Hap a Damwain yn brosiect newydd sy’n cynnwys dau o gyn-aelodau’r grŵp Boff Frank Bough, oedd yn amlwg yn y 1980au, sef Aled Roberts a Simon Beech. Mae Aled Roberts hefyd yn aelod o’r grŵp Dau Cefn.
Er mai dim ond ers rhai misoedd maen nhw’n bodoli, ‘Ynysig #1’ ydy ail EP Hap a Damwain – rhyddhawyd EP o’r enw ‘Bws 10’ ganddynt yn ddigidol ar ddechrau mis Chwefror. Mae’r EP hwnnw ar gael ar safle Bandcamp y grŵp yn ogystal ag ar y llwyfannau digidol arferol eraill.
Dyma ‘Methodist’:
Artist: Tesni Hughes
Mae wastad yn bleser gweld cerddorion newydd yn ymddangos ac yn cymryd eu camau cyntaf i sefydlu eu hunain.
Ein darganfyddiad diweddaraf ydy’r gantores ifanc addawol o Fôn, Tesni Hughes, sydd wedi cyhoeddi trac unigol newydd ar ei safle Soundcloud wythnos diwethaf.
Bydd Tesni’n gyfarwydd i rai gan ei bod yn aelod o ddau fand ifanc o’r gogledd sef Aerobic ac Amharchus. Mae hefyd yn cyfansoddi a pherfformio’n unigol ac fe roddodd ei thrac solo cyntaf ar-lein gwpl o fisoedd yn ôl.
‘Fflama i’r Tân’ ydy enw’r trac newydd ac mae’n gân er cof am ei thaid a fu farw rai blynyddoedd yn ôl ac oedd yn berson arbennig iawn ym mywyd Tesni.
“Enw’r gân ydy ‘Fflama i’r Tân’ a dwi ‘di ysgrifennu hi am fy nhaid” eglurodd Tesni.
“Nes i golli’n nhaid pan o’n i’n wyth oed ac mae o’n dal i effeithio arna’i rŵan. Felly fy ffordd i o ddelio gyda’r sefyllfa oedd sgwennu amdano fo.”
“Dwi fel arfer yn chwarae’r gân yn fyw gyda fy mand, Amharchus, ond heb gael y cyfle i recordio fel band felly mi wnes i ei rhyddhau’n acwstig.”
Mae’r gantores 16 oed wedi recordio’r trac ei hun yn ei chartref a dyma’r ail drac iddi gyhoeddi ar ei Soundcloud yn dilyn ‘Pell i Ffwrdd’.
Un peth arall: Archif Gorwelion – pennod 1
Nos Fercher fe wnaeth Gorwelion ddarlledu’r gyntaf mewn cyfres o raglenni’n edrych nôl ar rai o uchafbwyntiau’r cynllun dros y bum mlynedd ddiwethaf.
Mae’r cynllun wedi bod yn fywiog iawn wrth gwrs ac wedi gallu cynnig llwyfan i artistiaid o Gymru mewn gwyliau di-rif, ynghyd â llun o gyfleoedd eraill.
Yn anffodus, mae eu gweithgarwch yn mynd i gael ei gyfyngu eleni, yn enwedig o ran gwaith gyda gwyliau cerddoriaeth yr haf. Ond, yn ffodus iawn maen nhw wedi cofnodi lot fawr o’r hyn sydd wedi digwydd dros y blynyddoedd diwethaf ar ffilm – digon i greu pecynnau bach pert o raglenni archif 25-ish munud sy’n gyfle i hel atgofion.
Mae’r bennod gyntaf i’w gweld ar dudalen Facebook Gorwelion, ac yn sicr yn rhoi blas.
O ddiddordeb arbennig ni yn y bennod gyntaf mae cyfweliad byr gydag Alffa, ynghyd â’r gân ‘Gwenwyn’ o sesiwn Gorwelion yn Rockfield; sgwrs a chân gan Adwaith o Ŵyl Rhif 6 ym Mhortmeirion; a chân o sesiwn Chroma yn stiwdio enwog Maia Vale.
Ac mae teimlad retro, ‘Chart Show’ (i unrhyw un sy’n ddigon hen i gofio hwnnw!) y penodau’n grêt.
? Director Jamie Panton delves into the 5 years of Horizons, selecting some personal favourites.Ymunwch a thîm Gorwelion I fynd trwy'r Archif, rhaglen gyntaf wythnos honEpisode 1 features: Adwaith / Alffa / CaStLeS / Casey / CHROMA / Climbing Trees / Danielle Lewis / Fleur de Lys / Monico Blonde / Reuel Elijah / Roughion / TibetBBC Cymru Wales | Cyngor Celfyddydau Cymru | Arts Council of Wales
Posted by Horizons / Gorwelion on Wednesday, 20 May 2020